Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 11CYMORTH I GYRSIAU DYSGU O BELL AMSER-LLAWN

Myfyrwyr dysgu o bell cymwys

62.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru wrth asesu ei gais am gymorth yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Nid yw person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(1); neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(b)os ydyw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os ydyw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os ydyw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw'n garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—

(a)os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell —

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(5Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.

(6At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7Mewn achos pan fo'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (9) neu (10).

(9Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs; ac

(c)nad yw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(10Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;

(ii)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig heblaw'r cwrs dysgu o bell presennol; neu

(iii)yn fyfyriwr rhan amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(11Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(2)),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr rhan amser cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(14Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—

(a)at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(ch)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl radd dynodedig.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

63.—(1Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(2Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(3Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; ac

(b)nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(dd)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(ff)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.

Cyrsiau dysgu o bell dynodedig

64.—(1Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62 os caiff ei ddynodi gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a)bod y cwrs yn cael ei grybwyll yn Atodlen 2 heblaw am gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)bod y cwrs yn gwrs amser-llawn;

(c)bod y cwrs yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch)nad yw'n ofynnol gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs bod myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ei fynychu.

(3At ddibenion penderfynu a yw'r gofyniad ym mharagraff (2)(ch) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i)cofrestru;

(ii)arholiad;

(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw'n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad neu'r sefydliadau hynny.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

Cyfnod cymhwystra

65.—(1Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd onid yw'r statws yn terfynu yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 62.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra”.

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 62, mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws dan reoliadau 73, 74, 75, neu 88; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dangos trwy ei ymddygiad nad yw'n addas i dderbyn cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 78.

(7Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

66.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—

(i)£930; a

(ii)y “ffioedd gwirioneddol”, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b)grant nad yw'n fwy na £1,050 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan baragraff (1)(b) os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn—

(a)os ydyw'n fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell —

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os ydyw wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfanswm o wyth mlynedd a'i fod wedi derbyn benthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (6) mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny.

(6Y benthyciadau a'r grantiau yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â'r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(3); neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(4).

(7Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os yw'n ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(8At ddibenion paragraff (7), nid yw gradd i'w chael ei thrin fel gradd gyntaf—

(a)pan fo'n radd (heblaw gradd anrhydedd) a roddwyd i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddulliau eraill o asesu angenrheidiol ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b)pan fo'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol yn dilyn derbyn ei radd er mwyn ennill gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddull arall o asesu angenrheidiol.

Swm y cymorth

67.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 73(6), mae swm y cymorth a delir ar gyfer blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, â hawl—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(5) i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal treth cyngor; neu

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(6) i lwfans ceisiwr gwaith seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogi a Hyfforddiant 1973(7) i lwfans o dan y trefniadau a adnabyddir fel Y Fargen Newydd;

mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1) yn daladwy;

(b)pan fo'r incwm perthnasol yn llai na £16,110, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1) yn daladwy;

(c)pan fo'r incwm perthnasol yn £16,110, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(a);

(ch)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £16,110, ond yn llai na £24,295, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(a) yw'r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);

(d)pan fo'r incwm perthnasol yn £24,295, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(a) yw £50;

(dd)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £24,295 ond yn llai na £24,925, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 66(1)(a);

(e)pan fo'r incwm perthnasol yn £24,925 neu ragor ond yn llai na £26,915, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 66(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(b) yw'r swm a adewir yn dilyn didynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) £1 am bob £2.00 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £24,925;

(f)pan fo'r incwm perthnasol yn £26,915, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 66(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(b) yn £50;

(ff)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £26,915, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 66(1).

(2Pan fo paragraff (1)(ch) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy'n daladwy o dan reoliad 66(1)(a) trwy ddidynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(a) un o'r symiau canlynol—

(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £9.86 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £16,110; neu

(b)pan fo'r ffioedd gwirioneddol yn llai na £930, cyfanswm sy'n hafal i'r hyn a adewir wedi didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £930 a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(a)).

Dehongliad o reoliad 67

68.—(1At ddibenion rheoliad 67—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu fwy ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth a phan ddechreuodd y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef neu'n bartner sifil pan ddechreuodd myfyriwr dysgu o bell cymwys cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(b)nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i'w drin fel partner os—

(i)ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu

(ii)bod y person fel rheol yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(c)ystyr “incwm perthnasol” (“relevant income”) yw'r hyn a welir ym mharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i'w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(i)£2,000 yn achos ei bartner;

(ii)£2,000 yn achos yr unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a

(iii)£1,000 yn achos pob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, gallant asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw trwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Yn y rheoliad hwn golyga ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol gyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm incwm y flwyddyn honno unrhyw berson sy'n bartner i'r myfyriwr ar ddyddiad gwneud y cais.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(ch)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(d)ystyr “incwm” (“income” ) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(dd)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(e)ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth tuag ato, neu pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf , y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.

Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

69.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol iddo'i ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9;

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.

(6Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na'r canlynol—

(a)£20,000 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,035 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol a dynnir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)o fewn neu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(ch)£1,685, mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

Ceisiadau am gymorth

70.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a'i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid anfon gyda'r cais—

(a)datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

(b)y cyfryw ddogfennaeth ychwanegol ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(5Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

(6Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—

(a)pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 63 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

(b)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu

(c)pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd

71.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda'r cais am gefnogaeth.

(2Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw'n gallu rhoi'r cadarnhad gofynnol.

(3Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o'r cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

(b)ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac

(c)mewn unrhyw achos pan fo'r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm heblaw'r ffaith na all fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy'n ymwneud â'i anabledd.

Gwybodaeth

72.  Mae Atodlen 3 yn ymwneud â darparu gwybodaeth.

Trosglwyddo statws

73.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i'r cwrs hwnnw pan—

(a)derbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, weddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru bod ganddo hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 66(1)(b) neu reoliad 69 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(6Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 66(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs sydd â'r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y'u diffinnir yn rheoliad 66.

Trosi statws — myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig

74.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)mae uchafswm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl y byddai gan y myfyriwr hawl iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean pan ddaeth yn gyfryw fyfyriwr yn ystod chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(c)pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy'n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(ch)pan fo'r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â'r paragraff hwnnw.

(3Pan fo'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu'r uchafswm a gynyddwyd o'r cyfryw fenthyciad (yn ôl y digwydd) o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.

Trosi statws — myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

75.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i'r myfyriwr mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwydda'r myfyriwr ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai'r myfyriwr, ar wahân i'r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth yn gyfryw fyfyriwr mewn chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(ch)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy'n daladwy iddo o dan Ran 5 i'r diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo i'r diben hwnnw, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd

76.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd y mae'r myfyriwr â hawl iddo i'r awdurdod academaidd priodol wedi i gais dilys am daliad ddod i law.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau fel y gwelant yn dda.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy'n briodol.

Talu grantiau ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

77.—(1Caiff taliadau'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo trwy drosglwyddiad electronig.

(2Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd oddi wrth y myfyriwr, gallant wneud asesiad dros dro a thaliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 71 oni bai bod eithriad yn gymwys.

(6Mae eithriad yn gymwys—

(a)os oes grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a'r pryd hynny gellir talu'r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Gordaliadau

78.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl iddo o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.

(4Y dulliau o adennill yw—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(6Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

(7Dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(8Yr amgylchiadau yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn terfyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.

(9Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i'r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

(10Pan fo gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â'r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.

(1)

O.S.A. 2007/151, a ddiwygiwyd gan O.S.S. 2007/503.

(2)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo(Trin Ceiswyr etc) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4 a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.

(3)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac fe'i diwygiwyd gan adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(5)

1992 p. 4; Diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19; Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14; Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3; Deddf Tai 1996 (p. 52), Atodlen 19 Rhan 6; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 6, Rhan 3; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Credydau Treth 2002 (p. 21), Atodlen 6; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, paragraffau 169 a 179, Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 a Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 40), Atodlen 30(2) a 31(1), Atodlen 3, Atodlen 5 ac Atodlen 8.

(6)

1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1; Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlenni 7 ac 8; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 1, 7 ac 8; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2; Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 ac O.S. 2006/343.

(7)

1973 p. 50; diwygiwyd adran 2 fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) gan Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p. 38), Atodlen 7. Mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19), adran 47 mewn perthynas â'r Alban yn unig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources