- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
25. Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae Gweinidogion Cymru i ddyfarnu'r ffioedd sydd i'w talu —
(a)gan geisydd arfaethedig mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru o ran cyflawni naill neu'r llall o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff neu'r ddau ohonynt (2);
(b)gan geisydd mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru o ran ystyried unrhyw gais o dan reoliad 10(1) neu reoliad 18(1), rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais hwnnw a phenderfynu a ddylid ei ganiatáu neu ei wrthod;
(c)gan berchennog neu ddeiliad unrhyw ganiatâd mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru o ran dehongli ac asesu canlyniadau unrhyw fonitro y darperir ar ei gyfer gan yr amodau sy'n gysylltiedig â'r caniatâd, sef monitro—
(i)y modd y mae'r treillio a ganiateir gan y caniatâd hwnnw yn cael neu wedi cael ei gyflawni, a
(ii)effeithiau'r treillio hwnnw,
drwy graffu'n benodol ar wybodaeth electronig neu ysgrifenedig gan gynnwys arolygon.
(2) Y gweithgareddau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1(a) yw—
(a)rhoi barn o dan reoliad 7(2); a
(b)darparu'r wybodaeth sy'n berthnasol i'r broses o baratoi'r datganiad amgylcheddol yn unol â rheoliadau 8(3) a (4).
(3) Mae ffioedd o dan yr adran hon i'w dyfarnu gan Weinidogion Cymru gyda chydsyniad y Trysorlys, ar ôl ymgynghori, ynghylch yr egwyddorion sydd i'w cymhwyso wrth ddyfarnu'r ffioedd a symiau'r ffioedd, â chyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli personau sy'n debyg o wneud cais am ganiatâd.
26.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gadw cofrestr sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i'r gofrestr gynnwys copi, naill ai ar ffurf ffotograffig neu ar ffurf electronig neu'r ddwy, o'r canlynol—
(a)pob dyfarniad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 5(2);
(b)pob dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5(4);
(c)pob cais am ddyfarniad cychwynnol o dan reoliad 6(1);
(ch)pob dyfarniad cychwynnol a wneir gan Weinidogion Cymru mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1);
(d)pob barn a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(2);
(dd)pob cais am ganiatâd i dreillio a wneir i Weinidogion Cymru o dan reoliad 10(1), gan gynnwys unrhyw ddatganiad amgylcheddol, ac unrhyw blaniau a lluniadau sy'n dod gyda'r ceisiadau hynny;
(e)unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarperir o dan reoliad 11(2), neu unrhyw wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd;
(f)pob hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 12(1);
(ff)unrhyw adroddiadau a ddyroddir ac unrhyw gyngor a roddir i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw gais o dan y Rheoliadau hyn;
(g)pob dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13(1);
(ng)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan geisydd o dan reoliad 13(2);
(h)pob penderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13(7), gan gynnwys copi o adroddiad unrhyw berson a benodir o dan reoliad 13(4) mewn cysylltiad â'r cais, manylion unrhyw amodau y rhoddwyd y caniatâd yn ddarostyngedig iddynt a dyddiad y penderfyniad;
(i)pob cymeradwyaeth o drosglwyddiad a roddir o dan reoliad 16(2), gan gynnwys copi o unrhyw amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt;
(j)pob cais am amrywio caniatâd a wneir o dan reoliad 18(1);
(l)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd neu unrhyw benderfyniad, dyfarniad neu farn gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais am amrywio caniatâd i dreillio, o dan unrhyw reoliad a gymhwysir i gais o dan reoliad 18(1) gan reoliad 19(1)(b) neu reoliad 19(3);
(ll)pob dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 18(3);
(m)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan geisydd ar gyfer amrywiad o dan reoliad 20(2);
(n)pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 20(8) mewn perthynas ag amrywiad arfaethedig, gan gynnwys copi o adroddiad unrhyw berson a benodir o dan reoliad 20(6) mewn cysylltiad â'r cais, manylion unrhyw amodau y rhoddwyd yr amrywiad yn ddarostyngedig iddynt a dyddiad y penderfyniad;
(o)pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21(3)(a);
(p)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan berchennog neu ddeiliad caniatâd mewn ymateb i archiad o dan reoliad 21(3)(b);
(ph)adroddiad unrhyw berson a benodir o dan reoliad 21(10);
(r)pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21(11);
(rh)pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21(12);
(s)gorchymyn unrhyw lys mewn unrhyw achos cyfreithiol mewn cysylltiad â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn;
(t)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan geisydd o dan baragraff 2(2) o Atodlen 3;
(th)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan berchennog neu ddeiliaid caniatâd o dan baragraff 3(4) o Atodlen 3;
(u)pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru i gadarnhau, dirymu neu amrywio caniatâd o dan baragraff 3(5) o Atodlen 3;
(w)pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 4(1) o Atodlen 3;
(y)pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5(1) neu (5) o Atodlen 3;
(a2)pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag adolygiad o dan baragraff 5(4) o Atodlen 3, gan gynnwys copi o adroddiad unrhyw berson a benodir o dan baragraff 5(3) o'r Atodlen honno mewn cysylltiad â'r adolygiad, a dyddiad y penderfyniad;
(b2)unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sy'n dod gydag unrhyw un o'r uchod;
(c2)unrhyw gynllun monitro, adroddiad neu wybodaeth arall a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan amod y gwnaed y caniatâd i dreillio, neu gydsyniad i drosglwyddo caniatâd o dan reoliad 16, yn ddarostyngedig iddo;
(ch2)unrhyw sylw a gyflwynir neu wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru gan unrhyw berson neu gorff, ac yn enwedig yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon neu wladwriaeth AEE, mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a gyflawnwyd neu sydd i'w chyflawni gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn; a
(d2)gorchymyn unrhyw lys mewn unrhyw achos cyfreithiol pan gwestiynwyd dilysrwydd unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad, barn neu weithred arall gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn wedi'i amau.
(3) Rhaid i'r gofrestr gynnwys mynegai.
(4) Rhaid i'r gofrestr fod ar gael i'r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol, drwy apwyntiad ymlaen llaw.
(5) Pan fo'r gofrestr yn cael ei chadw gan ddefnyddio dull storio electronig, caiff Gweinidogion Cymru drefnu i'r gofrestr fod ar gael i'r cyhoedd gael edrych arni ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(6) Pan fo unrhyw aelod o'r cyhoedd yn gofyn iddynt wneud hynny ac wedi iddo dalu ffi resymol, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o unrhyw ddogfen a gofnodwyd ar y gofrestr.
(7) Ac eithrio pan fo paragraff (8) yn gymwys, rhaid i gofnod yn y gofrestr gael ei gwneud cyn pen 28 o ddiwrnodau —
(a)ar ôl y dyddiad y daw unrhyw gais, sylw, gwybodaeth, cynllun, adroddiad neu orchymyn i law Gweinidogion Cymru;
(b)ar ôl dyddiad rhoi'r gymeradwyaeth neu farn berthnasol, neu wneud y penderfyniad neu ddyfarniad perthnasol, neu ddyroddi'r hysbysiad perthnasol.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai gwneud cofnod yn y gofrestr yn unol â pharagraff (7) beryglu tegwch neu gyflymder y broses o roi unrhyw gymeradwyaeth neu farn, neu wneud unrhyw benderfyniad neu ddyfarniad, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r cofnod gael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r gymeradwyaeth neu'r farn gael ei rhoi neu ar ôl i'r penderfyniad neu'r dyfarniad gael ei wneud.
27.—(1) Mae person sy'n cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Pan fo wedi'i phrofi bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu y gellid ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r corff neu berson sy'n ymhonni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y swydd honno.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
(5) Mae achos am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni o dan y Rheoliadau hyn gan gorff anghorfforaethol i'w ddwyn yn enw'r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un o'i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o'r fath, mae unrhyw reolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel petai'r corff hwnnw'n gorfforaeth.
(6) Caniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y rheoliad hwn, a chaniateir ymdrin â'r tramgwydd at bob diben atodol fel petai wedi'i gyflawni yn unrhyw le yng Nghymru.
(7) Caniateir dwyn achos i gael datganiad o dan reoliad 3(2), a chaniateir ymdrin â'r tor rheoliad y cwynir amdano at bob diben atodol fel petai wedi'i gyflawni mewn unrhyw ran o Gymru.
28. Nid yw Adran 3 o Ddeddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878(1) (cydsyniadau ag erlyniadau am dramgwyddau a gyflawnwyd ar y môr agored gan bersonau nad ydynt yn ddinasyddion Prydeinig) yn gymwys i unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
29.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal er mwyn arfer unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mewn perthynas ag ymchwiliad lleol a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn, mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 (pwer i gyfarwyddo bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) yn gymwys—
(a)fel y bônt yn gymwys i ymchwiliadau lleol a gynhelir o dan y Ddeddf honno;
(b)o ddileu'r geiriau “local authority or” o is-adran (4) (darpariaethau ynghylch costau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran cynnal ymchwiliadau); ac
(c)fel petai cyfeiriadau yn isadrannau (4) a (5) (darpariaethau ynghylch gorchmynion ar gyfer talu costau partïon mewn ymchwiliadau) at “the Minister”, yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.
30.—(1) Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw gais, cymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad, hysbysiad, barn neu archiad fod yn ysgrifenedig pan fo'r derbynnydd yn cydsynio â'i dderbyn neu ei derbyn yn electronig a bod y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4) ac mae “ysgrifenedig” i'w ddehongli'n unol â hynny.
(2) Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn, o dan y Rheoliadau hyn gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, bernir bod y person sy'n gwneud y cais wedi cytuno —
(a) i ddefnyddio'r cyfathrebiadau hynny at bob diben sy'n ymwneud â'r cais y mae modd eu cyflawni'n electronig;
(b)mai'r cyfeiriad at ddibenion y cyfathrebiadau hynny yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yn y cais neu sydd wedi'i gysylltu fel arall yn rhesymegol â'r cais hwnnw; ac
(c)y bydd y cytundeb tybiedig o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes y bydd y person hwnnw'n hysbysu ei fod am ddirymu'r cytundeb.
(3) Pan na fo person yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebiadau electronig mwyach mewn perthynas ag unrhyw gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru a bydd y dirymu hwnnw'n derfynol ac yn dod yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(4) Y meini prawf y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y ddogfen a drosglwyddir drwy'r cyfathrebiadau electronig—
(a)yn un y gellir ei chyrchu gan y derbynnydd;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati wedi hynny.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol” yw bod yr wybodaeth a geir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau nad ydynt yn llai â phe câi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag ei gwneud yn ofynnol i geisydd am ganiatâd o dan reoliad 10 neu'r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw gais o dan reoliad 6(1), 7(2), 16(2) neu 18(1) neu berchennog neu ddeiliad caniatâd yn achos dirymiad neu amrywiad arfaethedig o dan reoliad 21, ddarparu'r nifer o gopïau printiedig o unrhyw ddogfen y bydd ar Weinidogion Cymru angen rhesymol amdanynt, er gwaethaf y ffaith bod y ddogfen eisoes wedi'i throsglwyddo'n electronig i Weinidogion Cymru.
(7) Pan fo'r cyfathrebiad electronig yn dod i law'r derbynnydd y tu allan i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Wyl Banc nac yn wyl gyhoeddus arall.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae'r term “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion y cyfathrebiadau hynny neu'r storio hwnnw; a
(b)mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i (“electronic communication”) gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(3).
31.—(1) Caiff cais o dan y naill neu'r llall o'r gweithdrefnau a grybwyllir ym mharagraff (3) sy'n aros yn gais heb ei ddyfarnu ar y cychwyn, ac a fyddai, petai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn, yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau, ei drin (oni chaiff ei dynnu'n ôl) fel cais am ganiatâd neu, yn ôl y digwydd, amrywiad a wneir yn briodol o dan y Rheoliadau hyn os yw'n cynnwys datganiad amgylcheddol.
(2) Caiff camau a gymerwyd yn unol â'r gweithdrefnau hynny mewn perthynas â chais sy'n cael ei drin yn y modd a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu trin fel camau a gymerwyd o dan reoliad 12, i'r graddau y caiff Gweinidogion Cymru eu bodloni bod y camau fel y'u cymerwyd gan y ceisydd yn rhoi i raddau helaeth yr un faint o gyhoeddusrwydd i'r cais hwnnw â'r cyhoeddusrwydd ag y byddai cais wedi'i gael gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12.
(3) Y gweithdrefnau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw'r rhai a ddisgrifir —
(a)yn y ddogfen o'r enw “Offshore Dredging for Sand, Gravel and other Minerals”, a ddyddiwyd Ebrill 1989, ac a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gymreig ac Adran yr Amgylchedd; a
(b)yn y ddogfen o'r enw “Government View: New Arrangements for the Licensing of Minerals Dredging”, a ddyddiwyd Mai 1998, ac a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gymreig ac Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau.
(4) Pan fo caniatâd yn cael ei roi neu ei amrywio o ganlyniad i unrhyw gais y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ganiatadau a roddwyd o ganlyniad i gais o dan reoliad 10.
32.—(1) Yn Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(4), yng ngholofn 1 o'r tabl, ym mharagraff 2(c), ar ôl “fluvial” mewnosoder “or marine”.
(2) Nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff (1) yn cael effaith mewn perthynas â'r canlynol—
(a)unrhyw gais am ganiatâd cynllunio, neu am ddiwygio caniatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes ac a gofnodwyd neu a gafwyd gan awdurdod cynllunio lleol cyn y dyddiad cychwyn;
(b)unrhyw apêl mewn perthynas â'r cais hwnnw;
(c)unrhyw fater y mae awdurdod cynllunio lleol, cyn cychwyn, wedi dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 (dyroddi hysbysiad gorfodi) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5); neu
(ch)unrhyw ddatblygiad a ddechreuwyd cyn y cychwyn gan ddibynnu ar ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(6).
1972 p. 70. Diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1989 (p.43). Diwygiwyd is-adran (3) gan adrannau 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48). Diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), adran 49(2), ac Atodlen 12, Rhan III.
2000 p.7. Diwygiwyd adran 15 gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21), Atodlen 17, paragraff 158.
O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867, 2006/3099 a 2006/3295.
1990 p.8. Mewnosodwyd adran 172 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p. 34), Adran 5.
O.S. 1995/418; fe'i diwygiwyd gan O.S. 1996/528.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: