Search Legislation

Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2315 (Cy. 186 )

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007

Wedi'u gwnaed

06 Awst 2007

Wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

06 Awst 2007

Yn dod i rym

07 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd(3) fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Rhif 2) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 7 Awst 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu haseinio—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(6), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygir o dro i dro.

Atal gweithgareddau sy'n ymwneud â'r lliw E128 Red 2G

3.—(1Er gwaethaf darpariaethau Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(7), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Comisiwn neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd—

(a)Erthygl 1(1) (atal defnyddio lliw E 128 Red 2G mewn bwyd);

(b)Erthygl 1(2) (atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G); neu

(c)Erthygl 1(3) (atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G).

(2Mae person yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Gorfodi

4.  Dyletswydd pob awdurdod iechyd bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

5.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(8), gyda'r addasiadau bod isadrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1)(b) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod cyfeiriadau yn isadran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market”;

(c)adran 32 (pwerau mynediad);

(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(9), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(e)adran 35(2) a (3)(10) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(11); ac

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

6.  Dirymir Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007(12).

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

07 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys i atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd (OJ Rhif L195, 27.7.2007, t.8).

2.  Yn rhinwedd Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 94/36/EC (OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.13, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1), mae'r lliw E 128 Red 2G wedi cael ei awdurdodi'n gyfreithiol ar gyfer ei ddefnyddio ym mhob Aelod-wladwriaeth. Rhoddwyd y Gyfarwyddeb honno ar waith gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124, fel y'i diwygiwyd). Er hynny, mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 yn atal gydag effaith ar unwaith y defnydd o'r lliw E 128 Red 2G mewn bwyd a rhoi ar y farchnad a mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn darparu bod person sydd yn mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 (ynghylch atal defnyddio'r lliw E128 Red 2G mewn bwyd; atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G; ac atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G) yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));

(b)yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan reoliad 3(1) (rheoliad 3(2) );

(c)yn darparu ar gyfer eu gweithredu a'u gorfodi (rheoliad 4);

(ch)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5); a

(d)yn dirymu Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2288 (Cy.178) (rheoliad 6).

4.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol wedi cael ei baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51).

(2)

O.S. 2005/1971.Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiod hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L195, 27.7.2007, t.8.

(5)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(6)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(7)

O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn

(8)

O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(10)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(11)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources