Search Legislation

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 1Y TRAMGWYDD O FETHU Å SYMUD YMAITH FAW CI A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â symud ymaith faw a ollyngwyd gan y ci ar unrhyw adeg, neu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnodau penodol a ragnodir yn y gorchymyn.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â symud ymaith y baw, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(3Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948(1), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fethu â symud ymaith faw ci i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](5).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](6).

Y Tramgwydd

3—(1Os bydd ci yn bawa ar unrhyw adeg [yn ystod y cyfnodau a bennir yn Atodlen 2](7) ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a bod person sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar y pryd yn methu â symud y baw ci oddi ar y tir ar unwaith, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu

(b)sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario, neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

(3At ddibenion yr erthygl hon —

(a)cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

(b)bydd gosod y baw ci mewn cynhwysydd a ddarperir ar y tir at y diben hwnnw, neu ar gyfer gwaredu gwastraff, yn symud ymaith digonol oddi ar y tir;

(c)ni fydd bod yn anymwybodol o'r bawa (p'un ai oherwydd peidio â bod yn y cyffiniau ai peidio), na bod heb declyn i symud y baw ci ymaith neu ddull arall addas o wneud hynny yn esgus rhesymol dros fethu â symud y baw ci ymaith;

(ch)mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—

(i)Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);

(ii)Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);

(iii)Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).

Y Gosb

4

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

  • [ATODLEN] [ATODLEN 1](8)

  • [Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](9)

  • [ATODLEN 2

  • [Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](10)

(1)
(2)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(3)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(4)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(5)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(6)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(7)

Penner cyfnodau os mai dim ond yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn y mae'r Gorchymyn yn gymwys.

(8)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(9)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(10)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources