Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3371 (Cy.298) (C.141)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007

Gwnaed

27 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108(1)(b) a (2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Ddeddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 18 Ionawr 2008

2.  Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 18 Ionawr 2008—

(a)adran 106 ac Atodlen 4, mewn cysylltiad â pharagraffau 5 i 9 ac 14 i 19 o Atodlen 4 (Mân Ddiwygiadau a Rhai Canlyniadol) yn unig;

(b)adran 107 a Rhan 3 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad â diddymu adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3) ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(4) yn unig;

(c)adran 107 a Rhan 7 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993(5) ac Atodlen 3 iddi a'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8), 9(3) a 9(4A) o Ddeddf Swn 1996(6) yn unig;

(ch)adran 107 a Rhan 9 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 45 (3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn unig.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 18 Ionawr 2008 ddarpariaethau canlynol Deddf 2005:

(a)paragraffau 5 i 7 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n gwneud mân ddiwygiadau i destun Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Ddeddf 1990”);

(b)paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 95(1)(c) o Ddeddf 1990 fel bod y gofrestr gyhoeddus o orchmynion a hysbysiadau, y mae adran 95 o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ei chadw, yn cynnwys copïau o bob gorchymyn a wneir o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3A i Ddeddf 1990 mewn perthynas â dynodi tir at ddibenion rheoleiddio dosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl;

(c)paragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 96 o Ddeddf 1990 gyda'r effaith o alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag ysbwriel a gaiff ei gasglu gan brif awdurdodau ysbwriel o dan adran 92C(3) o Ddeddf 1990. Mae adran 92C(3) o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ysbwriel a gesglir gan brif awdurdod ysbwriel pan fydd person wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad clirio ysbwriel a ddyroddwyd gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 92A o Ddeddf 1990;

(ch)mae paragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi is-adran (1) newydd yn adran 45 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“Deddf 2003”) gyda'r effaith bod cosbau penodedig yn unol ag adran 43(1) (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon) o Ddeddf 2003 yn daladwy i'r awdurdod lleol y dyroddwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig;

(d)mae paragraff 15 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn cymhwyso i adrannau 43A a 43B o'r Ddeddf honno ddiffiniadau a geir yn adran 47(1) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chosbau sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 43(1) o Ddeddf 2003 (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon);

(dd)mae paragraffau 16 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi'r term “defacement removal notice” yn lle “graffiti removal notice” yn adrannau 48, 49 a 51 o Ddeddf 2003, ac ym mhennawd adran 52 o'r Ddeddf honno;

(e)mae paragraff 17(7) o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn mewnosod y geiriau “but not a parish or community council” yn y diffiniad o “local authority” yn adran 48(12) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw atal cynghorau plwyf a chynghorau cymuned rhag dyroddi hysbysiadau gwaredu graffiti, rhag cyflawni gwaith adfer pan na chydymffurfir â hysbysiad gwaredu graffiti a rhag adennill treuliau a dynnir wrth wneud hynny;

(f)mae Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

(ff)mae Rhan 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1990 ac Atodlen 3 iddi ac i'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8) a 9(3) o Ddeddf Sŵn 1996;

(g)mae Rhan 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiad i adran 45(3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 2 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 2 — at ddibenion sy'n weddill19 Chwefror 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 6 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 715 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 8 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 8 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 915 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 10 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 10 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 1127 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 1227 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 13 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 13 — at ddibenion sy'n weddill27 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 1527 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 1627 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 17 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 17 — at ddibenion sy'n weddill27 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 19 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 19 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 20 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 20 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 2115 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 2215 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 2315 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 24 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 24 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 2515 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 28 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 28 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 2915 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 30 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 30 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 3115 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 3427 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adrannau 37 a 38 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 38 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 45 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 45 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adrannau 46 i 48 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 48 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 5027 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 52 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 52 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 5316 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 55 at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 55 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 56 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 56 — at ddibenion sy'n weddill27 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 57 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 57 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 58 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 58 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 59 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 59 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 60 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 60 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6115 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6215 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6315 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6415 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6515 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6627 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 67 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 67 — at ddibenion sy'n weddill27 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6915 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7015 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7115 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7215 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 73 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 73 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 74 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 74 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 75 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 75 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7615 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7715 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7815 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7915 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 8027 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 8127 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 82 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 82 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 8327 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 84 — at ddibenion penodol27 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 84 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 8627 Hydref 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 96 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 96 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 97 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 97 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 98 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 98 — at ddibenion sy'n weddill15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 9927 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 10027 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 101 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 101 — at ddibenion sy'n weddill31 Ionawr 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 102 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 102 — at ddibenion sy'n weddill31 Ionawr 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 103 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 103 — at ddibenion sy'n weddill31 Ionawr 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 104 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Atodlen 4, paragraff 416 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Atodlen 5, Rhan 1 (cerbydau)27 Hydref 20062006/2797 (Cy.236)(C.93)
Atodlen 5, Rhan 2 (ysbwriel a sorod)15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Atodlen 5, Rhan 4 (gwastraff) — yn rhannol16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75)(C.18)
Atodlen 5, Rhan 5 (rheolaethau ar gŵn)15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)
Atodlen 5, Rhan 9 (defnyddio derbynebau cosbau penodol) — yn rhannol15 Mawrth 20072006/2797 (Cy.236)(C.93)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi eu dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 321 Gorffennaf 20052005/1675 (C.69)
Adrannau 42 — 4418 Hydref 20062005/2869 (C.122)
Adran 49(1) a (3)7 Mawrth 20062006/656 (C.16)
Adran 49(2) a (6) — at ddibenion penodol7 Mawrth 20052006/656 (C.16)
Adran 49(2) a (6) — at ddibenion sy'n weddill6 Ebrill 20062006/656 (C.16)
Adran 49(4) a (9)6 Ebrill 20062006/656 (C.16)
Adran 49(8) — at ddibenion penodol6 Ebrill 20062006/656 (C.16)
Adrannau 87-951 Ionawr 20062005/3439 (C.144)
Atodlen 21 Ionawr 20062005/3439 (C.144)
Atodlen 31 Ionawr 20062005/3439 (C.144)
Atodlen 4, paragraff 3 — yn rhannol6 Ebrill 20062006/656 (C.16)
Atodlen 5, Rhan 81 Ionawr 20062005/3439 (C.144)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru a Lloegr —

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1) 2007, O.S. 2005/1675 (C.69);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2007, O.S. 2005/2896 (C.122);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) 2005, O.S. 2005/3439 (C.144);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) 2006, O.S. 2006/656 (C.16);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006, O.S. 2006/1002 (C.31).

  • Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi eu gwneud o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr—

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/795 (C.19);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/1361 (C.46);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/2006 (C.69);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) (Lloegr) 2007, O.S. 2007/1390 (C.15).

(2)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources