Search Legislation

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 840 (Cy.73)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007

Yn dod i rym

15 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48 (1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 15 Mawrth 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “letus awdurdodedig” (“authorised lettuce”) yw letus o'r math a bennir ym mhwynt 1.3 o adran 1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn sy'n cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 7(2) o ran y Deyrnas Unedig;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation” ) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwydydd(3);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod iechyd porthladd i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “ysbigoglys awdurdodedig” (“authorised spinach”) yw ysbigoglys o'r math a bennir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn sydd yn cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 7(1) o ran y Deyrnas Unedig.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

Tramgwyddau, cosbau ac arbedion

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5) a'r trefniadau trosiannol a geir yn Erthygl 11, mae person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol a bennir ym mharagraff (2) neu os yw'n methu â chydymffurfio â hi.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

(a)Erthygl 1(1), (gwaharddiad rhag rhoi deunyddiau bwydydd sy'n cynnwys halogion uwchlaw'r terfynau'r rhagnodedig ar y farchnad), fel y'i darllenir gydag Erthygl 4 yn achos cnau daear, cnau, ffrwythau sych ac indrawn;

(b)Erthygl 3 (gwaharddiadau rhag defnyddio, cymysgu a dadwenwyno).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i roi letus awdurdodedig nac ysbigoglys awdurdodedig ar y farchnad.

(4Mae unrhyw berson a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(5Er gwaethaf dirymu Rheoliadau Halogion Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2006(4), mae'r trefniadau trosiannol y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hynny yn gymwys i dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel petaent yn gymwys o dan y Rheoliadau hynny.

Gorfodi ac awdurdodau cymwys

4.—(1Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ranbarth a phob awdurdod porthladd o fewn ei ardal yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 2(2) (cyfiawnhad gweithredwyr busnesau bwyd dros ffactorau crynodi neu wanedu) yw'r awdurdod sydd â'r ddyletswydd i orfodi o dan baragraff (1).

Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

5.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(f)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd amheus a'i gymryd i feddiant) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn —

9.(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market and subsections (2) to (7) below shall apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food fails to comply with the requirements specified in regulation 3(2)(a) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2007 as read with regulation 3(3) and (5) of those Regulations and with Article 11 of the Commission Regulation, (“the Community requirements”).

(2) The authorised officer may either—

(a)give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it—

(i)is not to be used for human consumption, and

(ii)either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by Article 8 of the Commission Regulation; or

(b)seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, he or she must, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, determine whether or not he or she is satisfied that the food complies with the Community requirements and —

(a)if he or she is so satisfied, must forthwith withdraw the notice;

(b)if he or she is not so satisfied, must seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, he or she is to inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and —

(a)any person who in connection with regulation 3(2)(a) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food must, if he or she attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and

(b)that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence consisting of a contravention of regulation 3(2)(a) of the above Regulations in relation to that food.

(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as he or she considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by him under this section fails to comply with the Community requirements he must condemn the food and order —

(a)the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and

(b)any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.

(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority will compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.

(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above is to be determined by arbitration.

(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under subsection (2)(a) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale..

(3Mae i'r ymadroddion “authorised officer” (“swyddog awdurdodedig”) “food authority” (“awdurdod bwyd”), “placing on the market” (“rhoi ar y farchnad”), a “the Commission Regulation” (“Rheoliad y Comisiwn”) a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny, yr ystyron sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn eu trefn yn y Rheoliadau hyn.

Diwygiad canlyniadol

6.  Yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(5) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006 rhodder y cofnod a ganlyn —

  • The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2007 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with the Commission Regulation as that expression is defined in those Regulations) O.S. 2007/ .

Dirymu

7.  Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006 wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/1850) (“Rheoliadau 2006”) ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau. Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn deunyddiau bwydydd (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5) (“Rheoliad y Comisiwn”). Mae Rheoliad y Comisiwn yn cydgrynhoi ac yn gwneud diwygiadau pellach i'r darpariaethau a geid gynt yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001.

2.  Mae'r Rheoliadau yn —

(a)darparu mai tramgwydd, (ac eithrio mewn achosion penodol sy'n ymwneud â rhoi bwyd ar y farchnad cyn dyddiad a roddir mewn deddfwriaewth Gymunedol benodol) yw—

(i)rhoi bwydydd penodol ar y farchnad os ydynt yn cynnwys halogion o unrhyw fath a bennir yn Rheoliad y Comisiwn mewn lefelau uwch na'r rhai a bennir (yn ddarostyngedig i rhanddirymiad sy'n gymwys i fathau penodol o letus ac i ysbigoglys (sbinaets) ffres),

(ii)defnyddio bwyd sy'n cynnwys yr halogion hynny mewn lefelau o'r fath fel cynhwysion wrth gynhyrchu rhai bwydydd,

(iii)cymysgu bwydydd nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd sy'n cydymffurfio,

(i)cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac a fwriedir i'w bwyta yn uniongyrchol neu fel cynhwysion bwyd gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac y bwriedir eu dosbarthu neu roi triniaeth arall iddynt cyn eu bwyta, neu

(ii)dadwenwyno drwy driniaeth gemegol fwyd sy'n cynnwys mycotocsinau uwchlaw'r terfynau a bennir yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);

(b)pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c)darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5);

(ch)gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 6), gyda'r effaith o ddatgymhwyso'r darpariaethau samplu a dadansoddi yn y Rheoliadau hynny ond yn unig i'r graddau y mae'r materion hynny yn cael eu rheoleiddio gan yr offerynnau Cymunedol a grybwyllir ym mharagraff 3(a) i (dd) isod.

3.  Mae Rheoliad y Comisiwn yn pennu dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi y mae'n rhaid eu defnyddio er mwyn rheoli'n swyddogol lefelau'r sylweddau a gwmpesir ganddo. Ceir y dulliau hynny dull yn —

(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD sydd mewn deunyddiau bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14), fel y'i cywiriwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC (OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34), ac fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/4/EC (OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.50);

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun (OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/10/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyren sydd mewn deunyddiau bwydydd (OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.15);

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 401/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r mycotocsinau sydd mewn deunyddiau bwydydd (OJ Rhif L70, 9.3.2006, t.12);

(d)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1882/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r nitradau sydd mewn deunyddiau bwydydd penodol (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.25); a

(dd)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1883/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r deuocsinau a biffeynylau polyclorinedig tebyg i ddeuocsinau sydd mewn deunyddiau bwydydd (OJ Rhif . L364, 20.12.2006, t.32).

4.  Cafodd arfarniad rheoliadol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf adeg gwneud y Rheoliadau hyn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(3)

OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5.

(5)

O.S. 1990/2463; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1603

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources