- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
30.—(1) Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw gais, cymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad, hysbysiad, barn neu archiad fod yn ysgrifenedig pan fo'r derbynnydd yn cydsynio â'i dderbyn neu ei derbyn yn electronig a bod y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4) ac mae “ysgrifenedig” i'w ddehongli'n unol â hynny.
(2) Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn, o dan y Rheoliadau hyn gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, bernir bod y person sy'n gwneud y cais wedi cytuno —
(a) i ddefnyddio'r cyfathrebiadau hynny at bob diben sy'n ymwneud â'r cais y mae modd eu cyflawni'n electronig;
(b)mai'r cyfeiriad at ddibenion y cyfathrebiadau hynny yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yn y cais neu sydd wedi'i gysylltu fel arall yn rhesymegol â'r cais hwnnw; ac
(c)y bydd y cytundeb tybiedig o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes y bydd y person hwnnw'n hysbysu ei fod am ddirymu'r cytundeb.
(3) Pan na fo person yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebiadau electronig mwyach mewn perthynas ag unrhyw gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru a bydd y dirymu hwnnw'n derfynol ac yn dod yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(4) Y meini prawf y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y ddogfen a drosglwyddir drwy'r cyfathrebiadau electronig—
(a)yn un y gellir ei chyrchu gan y derbynnydd;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati wedi hynny.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol” yw bod yr wybodaeth a geir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau nad ydynt yn llai â phe câi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag ei gwneud yn ofynnol i geisydd am ganiatâd o dan reoliad 10 neu'r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw gais o dan reoliad 6(1), 7(2), 16(2) neu 18(1) neu berchennog neu ddeiliad caniatâd yn achos dirymiad neu amrywiad arfaethedig o dan reoliad 21, ddarparu'r nifer o gopïau printiedig o unrhyw ddogfen y bydd ar Weinidogion Cymru angen rhesymol amdanynt, er gwaethaf y ffaith bod y ddogfen eisoes wedi'i throsglwyddo'n electronig i Weinidogion Cymru.
(7) Pan fo'r cyfathrebiad electronig yn dod i law'r derbynnydd y tu allan i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Wyl Banc nac yn wyl gyhoeddus arall.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae'r term “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion y cyfathrebiadau hynny neu'r storio hwnnw; a
(b)mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i (“electronic communication”) gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1).
2000 p.7. Diwygiwyd adran 15 gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21), Atodlen 17, paragraff 158.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: