Search Legislation

Rheoliadau Cydweithio rhwng Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyfyngiadau ar bersonau i gymryd rhan mewn trafodion

9.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn yr Atodlen ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw aelod o'r cyd-bwyllgor, pennaeth (p'un a yw'n aelod o'r cyd-bwyllgor ai peidio) neu unrhyw berson a benodwyd yn glerc i'r cyd-bwyllgor.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)os gall gwrthdaro ddigwydd ynghylch unrhyw fater rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau corff llywodraethu sy'n cydweithredu;

(b)os bydd gwrandawiad teg yn ofynnol a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd ynglyn ag unrhyw fater; neu

(c)os bydd gan berson perthnasol fuddiant ariannol yn unrhyw fater;

rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor pan fydd y mater yn destun ystyriaeth, ddatgelu ei fuddiant, ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater o dan sylw.

(3Ni ddylid dehongli bod dim yn y rheoliad hwn neu yn yr Atodlen sy'n atal—

(a)y cyd-bwyllgor rhag—

(i)caniatáu i berson sy'n ymddangos ger ei fron i roi tystiolaeth i fynychu unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddo i unrhyw fater a chyflwyno'i dystiolaeth; neu

(ii)gwrando ar sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth heblaw person perthnasol;

(b)person perthnasol rhag ymrwymo mewn contract â chorff llywodraethu sy'n cydweithredu y mae ganddo'r hawl i elwa ohono.

(4Nid yw'n ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc mewn cyfarfod cyd-bwyllgor ymneilltuo o gyfarfod o dan y rheoliad hwn neu'r Atodlen onid yw ei benodiad i'r swydd, ei dâl, neu gamau disgyblu yn ei erbyn yn destun ystyriaeth, ond os byddai'r rheoliad hwn neu'r Atodlen fel arall yn ei gwneud yn ofynnol iddo ymneilltuo, rhaid iddo beidio â gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth heblaw swyddogaeth clerc.

(5Os oes unrhyw anghydfod ynghylch p'un a yw'n ofynnol o dan y rheoliad hwn i berson perthnasol ymneilltuo o gyfarfod cyd-bwyllgor a pheidio â phleidleisio ar y cwestiwn hwnnw rhaid i aelodau eraill y cyd-bwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod benderfynu arno.

(6Mae'r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer buddiannau ariannol a gwrthdrawiadau penodedig eraill o ran buddiant.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources