Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2001(1) fel y'u diwygiwyd.

2.  Yn unol â hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r ffioedd ynghylch cyffuriau a chyfarpar a gyflenwir i gleifion sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol (YC) yng Nghymru neu sydd wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond eu bod yn dal cardiau hawl dilys gan fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 3), gan feddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 4), gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG (rheoliad 5) ac mewn canolfannau cerdded i mewn (rheoliad 6) a phan gyflenwir hwy yn unol â chyfarwyddiadau grwp cleifion (rheoliad 7). Mae Rheoliadau 3 a 4 ymhellach yn darparu ar gyfer ffioedd am gyffuriau a chyfarpar i unrhyw gleifion heblaw cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys.

3.  Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraph 2 uchod, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2). Gwneir darpariaeth ar wahân ar gyfer ffioedd deintyddol ac optegol.

4.  Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer esemptiadau rhag talu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n gymwys i gleifion heblaw'r rheini sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys (rheoliad 8) ac yn darparu ymhellach ar gyfer cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys i wneud cais am dystysgrifau esemptio (rheoliad 9).

5.  Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer dyroddi cardiau hawl sydd yn galluogi preswylwyr yng Nghymru i gael cyffuriau a chyfarpar am ddim pan fo'r cyffuriau a chyfarpar yn cael eu gweinyddu gan fferyllwyr neu feddygon yng Nghymru.

6.  Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion (rheoliad 10).

7.  Mae Arfarniad Rheoleiddiol ar y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources