- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
10.—(1) Rhaid i'r clerc neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod cyd-bwyllgor; rhaid iddynt gael eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y cyd-bwyllgor) gan y cadeirydd yng nghyfarfod nesaf y cyd-bwyllgor.
(2) Rhaid i'r cyd-bwyllgor roi i'w hawdurdod addysg lleol gopi o'r cofnodion drafft neu'r cofnodion a lofnodwyd o unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd ganddo pan ofynnir amdanynt gan yr awdurdod addysg lleol hwnnw.
(3) Rhaid gosod cofnodion o'r trafodion mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a gellir eu gosod mewn tudalennau rhydd wedi'u Rhif o'n olynol ond yn yr achos hwnnw rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion lofnodi pob tudalen â llythrennau cyntaf ei enw.
(4) Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y cyd-bwyllgor at ddibenion unrhyw gyfarfod gofnodi yn union o flaen y cofnod sy'n rhoi cofnodion y cyfarfod hwnnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau aelodau'r cyd-bwyllgor ac enw unrhyw berson arall sy'n bresennol yn y cyfarfod.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r cyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu bod y canlynol ar gael i'w harchwilio ym mhob un o'r ysgolion sy'n cydweithio gan unrhyw berson sydd â diddordeb, a rhoi i'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu—
(a)yr agenda ar gyfer pob cyfarfod;
(b)y cofnodion a lofnodwyd o bob cyfarfod o'r fath;
(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath;
(ch)cofnodion drafft o unrhyw gyfarfod, os ydynt wedi cael eu cymeradwyo gan berson sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw; a
(d)copi o'r agenda a'r cofnodion a lofnodwyd ar gyfer pob cyfarfod ac unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd yn y cyfarfod.
(6) Caniateir i'r cyd-bwyllgor wahardd o unrhyw eitem y mae'n ofynnol trefnu ei bod ar gael yn unol â pharagraff (5) unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—
(a)enw person sy'n gweithio, neu y bwriedir y bydd yn gweithio, mewn ysgol;
(b)enw disgybl mewn ysgol, neu ymgeisydd ar gyfer cael ei dderbyn i ysgol;
(c)unrhyw fater arall, oherwydd ei natur, y mae'r cyd-bwyllgor yn fodlon y dylai barhau'n gyfrinachol.
(7) Rhaid i bob tudalen o unrhyw gopïau o gofnodion drafft a gyhoeddir o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd ddangos mai cofnodion drafft ydynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: