- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
23.—(1) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “terfyn gweddillion uchaf” (“maximum residue limit”) yw terfyn gweddillion uchaf a restrir yn Atodiad I neu Atodiad III i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 (sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid)(1);
(b)mae i “sylwedd anawdurdodedig” yr ystyr sydd i “unauthorised substance or product” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC (ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid a diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC)(2); ac
(c)ystyr “sefydliad tarddiad mewn trydedd wlad” (“establishment of origin in a third country”) yw'r sefydliad tarddiad yn y drydedd wlad y mae'r llwyth yn tarddu ohoni, fel a nodir ym mlwch 10 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gwiriad milfeddygol ar lwyth o sefydliad tarddiad penodol mewn trydedd wlad yn datgelu bod sylwedd anawdurdodedig yn bresennol, neu'n datgelu yr aethpwyd dros y terfyn gweddillion uchaf, ond nad oes unrhyw fesurau Cymunedol wedi'u mabwysiadu eto mewn ymateb i hyn.
(3) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), mae paragraffau (4), (5), (6) a (7) yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf y deuir â hwy i'r Deyrnas Unedig o'r sefydliad hwnnw ac y deuir â hwy i Gymru.
(4) Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin lle y deuir ag unrhyw lwyth o'r fath i mewn, ei gymryd dan ei ofal, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ac edrych i weld a oes sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn y llwyth drwy gymryd sampl gynrychioliadol o'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw a'i dadansoddi.
(5) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (4), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.
(6) Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn datgelu bod sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn bresennol neu'n datgelu yr aethpwyd dros ben y terfyn gweddillion uchaf, rhaid i'r milfeddyg swyddogol —
(a)anfon ymlaen y llwyth, neu unrhyw ran ohono y mae'r milfeddyg swyddogol yn credu bod presenoldeb sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion neu weddillion gormodol yn effeithio arni, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni; a
(b)arnodi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r llwyth, gan roi awgrym clir arnynt o'r rhesymau dros ei anfon ymlaen.
(7) Rhaid i gostau anfon y llwyth neu'r rhanlwyth ymlaen i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni a'i gludo yno gael eu talu gan yr anfonydd y mae ei enw yn ymddangos ar yr hysbysiad o gyflwyno'r llwyth a hwnnw'n hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17.
OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1451/2006 (OJ Rhif L271, 30.9.2006, t.37).
OJ Rhif L125, 23.5.96, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor (gweler Corigendwm OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: