Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1984 (Cy.165)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

10 Gorffennaf 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Gorffennaf 2007

Yn dod i rym

7 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 7 Awst 2007.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;

  • ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “y Rheoliad CE” (“the EC Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd(4).

(2Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Rheoliad CE yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Rheoliad hwnnw.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliad CE.

Gorfodi

3.  Bydd pob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth a phob awdurdod bwyd yn ei ardal yn gweithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a rhai'r Rheoliad CE.

Tramgwyddau a chosbau

4.—(1Yn ddarostyngedig i'r mesurau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 18 (sy'n ymwneud â bwydydd a roddwyd ar y farchnad cyn 1 Gorffennaf 2007), mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r Rheoliad CE a bennir ym mharagraff (2) neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored —

(a)o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau;

(b)o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;

(2Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

(a)Erthygl 3(1) (gofyniad mai dim ond fitaminau neu fwynau a restrir yn Atodiad I ac ar ffurf a restrir yn Atodiad II y caniateir eu hychwanegu at fwyd) o'i darllen gydag Erthygl 17(1) (cymhwyso'n drosiannol reolau cenedlaethol);

(b)Erthygl 4 (gwahardd ychwanegu fitaminau a mwynau at fwydydd penodol);

(c)Erthygl 5(2) (gofyniad i ddilyn meini prawf ynghylch purdeb)

(ch)Erthygl 6(6) (gofyniad i fitaminau a mwynau a ychwanegir fod yn y bwyd yn ôl meintiau sydd o bwys o leiaf fel y diffinnir “significant amount”); a

(d)Erthygl 7(1), (2) a (3) (cyfyngiadau ac amodau sy'n gymwys i labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd y mae fitaminau neu fwynau wedi'u hychwanegu atynt).

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

5.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 34 (terfyn amser ar gyfer erlyn);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);

Rhwystro swyddogion a darparu gwybodaeth, etc.

6.  Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn gofyn yn rhesymol amdano neu amdani;

yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na 3 mis neu ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu'r ddau.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b), yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, yn euog o dramgwydd ac yn agored —

(a)o'i gollfarnu ar dditiad, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy neu i'r ddau;

(b)o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i'r ddau.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno petai'n gwneud hynny.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Gorffennaf 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd (OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.26), “y Rheoliad CE”.

2.  Mae'r Rheoliadau —

(a)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 3);

(b)yn darparu, yn ddarostyngedig, pan fo'n berthnasol, i'r trefniadau trosiannol a bennir yn y Rheoliad CE, ei bod yn dramgwydd i wneud y canlynol—

(i)atgyfnerthu bwydydd â fitaminau neu fwynau ac eithrio'r rhai a ganiateir gan y Rheoliad CE ac ar y ffurfiau a bennir ynddo;

(ii)ychwanegu fitaminau neu fwynau at rai bwydydd penodedig;

(iii)methu â glynu wrth y meini prawf perthnasol ynghylch purdeb wrth weithgynhyrchu fformiwleiddiadau fitaminau neu sylweddau mwynol;

(iv)ychwanegu fitamin neu fwyn at fwydydd yn ôl maint sy'n llai na maint sydd o bwys, fel y diffinnir “significant amount” mewn deddfwriaeth Gymunedol; a

(v)methu â chydymffurfio â gofynion penodol ar gyfer labelu a chyflwyno bwydydd y mae fitaminau neu fwynau wedi'u hychwanegu atynt (rheoliad 4);

(c)yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5); ac

(ch)yn darparu, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol, ei bod yn dramgwydd i rwystro, methu â rhoi gwybodaeth neu gamarwain yn fwriadol unrhyw un sy'n gweithredu ac yn gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 6).

3.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ar gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) mae'r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(4)

OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.26.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources