Search Legislation

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Awdurdod” (“Authority”) yw naill ai prif awdurdod (“primary authority”) neu awdurdod eilaidd (“secondary authority”) fel y'i diffinnir yn adran 58 (“primary and secondary authorities”) o'r Ddeddf;

mae i “awdurdod mynediad” a “tir mynediad” yr ystyr a roddir i “access authority” ac “access land” yn Rhan 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;

ystyr “fforwm mynediad lleol” (“local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

ystyr “tir yr effeithir arno” (“affected land”) yw tir sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli cŵn neu i fwriad i wneud gorchymyn rheoli cŵn.

Ymgynghori cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn.

3.  Cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod—

(a)ymgynghori ar ei fwriad i wneud gorchymyn drwy beri cyhoeddi ar ei wefan hysbysiad—

(i)sy'n dynodi'r tir yr effeithir arno—

(aa)drwy ei ddisgrifio, a

(bb)pan fo cyfeiriad yn y gorchymyn y bwriedir ei wneud at fap, drwy gyhoeddi'r map hwnnw;

(ii)sy'n dynodi unrhyw dir mynediad a gynhwysir o fewn y tir yr effeithir arno;

(iii)sy'n gosod i lawr effaith cyffredinol gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud;

(iv)sy'n datgan y cyfnod a roddir i wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (sy'n gyfnod nad yw'n llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf yn unol â'r paragraff hwn);

(v)sy'n datgan y cyfeiriad a'r cyfeiriad e-bost lle dylid anfon y sylwadau;

(b)pan fo hynny'n ymarferol, peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at effaith gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud.

4.  Rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a)—

(a)i unrhyw Awdurdod arall sydd â phwer o dan adran 55 o'r Ddeddf i wneud gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno;

(b)pan fo unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno yn dir mynediad,—

(i)i'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir mynediad hwnnw;

(ii)i'r fforwm mynediad lleol ar gyfer y tir mynediad hwnnw; a

(iii)i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir mynediad hwnnw nad yw o fewn Parc Cenedlaethol.

Gweithdrefnau ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn

5.  Ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn, rhaid i Awdurdod, ymhen dim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod y bydd y gorchymyn yn dod i rym arno—

(a)peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at y ffaith fod gorchymyn wedi'i wneud ac at effaith gwneud y gorchymyn hwnnw;

(b)cyhoeddi ar ei wefan—

(i)hysbysiad sy'n datgan—

(aa)fod y gorchymyn wedi'i wneud,

(bb)yn lle y gellir cael copïau ohono;

(ii)copi o'r gorchymyn,

(iii)copi o unrhyw fap y cyfeirir ato yn y gorchymyn;

(c)anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i) o is-baragraff (b) at y personau a bennir yn rheoliad 4.

Diwygio a dirymu gorchmynion rheoli cŵn: gofynion gweithdrefnol

6.  Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i ddiwygio ac i ddirymu gorchymyn rheoli cŵn megis petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at orchymyn (neu orchymyn y bwriedir ei wneud) yn gyfeiriadau at ddiwygio neu at ddirymu gorchymyn (neu at ddiwygio neu ddirymu gorchymyn y bwriedir ei wneud, yn ôl y digwydd).

Tramgwyddau a chosbau a ragnodir

7.—(1At ddibenion adran 55(4) o'r Ddeddf, y tramgwyddau a ragnodir yw'r rhai hynny a osodir ym mharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5.

(2Y gosb sydd i'w gosod mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd mewn gorchymyn rheoli cŵn, ar gollfarn ddiannod, yw dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3Caiff gorchymyn rheoli cŵn bennu'r amserau neu'r cyfnodau y gellir cyflawni tramgwydd o'u mewn.

Geiriad penodedig i'w ddefnyddio mewn gorchymyn rheoli cŵn, a ffurf y gorchymyn

8.  Rhaid i Awdurdod sy'n gwneud gorchymyn rheoli cŵn—

(a)wrth ddarparu ar gyfer unrhyw dramgwydd, defnyddio'r geiriad a bennir yn yr Atodlen sy'n gymwys i'r tramgwydd hwnnw (dan y pennawd “tramgwydd”); a

(b)ym mhob peth arall, wneud y gorchymyn yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn

9.  Rhaid i Awdurdod sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn wneud hynny'n unol ag Atodlen 6.

Dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn i rym

10.  Rhaid i ddyddiad dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchymyn diwygio gorchymyn rheoli cŵn) i rym fod dim llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad gwneud y gorchymyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources