- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Mawrth 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;
ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau wedi'u Rhif o 1 a 2 gyda phob cyfrol wedi'i marcio “Cyfrol o Fapiau ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru” a chyda Rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999 wedi'i llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi'i hadneuo yn Swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio Rheoliadau penodol(1);
ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â Rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(2).
ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;
ystyr “tir llai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir tan anfantais neu tir tan anfantais ddifrifol;
ystyr “tir tan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir tan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig.
ystyr “tir tan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig;
OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 552/2007 (OJ Rhif L131, 23.5.2007, t.10).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: