Search Legislation

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2611 (Cy.222)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

Gwnaed

6 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Medi 2007

Yn dod i rym

1 Hydref 2007

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Hydref 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “y Rheoliad” (“the Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd(3).

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad hwnnw.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliad.

Awdurdodau Cymwys

3.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad —

(a)o ran Erthyglau 1(4), 15(2), 16(2) a 18(2) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, a

(b)o ran Erthygl 6(3) yw —

(i)pob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth, a

(ii)y tu allan i'r cyfryw ddosbarthau, pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

Gorfodi

4.  Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth a phob awdurdod bwyd o fewn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad.

Tramgwyddau a Chosbau

5.—(1Yn ddarostyngedig i'r rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1(3) (ynghylch nodau masnach etc) ac i'r mesurau trosiannol a geir yn Erthygl 28, mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau'r Rheoliad a bennir ym mharagraff (2) neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol —

(a)o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.

(b)o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau.

(2Dyma'r darpariaethau a bennir—

(a)Erthygl 3 (gofynion cyffredinol ynghylch pob honiad);

(b)Erthygl 4(3) (cyfyngiadau ar honiadau a all gael eu gwneud am ddiodydd alcoholaidd);

(c)Erthygl 6(2) (gofyniad i gyfiawnhau defnyddio honiadau);

(ch)Erthygl 7 (gofynion ar gyfer gwybodaeth faethol);

(d)Erthygl 8(1) (gofynion ar gyfer honiadau maethol);

(dd)Erthygl 9 (gofynion ar gyfer honiadau cymharol);

(e)Erthygl 10(1), (2) a (3) (gofynion ar gyfer honiadau am iechyd);

(f)Erthygl 12 (gwahardd honiadau penodol am iechyd); ac

(ff)Erthygl 14(2) (gofynion ar gyfer honiadau i leihau risg clefydau).

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

6.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 34 (terfyn amser ar gyfer erlyn);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Rhwystro swyddogion a darparu gwybodaeth etc

7.—(1Bydd unrhyw berson sydd —

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith; neu

(b)heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano,

yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar na fydd yn hwy na thri mis neu i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i'r ddau.

(2Bydd unrhyw berson sydd, yn cydymffurfio'n honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1)(b), gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, yn euog o dramgwydd ac yn atebol —

(a)o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.

(b)o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;

(3Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd

8.—(1Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4) o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).

(2Ar ôl paragraff (4) o reoliad 41, mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(5) Nothing in regulation 40 or in Schedule 6 or 8 operates to prohibit or, as the case may be, restrict a claim made in accordance with the conditions of Regulation (EC) 1924/2006 of the European Parliament and of the Council on nutrition and health claims made on foods(5).

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

6 Medi 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd, fel y'i cywirwyd gan Gorigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t3), “Rheoliad y GE”.

2.  Mae'r Rheoliadau—

(a)yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau penodol Rheoliad y GE (rheoliad 3);

(b)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c)yn darparu ei bod yn dramgwydd, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol a mesurau trosiannol a bennir yn Rheoliad y GE lle y bo'n berthnasol—

(i)i wneud honiadau am faethiad neu iechyd nad ydynt yn gyffredinol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE ac yn benodol sydd yn gamarweiniol neu wneud honiad o fathau gwaharddedig penodol;

(ii)i wneud honiadau am ddiodydd alcoholaidd ac eithrio i'r graddau cyfyngedig iawn a ganiateir gan Reoliad y GE;

(iii)i wneud honiad na ellir ei gyfiawnhau'n wyddonol;

(iv)i fethu â darparu'r wybodaeth faethol a ragnodwyd wrth wneud honiad am iechyd;

(v)i wneud honiad maethol nad yw'n un o'r rhai a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y GE;

(vi)i wneud honiad maethol cymharol nad yw'n cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE;

(vii)i wneud honiad am iechyd nad awdurdodwyd o dan y gweithdrefnau a ddarperir yn Rheoliad y GE ac nad yw'r wybodaeth benodedig gydag ef yn y labelu neu mewn unrhyw ddull arall o'i gyflwyno;

(viii)i wneud honiad am iechyd o fath a waherddir yn benodol gan Reoliad y GE; neu

(ix)yn achos honiadau am iechyd o ran lleihau risg rhag clefyd, i fethu â rhoi gyda'r honiad y datganiad a ragnodir yn Rheoliad y GE (rheoliad 5).

3.  Mae'r Rheoliadau hefyd—

(a)yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ( rheoliad 6);

(b)yn darparu ei bod, yn ddarostyngedig i derfynau penodol, yn dramgwydd i rwystro, methu â rhoi gwybodaeth neu gamarwain yn fwriadol unrhyw un sy'n gweithredu ac yn gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 7); ac

(c)yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ynghylch y meysydd lle y mae gorgyffwrdd rhwng y Rheoliadau hynny a Rheoliad y GE (rheoliad 8).

4.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(3)

Mae testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3).

(4)

O.S. 1996/1499. Cafwyd diwygiadau ir Rheoliadau hyn, ond nid ydynt yn berthnasol.

(5)

Ceir testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources