Search Legislation

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 812 (Cy.69)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007]

Yn dod i rym

14 Mawrth 2007

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2007 ac maent yn dod i rym ar 14 Mawrth 2007.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999(3) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2,

(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “junior pupil” a “senior pupil” ac mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor —

“assistant head teacher” means a qualified teacher (within the meaning of section 132 of the Education Act 2002(4)) with leadership responsibilities across the whole school who is appointed to the post of assistant head teacher;;

“pupils of primary school age” means children who are under the age of 12;;

“pupils of secondary school age” means persons who are aged 12 or over;; a

(b)ym mharagraff (2), o flaen “and 9”, mewnosoder “, 5(1)”.

(3Ailrifer rheoliad 3 yn baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac mewnosoder ar ôl y paragraff (1) ailrifedig —

(2) All members are to act as individual members and not as representatives of the organisation, if any, to which they belong, nor, if relevant, as representatives of the organisation which nominated them for the purposes of regulation 7 nor as representatives of the Assembly.

(4Yn rheoliad 4,

(a)ym mharagraff (a) yn lle “junior pupils” rhodder “pupils of primary school age”;

(b)ym mharagraff (b) yn lle “senior pupils” rhodder “pupils of secondary school age”; ac

(c)yn lle paragraff (c) rhodder —

(c)four head teachers, deputy head teachers or assistant head teachers (in any combination), one of whom must be a head teacher, deputy head teacher or assistant head teacher at a secondary school (within the meaning of section 5(2) of the 1996 Act)..

(5Yn rheoliad 5,

(a)ym mharagraff (1) mewnosoder ar ôl y geiriau “as a teacher” (yn is-baragraffau (a) a (b)) y geiriau “in a school”; a

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol —

(1A) In paragraph (1) “school” means a school maintained by a local education authority or a special school not so maintained. .

(6Yn rheoliad 6(2) a (3), hepgorer y geiriau “with the approval of the Secretary of State”.

(7Yn rheoliad 7, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Where an organisation set out in the Schedule changes its name, but its objects are not materially changed, the reference to the organisation in the Schedule is to be read as a reference to the organisation under its new name..

(8Yn yr Atodlen —

(a)yn Rhan Un, yn lle “Secondary Heads Association in Wales” rhodder “Association of School and College Leaders” ac yn lle “NATFHE — The University and College Lecturers' Union” rhodder “University and College Union”; a

(b)yn Rhan Dau, yn lle “Fforwm Ltd” rhodder “Fforwm” a hepgorer “Further Education National Training Organisation”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999, fel y'u diwygiwyd, (“Rheoliadau 1999”) yn darparu ar gyfer cyfansoddiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1999.

Mae rheoliadau 2(2) a 5 o Reoliadau 1999 wedi'u diwygio fel na fydd person yn gymwys i gael ei ethol i'r Cyngor o dan reoliad 4 nac i gael ei benodi o dan reoliad 11(1)(a), oni bai, yn ogystal â bodloni'r meini prawf presennol ynghylch hyd y cyfnod cyflogaeth fel athro neu athrawes, ei fod yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor ac wedi'i gyflogi mewn ysgol a gynhelir gan AALl (neu ysgol arbennig nas cynhelir felly). Mae Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig sy'n gwneud gwaith penodedig (h.y. addysgu) mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fod wedi'i gofrestru neu wedi'i chofrestru gyda'r Cyngor, ac felly effaith y diwygiadau hyn i Reoliadau 1999 yw mai dim ond yr athrawon hynny, yr oedd yn ofynnol iddynt fod wedi'u cofrestru, sy'n gymwys i gael eu hethol neu eu penodi o dan reoliad 4 neu 11(1)(a). Yn rhinwedd rheoliad 7(3) o Reoliadau 1999 mae'r gofyniad newydd hwn yn gymwys hefyd i berson a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cael ei enwebu gan gorff a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau 1999.

Mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 wedi'i ddiwygio er mwyn ei gwneud yn glir bod holl aelodau'r Cyngor (p'un a ydynt wedi'u hethol neu wedi'u penodi) i weithredu fel unigolion ac nid fel cynrychiolwyr unrhyw gyrff y maent yn perthyn iddynt neu a'u henwebodd hwy i gael eu penodi.

Mae rheoliad 4 o Reoliadau 1999 (o'i ddarllen gyda'r diffiniadau newydd sydd wedi'u mewnosod yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny) wedi'i ddiwygio yn y fath fodd ag i ailenwi'r categori o aelodau etholedig y Cyngor, sydd wedi'i ffurfio o athrawon disgyblion iau, yn athrawon disgyblion oedran ysgol gynradd a'r categori sydd wedi'i ffurfio o athrawon disgyblion hŷn yn athrawon disgyblion oedran ysgol uwchradd. Y cyfan y mae hyn yn ei wneud yw adlewyrchu'r termau sy'n cael eu harfer gan y Cyngor a'r proffesiwn addysgu. Mae rheoliad 4 wedi'i ddiwygio hefyd fel bod y categori o aelodau etholedig a oedd wedi'i ffurfio o benaethiaid neu ddirprwy benaethiaid wedi'i ffurfio bellach o benaethiaid, dirprwy benaethiaid neu benaethiaid cynorthwyol, y mae'n rhaid i un ohonynt ddod o'r sector uwchradd.

Mae rheoliad 6(2) a (3) o Reoliadau 1999 wedi'i ddiwygio fel nad oes angen i gynllun etholiadol o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau hynny gael ei gymeradwyo mwyach gan y Cynulliad Cenedlaethol (yr Ysgrifennydd Gwladol cyn hynny).

Mae rheoliad 7 o Reoliadau 1999 wedi'i ddiwygio er mwyn ei gwneud yn glir, pan fo corff a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny yn newid ei enw ond yr un corff ydyw o hyd i bob pwrpas, fod y cyfeiriad yn yr Atodlen i'w ddarllen fel cyfeiriad at y corff o dan ei enw newydd.

Mae'r Atodlen i Reoliadau 1999 wedi'i diwygio er mwyn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i enwau'r cyrff sy'n cael eu rhestru ers y tro diwethaf iddi gael ei diweddaru yn 2003.

(1)

1998 p.30; i gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1). Mae adran 1(5) a (7) ac Atodlen 1 yn effeithiol mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources