Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Darpariaethau sy'n Gymwys i Gynhyrchion yn Gyffredinol

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

15.  Ni chaiff neb ddod â chynnyrch nad yw'n cydymffurfio i mewn i Gymru o drydedd wlad, na chynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n tarddu o drydedd wlad i Gymru o fan arall yn y tiriogaethau perthnasol—

(a)onid yw'n gynnyrch tramwy;

(b)onid yw ei sefydliad cyrchfan yn warws mewn parth rhydd, yn warws rydd neu'n warws dollfa a gymeradwywyd o dan Erthygl 12(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, neu'n storfa longau sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC, sydd wedi'i lleoli (ym mhob achos) y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(c)onid yw ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol ac y bwriedir i'r cynnyrch hwnnw gael ei ddanfon yn uniongyrchol ar y cyfrwng cludo mordwyol hwnnw er mwyn iddo gael ei fwyta neu ei yfed yno gan y staff a'r teithwyr.

Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth safleoedd arolygu ar y ffin

16—(1Ni chaniateir dod ag unrhyw gynnyrch i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(2Ni chaniateir dod ag unrhyw gynnyrch Erthygl 9 i Gymru, y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(3At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(1) i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno'n groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.

Hysbysu ymlaen llaw ynglŷn â chyflwyno cynhyrchion neu eu rhoi gerbron

17.—(1Ni chaiff neb—

(a)dod â chynnyrch neu lwyth i Gymru o drydedd wlad; neu

(b)dod â chynnyrch Erthygl 9 neu lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 i mewn i Gymru y mae eu safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru,

oni bai bod hysbysiad o'i gyflwyno wedi'i roi i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw a bod copi ohono wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(2Pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 a'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan cynnyrch Erthygl 9 neu lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 ill dau yng Nghymru, ni chaiff neb roi'r cynnyrch neu'r llwyth gerbron wrth safle arolygu ar y ffin oni bai bod hysbysiad o'i roi gerbron wedi'i roi i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw a bod copi o'r hysbysiad hwnnw wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(3O ran yr hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (1) a (2)—

(a)rhaid iddo fod ar y ffurf a nodir fel Rhan 1 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin;

(b)caniateir iddo gael ei ddarparu ar ffurf electronig;

(c)rhaid iddo fod yn Gymraeg neu yn Saesneg a hefyd yn un o ieithoedd swyddogol y gyrchwlad yn y tiriogaethau perthnasol y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad, os gwlad wahanol i'r Deyrnas Unedig yw'r gyrchwlad;

(ch)rhaid iddo gyrraedd y safle arolygu ar y ffin cyn i'r cynnyrch neu'r llwyth gael ei ddadlwytho o'r cyfrwng cludo a ddaeth ag ef i Gymru; a

(d)yn achos hysbysiad a roddwyd i safle arolygu ar y ffin ar gyfer y gyrchfan, rhaid iddo bennu pa wiriadau sydd wedi'u gwneud wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno.

Rhoi cynhyrchion gerbron wrth safleoedd arolygu ar y ffin

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch y deuir ag ef i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru ac y deuir ag ef i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed gerbron y milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster arolygu'r safle arolygu ar y ffin y rhoddwyd hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch ger ei fron o dan reoliad 17.

(2Pan fo safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 yn y Deyrnas Unedig a'i safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed gerbron y milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster arolygu'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch ger ei fron o dan reoliad 17.

(3Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch gerbron, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, o dan baragraff 18(1) neu (2) roi gerbron y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw a'r rheini'n ddogfennau sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

(4Rhaid i berson sydd, o dan baragraff 18(1) neu (2), yn rhoi gerbron gynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi gerbron gyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg o'r ddogfen ofynnol yr un pryd, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigydd â chymhwyster priodol wedi cadarnhau mai cyfieithiad cywir ydyw.

Gwiriadau milfeddygol a rheolaethau swyddogol

19.—(1Yn ddarostyngedig, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u trawslwytho, i reoliad 38, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo yn rhinwedd rheoliad 18 roi cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu i sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, gerbron milfeddyg swyddogol ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwyydd a benodwyd o dan reoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni ar y cynnyrch neu ar y dogfennau gofynnol, yn ôl y digwydd—

(a)gwiriad dogfennol;

(b)gwiriad adnabod;

(c)yn ddarostyngedig i reoliadau 41, 46 a 52 gwiriad ffisegol, ac

(ch)y rheolaethau swyddogol y cyfeirir atynt yn Erthygl 14(1) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â rheolau cyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(2),

a rhaid iddo roi i'r milfeddyg swyddogol neu'r cynorthwyydd unrhyw gymorth y byddai'n rhesymol iddo ofyn amdano i'w alluogi i gyflawni unrhyw un o'r gwiriadau neu'r rheolaethau hynny.

(2Pan fo cynnyrch yn cael ei roi gerbron milfeddyg swyddogol o dan reoliad 18, ni chaiff neb symud y cynnyrch na pheri iddo gael ei symud o'r safle arolygu ar y ffin lle cafodd ei roi gerbron hyd nes y bydd y milfeddyg swyddogol wedi awdurdodi ei symud drwy ddyroddi Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin ar gyfer y cynnyrch neu ar gyfer y llwyth neu'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch.

(3Pan gaiff sampl o gynnyrch ei chymryd wrth gynnal gwiriad ffisegol, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol a thalu costau ei storio felly, tra'n aros i'r cynnyrch gael ei symud o dan baragraff (2).

(4Pan fo cynnyrch wedi'i roi o dan gadwad swyddogol o dan Erthygl 18 neu 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004, ni chaiff neb ei symud o'r man lle mae o dan gadwad.

(5Pan fo cynnyrch wedi'i roi o dan gadwad swyddogol o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 a bod y milfeddyg swyddogol—

(a)wedi cyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch o dan Erthygl 19(1) o'r Rheoliad hwnnw; neu

(b)yn credu bod y cynnyrch hwnnw yn niweidiol i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid o dan Erthygl 19(2) o'r Rheoliad hwnnw,

rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch gydymffurfio â'r hysbysiad os bydd is-baragraff (a) yn gymwys, neu gydweithredu â'r milfeddyg swyddogol i ddinistrio neu anfon ymlaen y cynnyrch os bydd is-baragraff (b) yn gymwys.

(6Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad ar lwyth a wnaed o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 apelio i lys ynadon o fewn un mis i ddyddiad y penderfyniad trwy gyfrwng cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(3) fydd yn gymwys i'r trafodion.

(7Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu o dan baragraff (6), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch o dan sylw sicrhau y caiff ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau y bydd yn rhoi cyfarwyddyd amdanynt drwy hysbysiad.

Y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin i fynd gyda'r llwyth

20.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth neu ranlwyth y mae Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi mewn perthynas ag ef, ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro, sicrhau bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gyda'r llwyth neu'r rhanlwyth—

(a)yn achos llwyth neu ranlwyth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, ac yn ddarostyngedig i reoliad 37(3), hyd nes y bydd y llwyth neu'r rhanlwyth yn cyrraedd am y tro cyntaf, ar ôl cael ei fewnforio, fangre lle mae cynhyrchion yn cael eu storio, eu prosesu, eu trafod, eu prynu neu eu gwerthu; a

(b)ym mhob achos arall hyd nes na fydd y llwyth neu'r rhanlwyth yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth gan awdurdodau'r tollau, o fewn ystyr “supervision by the customs authorities” yn Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau.

(2Rhaid i'r person sy'n meddiannu at ddibenion ei fusnes y fangre y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 1(a) gymryd meddiant ar y dystysgrif fynediad filfeddygol gyffredin y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) a dal ei afael arni yn y fangre am gyfnod o flwyddyn gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl iddi gyrraedd yno.

Cynhyrchion sy'n methu gwiriadau milfeddygol

21.—(1Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 22.

(2Pan fo'r milfeddyg swyddogol, yn dilyn gwiriad milfeddygol wrth safle arolygu ar y ffin, yn penderfynu—

(a)bod cynnyrch, heblaw cynnyrch a eithriwyd, yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio; neu

(b)bod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â chynnyrch;

rhaid i'r milfeddyg swyddogol gydymffurfio â pharagraff (3).

(3Rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch yn ei gwneud yn ofynnol iddo—

(a)anfon ymlaen y cynnyrch drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i ddod ag ef i Gymru o'r safle arolygu ar y ffin i gyrchfan y cytunir arni gyda'r milfeddyg swyddogol, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarperir at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu, ar ôl gwiriad milfeddygol ar gynnyrch, heblaw cynnyrch a eithriwyd, sydd wedi'i leoli i ffwrdd o safle arolygu ar y ffin, fod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gydymffurfio â pharagraff (5).

(5Rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol iddo—

(a)anfon ymlaen y cynnyrch drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno i Gymru o'r safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn yr hysbysiad i gyrchfan y cytunir arni gyda'r swyddog awdurdodedig, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarperir at y diben hwnnw ac sydd agosaf at leoliad y cynnyrch.

(6Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol â pharagraff 3(b) neu 5(b) —

(a)pan fyddai ei anfon ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd—

(i)oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddygol, neu

(ii)oherwydd unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol ac sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud,

neu sydd fel arall yn amhosibl;

(b)pan fo'r cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (3)(a) neu (5)(a) wedi mynd heibio; neu

(c)pan fo'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (4) yn gymwys, perchennog y cynnyrch, yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(7O ran cynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno ynglŷn ag ef o dan baragraff (3) neu (5), rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, neu, os yw paragraff (4) yn gymwys, ei berchennog, sicrhau y caiff y cynnyrch ei storio hyd nes iddo gael ei anfon ymlaen neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y man neu o dan yr amodau a gyfarwyddir ganddo yn yr hysbysiad.

(8Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) neu (4) apelio i lys ynadon o fewn un mis i ddyddiad y penderfyniad trwy gyfrwng cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos cyfreithiol.

(9Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu o dan baragraff (8), bydd paragraff (7) yn gymwys i storio'r cynnyrch o dan sylw.

(10Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “cynnyrch a eithriwyd” (“excepted product”) yw cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeirir at ei sefydliad cyrchfan yn rheoliad 15(b) neu 15(c);

(b)ystyr “afreoleidd-dra arall” (“other irregularity”), mewn perthynas â chynnyrch, yw—

(i)ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi gerbron safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi o dan reoliad 17;

(ii)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a gynhwysir mewn hysbysiad a roddir o dan reoliad 17;

(iii)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddir o dan reoliad 45 neu 51;

(iv)unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—

(aa)yr hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch gerbron;

(bb)y cynnyrch ei hun; neu

(cc)y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;

(v)unrhyw ddiffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y mae, yn ôl y dogfennau gofynnol, wedi'i fwriadu ar ei gyfer;

(vi)unrhyw ddiffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (10)(b)(iv)(cc), gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1;

(vii)yn achos cynnyrch sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac

(viii)yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn rheoliad 15(b) neu 15(c), unrhyw doriad o'r gofynion a osodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1.

Trin cynhyrchion fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid

22.—(1Os yw'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw cynnyrch y mae rheoliad 21 yn gymwys iddo yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff awdurdodi bod y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(4) er gwaethaf paragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 21.

(2Rhaid i'r awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(3Caiff yr awdurdodiad bennu p'un o'r defnyddiau yn rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 a ganiateir.

Cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau anawdurdodedig a gweddillion gormodol

23.—(1Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “terfyn gweddillion uchaf” (“maximum residue limit”) yw terfyn gweddillion uchaf a restrir yn Atodiad I neu Atodiad III i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 (sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid)(5);

(b)mae i “sylwedd anawdurdodedig” yr ystyr sydd i “unauthorised substance or product” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC (ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid a diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC)(6); ac

(c)ystyr “sefydliad tarddiad mewn trydedd wlad” (“establishment of origin in a third country”) yw'r sefydliad tarddiad yn y drydedd wlad y mae'r llwyth yn tarddu ohoni, fel a nodir ym mlwch 10 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gwiriad milfeddygol ar lwyth o sefydliad tarddiad penodol mewn trydedd wlad yn datgelu bod sylwedd anawdurdodedig yn bresennol, neu'n datgelu yr aethpwyd dros y terfyn gweddillion uchaf, ond nad oes unrhyw fesurau Cymunedol wedi'u mabwysiadu eto mewn ymateb i hyn.

(3O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), mae paragraffau (4), (5), (6) a (7) yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf y deuir â hwy i'r Deyrnas Unedig o'r sefydliad hwnnw ac y deuir â hwy i Gymru.

(4Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin lle y deuir ag unrhyw lwyth o'r fath i mewn, ei gymryd dan ei ofal, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ac edrych i weld a oes sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn y llwyth drwy gymryd sampl gynrychioliadol o'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw a'i dadansoddi.

(5Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (4), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(6Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn datgelu bod sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn bresennol neu'n datgelu yr aethpwyd dros ben y terfyn gweddillion uchaf, rhaid i'r milfeddyg swyddogol —

(a)anfon ymlaen y llwyth, neu unrhyw ran ohono y mae'r milfeddyg swyddogol yn credu bod presenoldeb sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion neu weddillion gormodol yn effeithio arni, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni; a

(b)arnodi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r llwyth, gan roi awgrym clir arnynt o'r rhesymau dros ei anfon ymlaen.

(7Rhaid i gostau anfon y llwyth neu'r rhanlwyth ymlaen i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni a'i gludo yno gael eu talu gan yr anfonydd y mae ei enw yn ymddangos ar yr hysbysiad o gyflwyno'r llwyth a hwnnw'n hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17.

Llwythi a chynhyrchion y deuir â hwy i mewn yn anghyfreithlon

24.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)pan ddeuir â llwyth neu gynnyrch i Gymru o drydedd wlad ond nad yw'n cael ei roi gerbron wrth safle arolygu ar y ffin yn unol â rheoliad 18;

(b)pan fo llwyth neu gynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad yn un y daethpwyd ag ef i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol, ond nad yw wedi'i roi gerbron wrth safle arolygu ar y ffin yno;

(c)pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan i lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 yng Nghymru ond nad yw'r llwyth yn cael ei roi gerbron yno yn unol â rheoliad 18; neu

(ch)pan fo llwyth sy'n cael ei gyflwyno i Gymru yn cael ei roi gerbron milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin nad yw wedi'i ddynodi na'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraffau (1)(a), (b) ac (c), rhaid i swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, gymryd y llwyth neu'r cynnyrch hwnnw o dan ei ofal ac naill ai ei anfon ymlaen yn unol â pharagraff (5) neu ei waredu yn unol â pharagraff (4).

(3O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1)(ch), rhaid i'r milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, gymryd y llwyth hwnnw o dan ei ofal ac naill ai ei anfon ymlaen yn unol â pharagraff (5) neu ei waredu yn unol â pharagraff (4).

(4Pan fo'r swyddog neu'r milfeddyg swyddogol yn penderfynu gwaredu'r cynnyrch neu'r llwyth, rhaid iddo ei waredu fel petai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y man lle y mae'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn ei gymryd dan ei ofal.

(5Pan fo'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn penderfynu anfon ymlaen y cynnyrch neu'r llwyth, rhaid iddo wneud hynny—

(a)o fewn cyfnod o drigain o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad;

(b)i gyrchfan trydedd wlad y cytunwyd arni gyda'r canlynol—

(ix)perchennog y cynnyrch neu'r llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraffau (1)(a), (b) neu (c); neu

(x)y person sy'n gyfrifol am y llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1)(ch); ac

(c)drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i ddod â'r cynnyrch neu'r llwyth i'r tiriogaethau perthnasol am y tro cyntaf.

Cynhyrchion sy'n beryglus i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

25.  Os yw milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig o'r farn bod llwyth neu gynnyrch o drydedd wlad yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, ei gymryd o dan ei ofal a'i waredu yn unol â rheoliad 24(4).

Tor cyfraith difrifol neu fynych

26.—(1Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dod i'r casgliad rhesymol, ar sail canlyniadau gwiriadau milfeddygol, fod cynhyrchion o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd y rheoliad hwn yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf y deuir â hwy i'r Deyrnas Unedig o'r drydedd wlad honno, o ran o drydedd wlad neu o sefydliad, yn ôl y digwydd, y deuir â hwy i Gymru.

(2Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin lle deuir ag unrhyw lwyth o'r fath i mewn, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ei gymryd o dan ei ofal a chyflawni gwiriad ffisegol ohono, gan gynnwys cymryd samplau a gwneud profion a dadansoddiadau labordy.

(3Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod pob ffi sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael ei thalu.

(4Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol sy'n cael ei gyflawni ar y llwyth yn datgelu bod unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol ynglyn ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd wedi'i dorri, rhaid i'r milfeddyg swyddogol naill ai anfon y llwyth ymlaen neu ei waredu yn unol â rheoliad 21(3).

Annilysu dogfennau milfeddygol

27.  Pan fo milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig yn cyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cynnyrch yn cael ei anfon ymlaen o dan reoliad 21(3)(a), neu'n cymryd llwyth o dan ei ofal o dan reoliad 24(2), rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu'r llwyth hwnnw neu sy'n eu rheoli eu cyflwyno ar unwaith i'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, yn ôl y digwydd, i'w hannilysu.

Costau o ran cynhyrchion sy'n cael eu hanfon ymlaen neu eu gwaredu

28.—(1Rhaid i'r personau a bennir ym mharagraff (2) dalu ar archiad gostau storio, cludo, anfon ymlaen a gwaredu unrhyw gynnyrch, llwyth neu ranlwyth sy'n cael ei anfon ymlaen neu ei waredu—

(a)o dan reoliad 21, 24, 25 neu 26; neu

(b)o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(7) wrth orfodi rheoliad 16.

(2Y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth o dan sylw;

(b)pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth, perchennog y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth; neu

(c)person y mae hysbysiad cymryd i feddiant yn unol â Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wedi'i gyflwyno iddo.

(3Rhaid i unrhyw gost y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ac sy'n cael ei thalu gan filfeddyg swyddogol, swyddog awdurdodedig, y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol, yr Asiantaeth neu'r Comisiynwyr gael ei had-dalu ar archiad gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth neu gan berchennog y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth hwnnw.

(1)

1979 p. 2, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3095.

(2)

OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan Gorigendwm OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t. 1.

(5)

OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1451/2006 (OJ Rhif L271, 30.9.2006, t.37).

(6)

OJ Rhif L125, 23.5.96, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor (gweler Corigendwm OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).

(7)

1979 p. 2, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3095.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources