Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 121 (Cy.11)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

23 Ionawr 2007

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “anabledd wedi'i dderbyn” (“accepted disablement”) yw anaf neu glefyd corfforol neu feddyliol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn eu bod i'w priodoli i wasanaeth yn lluoedd arfog y Goron neu unrhyw wasanaeth arall a benderfynir gan y Cynulliad, neu eu bod wedi'u gwaethygu gan wasanaeth o'r fath;

mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir i “Local Health Board” yn adran 16BA o'r Ddeddf(2);

ystyr “Canolfan cerdded i mewn” (“Walk-in centre”) yw canolfan lle y mae gwybodaeth a thriniaeth am fân anhwylderau yn cael eu darparu ar gyfer y cyhoedd o dan drefniadau a wneir gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol;

mae “carchar” (“prison”) yn cynnwys sefydliad tramgwyddwyr ifanc ond nid canolfan hyfforddi ddiogel neu garchar y llynges, carchar milwrol neu garchar y llu awyr, ac at ddibenion y diffiniad hwn—

ystyr “canolfan hyfforddi ddiogel” (“secure training centre”) yw man y mae tramgwyddwyr sy'n destun gorchmynion cadw a hyfforddi o dan adran 100 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(3) (tramgwyddwyr o dan 18 oed: gorchmynion dal gafael a hyfforddi) y gellir dal gafael ynddynt a'u hyfforddi a'u haddysgu a'u paratoi ar gyfer eu rhyddhau;

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person a gedwir mewn carchar, lle darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig, fferyllol neu nyrsio o dan y Ddeddf(4)gan, neu o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol ac eithio yn rhinwedd adran 7(2) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988(5) (estyniad pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd);

ystyr “sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”) yw man i ddal gafael ar dramgwyddwyr a ddedfrydwyd i gael eu cadw mewn sefydliad i dramgwyddwyr ifanc neu ddalfa am oes;

mae i “cerdyn hawl” (“entitlement card”) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 11(1);

ystyr “cerdyn hawl dilys” (“valid entitlement card”) yw cerdyn hawl sydd mewn grym ac sy'n gymwys i'r claf a enwir ar ffurflen bresgipsiwn gyfatebol;

ystyr “claf” (“patient”) yw —

(a)

unrhyw berson y rhoddir gwasanaethau meddygol sylfaenol iddo o dan Ran 1 o'r Ddeddf(6);

(b)

unrhyw berson sy'n gwneud cais i fferyllydd ddarparu gwasanaethau fferyllol iddo ac at ddibenion y Rheoliadau hyn mae'n cynnwys person sy'n gweithredu ar ran person o'r fath;

(c)

unrhyw berson sy'n gofyn am wybodaeth neu driniaeth gan Ganolfan cerdded i mewn;

(ch)

unrhyw berson sy'n gwneud cais am gael cyffur wedi'i gyflenwi yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion;

mae i'r term “claf cymwys” (“qualifying patient”) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 11(3);

ystyr “cofresr berthnasol” (“relevant register”) yw—

(a)

mewn perthynas â nyrs neu gydwraig, y Gofrestr Nyrsion a Bydwreigiaeth;

(b)

mewn perthynas â fferyllydd, y gofrestr a gedwir yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Fferylliaeth 1954(7) neu'r gofresr a gedwir yn unol ag Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(8);

(c)

mewn perthynas â pherson y mae ei enw wedi'i gofrestru yn y rhan o'r ofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(9) sy'n ymwneud â—

(i)

ciropodyddion a phodiatryddion;

(ii)

ffysiotherapyddion; neu

(iii)

radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig,

y gofrestr honno; ac

(ch)

mewn perthynas ag optometrydd cofrestredig, y gofrestr optometryddion a gedwir o dan adran 7(a) o Ddeddf Optegwyr 1989(10);

ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw'r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(11);

ystyr “Contract GMS” (“GMS Contract”) yw contract o dan adran 28Q o'r Ddeddf;

ystyr “cwrs a achredwyd” (“accredited course”) yw cwrs a achredwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar rhestredig o fewn ystyr adran 41 o'r Ddeddf(12);

mae “Cyfarwyddyd Grwp Cleifion” (“Patient Group Direction”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 7(2);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae “cyffuriau” (“drugs”) yn cynnwys meddyginiaethau;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

ystyr “esemptiad” (“exemption”) yw unrhyw ollyngiad a ddarperir ar ei gyfer yn rheoliad 8;

mae “fferyllydd” (“chemist”) yn cynnwys unrhyw berson, heblaw meddyg, sy'n darparu gwasanaethau fferyllol;

ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw person—

(a)

sy'n fferyllydd, a

(b)

y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn gyfatebol” (“equivalent prescription form”) yw ffurflen a ddarparwyd ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol, neu yn yr Alban wasanaethau gofal fferyllol a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978(13), ac nid yw'n cynnwys—

(a)

ffurflen bresgripsiwn Gymreig;

(b)

presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; neu

(c)

presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn Gymreig” (“Welsh prescription form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru a ddyroddwyd gan ragnodydd neu ddeintydd i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw'n cynnwys—

(a)

presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;

(b)

ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu

(c)

presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

ac at ddibenion y diffiniad hwn—

ystyr “un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru” (“Welsh NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth y GIG y lleolir y cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau yng Nghymru;

ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol sy'n ymwneud â darparu cyffuriau neu gyfarpar gan fferyllydd yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “gwasanaethau gweinyddu” (“dispensing services”) yw gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau fferyllol o dan delerau contract GMS sy'n rhoi effaith i baragraffau 47 i 51 o Atodlen 6 i Reoliadau Contract GMS;

ystyr “hosan elastig” (“elastic hosiery”) yw hosan i'r pigwrn, i'r goes, i'r ben-glin, i'r goes o dan y ben-glin neu i'r glun;

ystyr “meddyg” (“doctor”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig;

ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—

(a)

y mae ei enw wedi'i gofrestru yn y Gofrestr Nyrsion a Bydwreigiaeth, a

(b)

sydd, o ran y person sy'n ymarfer yng Nghymru ar 1 Chwefror 2007 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd ar gyfer ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;

ystyr “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi'i gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a

(b)

y mae nodyn yn ei gylch yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar—

(i)

o'r Llyfr Fferyllol Nyrsys sy'n Rhagnodi sydd ar gyfer Nyrsys Ardal ac Ymwelwyr Iechyd yn Rhan XVIIB(i) o'r Tariff Cyffuriau, neu

(ii)

o'r Llyfr Fferyllol Nyrsys sy'n Rhagnodi sydd ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol yn Rhan XVIIB(i) o'r Tariff Cyffuriau,

hefyd wedi'i gofnodi yn y gofrestr honno;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol” (“equivalent repeatable prescription”) yw presgripsiwn a geir mewn ffurflen ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau amlweinyddu sydd yn gyfateboli'r rhai hynny a ddarperir yng Nghymru;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy Cymreig” (“Welsh repeatable prescription”) yw presgripsiwn ar ffurf a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddwyd gan ragnodydd amlroddadwy i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol yn y fformat a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Contract GMS ac—

(a)

a gynhyrchir gan gyfrifiadur ond a lofnodir gan ragnodydd amlroddadwy; a

(b)

sy'n dangos y ceir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynnir ar y ffurflen fwy nag unwaith, ac sy'n pennu sawl gwaith y ceir eu darparu;

ystyr “rhagnodydd” yw—

(a)

meddyg,

(b)

nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol,

(c)

rhagnodydd atodol,

(ch)

nyrs-ragnodydd annibynnol, ac

(d)

fferyllydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “rhagnodydd amlroddadwy” (“repeatable prescriber”) yw rhagnodydd—

(a)

sy'n gontractiwr GMS sy'n darparu gwasanaethau rhagnodi amlroddadwy o dan delerau ei gontract sy'n rhoi effaith i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau Contract GMS; neu

(b)

sy'n gyflogedig neu a gymrwyd ymlaen gan gontractiwr GMS sy'n darparu gwasanaethau rhagnodi amlroddadwy o dan delerau ei gontract sy'n rhoi effaith i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau Contract GMS;

ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw person—

(a)

y mae ei enw wedi'i gofrestru yn—

(i)

y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth;

(ii)

y Gofrestr Fferyllwyr Fferyllol a gedwir yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Fferylliaeth 1954;

(iii)

y gofrestr a gedwir yn unol ag Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976,

(iv)

y rhan o'r gofrestr a gedwir gan Gyngor Proffesiynau Iechyd Cymru yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru 2001 sy'n ymwneud ag—

(aa)

ciropodyddion a phodiatryddion;

(bb)

ffysiotherapyddion; neu

(cc)

radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig, neu

(v)

yn y gofrestr optometryddion a gedwir gan y Cyngor Optegol Cyffredinol yn unol ag adran 7(a) o Ddeddf Optegwyr 1989, a

(b)

y cofnodwyd yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;

ystyr “Rheoliadau Contract GMS” (“the GMS Contract Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredino) (Cymru) 2004(14);

ystyr “Rheoliadau Ffioedd 2000” (“the Charges Regulations 2000”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000(15);

ystyr “Rheoliadau Ffioedd 2001” (“the Charges Regulations 2001”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001(16);

ystyr “y Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl” (“the Travelling Expenses and Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988(17);

ystyr “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a'i dyroddi gan ragnodydd amlroddadwy yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, ac sydd yn y fformat a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau Contract GMS, ac sydd —

(a)

yn cael ei chynhyrchu gan gyfrifiadur ond nad yw'n cael ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy;

(b)

yn ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy penodol ac yn cynnwys yr un dyddiad â'r presgripsiwn hwnnw;

(c)

yn ffurfio rhan o ddilyniant o ffurflenni, lle mae'r nifer o ffurflenni yn gyfartal â nifer yr adegau y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynwyd ar y presgripsiwn amlroddadwy; ac

(ch)

yn pennu Rhif i ddynodi ei lle yn y dilyniant y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c);

ystyr “swp-ddyroddiad cyfatebol” (“equivalent batch issue”) yw ffurflen a ddarperir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu;

ystyr “Tariff Cyffuriau” (“Drug Tariff”) yw datganiad a lunnir, ei gyhoeddi a'i ddiwygio o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(18) (safonau a thaliadau am gyffuriau a chyfarpar);

ystyr “telerau gwasanaeth” (“terms of service”) yw'r telerau y mae gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol yn cael eu darparu odanynt o dan y Ddeddf;

mae “triniaeth” (“treatment”) yn cynnwys archwilio a diagnosio;

mae i'r term “tystysgrif esemptio” (“exemption certificate” ) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 9(1);

ystyr “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol” (“Primary Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o'r Ddeddf(19).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cyflenwi gyferbyn â gorchymyn ar un ffurflen bresgripsiwn, neu ar un presgripsiwn amlroddadwy (ond dim ond pan fo'r cyflenwi yn erbyn un swp-ddyroddiad ynghylch y presgripsiwn amlroddadwy hwnnw)—

(a)symiau o'r un cyffur mewn mwy nag un cynhwysydd yn cael ei drin fel cyflenwi un swm yn unig o gyffur;

(b)mwy nag un cyfarpar o'r un math, ac eithrio yn achos hosanau elastig a theits, neu gyflenwi dwy neu fwy o gydrannau'r un cyfarpar, yn cael ei drin fel cyflenwi un cyfarpar yn unig.

(3Cyhyd â bod contractau yr ymrwymir iddynt o dan erthygl 13 o Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) 2004(20) (“contractau rhagosodedig”) mewn bod, bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gontract GMS yn cynnwys cyfeiriad at gontract yr ymrwymir iddo o dan yr erthygl honno, a bernir bod unrhyw gyfeiriad at deler mewn contract GMS yn cynnwys cyfeiriad at y teler cyfatebol yn y contract rhagosodedig.

(4Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr

3.—(1Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf beidio â chodi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig; neu

(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol a cherdyn hawl dilys.

(2Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1) (a) neu (b) uchod, rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw,—

(a)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(b)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.

(3Os telir ffi o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

(4Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol amlroddadwy i glaf beidio â chodi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)os bydd swp-ddyroddiad yn gymwys i gyflenwad o unrhyw gyfarpar neu swm o gyffur a weinyddir gan fferyllydd i'r claf hwnnw; neu

(b)os bydd swp-ddyroddiad cyfatebol yn gymwys i gyflenwad o unrhyw gyfarpar neu swm o gyffur a weinyddir gan fferyllydd i'r claf hwnnw ac os bydd y claf yn cyflwyno cerdyn hawl dilys.

(5Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1)(a) neu (b) uchod, rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau gweinyddu amlroddadwy i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw—

(a)am eitem hosan elastig, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(i) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(b)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.

(6Os telir ffi o dan baragraff (5), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

(7At ddibenion paragraff (2) os oes cyffur a orchmynnir ar un ffurflen bresgripsiwn gyfatebol yn cael ei gyflenwi fesul rhan, rhaid talu'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.

(8Ni chaniateir codi na chasglu ffioedd o dan baragraffau (2) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)pan fydd esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—

(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(ii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (5) ar y swp-ddyroddiad ynghylch y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;

(b)pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contract GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf(21);

(c)pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf yn unol â rheoliad 7 o'r Rheoliadau hynny.

(9Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—

(a)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(b)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i chasglu gan baragraff (2) neu (5), yn ôl y digwydd, o ran y gorchymyn hwnnw.

(10Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (2) neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais iddo am ad-daliad.

(11Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u casglu gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon

4.—(1Rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf beidio â chodi ffi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig; neu

(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol a cherdyn hawl dilys.

(2Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1) uchod, rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw—

(a)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(b)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.

(3Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan baragraff (2) —

(a)os oes yna esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i gael esemptiad ar y ffurflen bresgripsiwn wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran; neu

(b)pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf yn unol â rheoliad 7 o'r Rheoliadau hynny.

(4Os telir ffi o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

(5At ddibenion paragraff (2) os oes cyffur a orchmynnir ar un ffurflen bresgripsiwn gyfatebol yn cael ei gyflenwi fesul rhan, rhaid talu'r ffi a bennir yn rheoliad 4(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.

(6Ni fydd meddyg o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol y mae'n ofynnol codi a chasglu ffi mewn perthynas â hwy o dan baragraff (2) onid yw'r claf yn gyntaf yn talu swm y ffi honno iddo.

(7Rhaid i feddyg sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (2), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais iddo am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais iddo am ad-daliad.

(8Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi talu ffi os yw'r cyffur neu'r cyfarpar a gyflenwir naill ai—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer triniaeth ar unwaith ac nad oes gorchymyn ar gyfer y cyffur neu'r cyfarpar wedi'i wneud ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu

(b)yn cael eu rhoi i'r claf, neu eu rhoi ar y claf, gan y meddyg yn bersonol.

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG

5.  Nid yw claf yn atebol i dalu ffioedd i Fwrdd Iechyd Lleol neu un o Ymddiriedolaethau'r GIG sy'n cyflenwi cyffuriau neu gyfarpar i'r claf hwnnw at ddibenion ei driniaeth.

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded i mewn

6.  Nid yw claf yn atebol i dalu ffioedd am gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir at ddibenion ei driniaeth gan ragnodydd mewn Canolfan cerdded i mewn neu am gyffuriau a roddir neu gyfarpar a osodir yn y Ganolfan.

Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion

7.—(1Nid yw claf yn atebol i dalu ffioedd am gyffuriau yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion neu am gyffuriau a gyflenwir at ddibenion ei roi'n bersonol gan unrhyw berson sy'n cyflenwi yn unol â'r Cyfarwyddyd Grwp Cleifion

(2At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyfeiriad at gyflenwi cyffur yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion yn gyfeiriad at gyflenwi cyffur at y diben hwnnw y darperir ar ei gyfer yng Ngorchymyn Meddyginiaethau (Gwerthu gan Fferyllfeydd ac yn Gyffredinol — Esemptiad) 1980(22) neu yng Ngorchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997(23).

Esemptiadau

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd ffi yn daladwy o dan baragraff (2) neu (5) o reoliad 3 neu baragraff (2) o reoliad 4 gan—

(a)person sy'n esempt o dan baragraff 1(1) (a) i (d) o Atodlen 12 i'r Ddeddf(24);

(b)person sydd wedi cyrraedd 60 oed;

(c)menyw sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd drwy drefniadau yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y sail ei bod yn fenyw sy'n disgwyl plentyn neu'n fenyw a roes enedigaeth yn y deuddeng mis diwethaf i blentyn byw neu blentyn y gellid ei gofrestru fel plentyn marw-anedig o dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953(25);

(ch)person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau ar gyfer esemptiadau rhag ffioedd am gyffuriau a chyfarpar yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y sail ei fod yn dioddef oddi wrth un neu fwy o'r cyflyrau canlynol—

(i)ffistwla parhaol (gan gynnwys caecostomi, colostomi, laryngostomi neu ileostomi) sy'n gwneud gorchuddion llawfeddygol neu gyfarpar yn ofynnol yn barhaol;

(ii)yr anhwylderau canlynol —

  • ffurfiau o hypoadrenaledd (gan gynnwys clefyd Addison) y mae therapi amnewid penodol yn hanfodol ar ei gyfer

  • diabetes insipidus a mathau eraill o hypobit?idedd

  • diabetes mellitus — ac eithrio os yw'n cael ei drin drwy ddeiet yn unig

  • hypoparathyroidedd

  • myasthenia gravis

  • myxoedema

(iii)epilepsi sy'n ei gwneud yn ofynnol i barhau â therapi gwrth-ddirdynnol;

(iv)anabledd corfforol parhaus sy'n rhwystro'r claf rhag gadael ei breswylfa heb gymorth person arall;

(d)person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau ar gyfer esemptiadau rhag ffioedd am gyffuriau a chyfarpar yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon o ran cyflenwi cyffuriau a chyfarpar ar gyfer trin anabledd sydd wedi'i dderbyn;

(dd)person sydd â thystysgrif ragdalu ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau ar gyfer esemptiadau rhag ffioedd am gyffuriau a chyfarpar yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am yr hawl i esemptiad o dan baragraff (1) ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n ofynnol o dan reoliadau 3(8) neu 4(3).

(3Nid yw'n ofynnol i berson sy'n esempt o dan baragraff 1(1)(c) o Atodlen 12 i'r Deddf neu o dan baragraff 1(b) o'r rheoliad hwn ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n ofynnol gan reoliadau 3(8) neu 4(3) os dyroddir—

(a)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu

(b)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

a bod dyddiad geni'r person wedi'i argraffu drwy gyfrwng cyfrifiadur ar y ffurflen berthnasol.

(4Caiff esemptiad drwy gyfeirio at oedran neu ddilysrwydd tystysgrif esemptio ei benderfynu drwy gyfeirio at yr oedran neu'r dilysrwydd ar y diwrnod —

(a)yn achos gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan fferyllydd, pan gyflwynir y gorchymyn am gyffuriau neu gyfarpar i'w weinyddu;

(b)mewn unrhyw achos arall, pan gaiff y cyffuriau neu'r cyfarpar eu cyflenwi.

(5Os oes cais am esemptiad wedi'i wneud ond heb ei gadarnhau ac nad oes ffi wedi'i chasglu yn sgil y cais, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol neu, os yw'r cyffuriau neu'r cyfarpar wedi'u cyflenwi gan un o ymddiriedolaethau'r GIG, rhaid i'r ymddiriedolaeth GIG honno gasglu'r ffi honno oddi wrth y person o dan sylw.

Tystysgrifau esemptio — gwneud cais amdanynt a'u rhoi

9.—(1Er gwaethaf darpariaethau rheoliadau 3(1) a (4), 4(1), 5, 6 a 7(1) caiff person sy'n gwneud cais am esemptiad ar y sail —

(a)ei bod yn fenyw sy'n disgwyl neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y deuddeg mis diwethaf i blentyn byw neu i blentyn y gellir cofrestru ei fod yn farw-anedig o dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953;

(b)ei fod yn dioddef o un neu fwy o'r cyflyrau a osodir ym mharagraff (i) i (iv) o reoliad 8(1)(ch);

(c)bod arno angen cyflenwad o'r cyffuriau a/neu'r cyfarpar ar gyfer trin anabledd wedi'i dderbyn

wneud cais am dystysgrif sy'n rhoi'r esemptiad (a elwir yn “tystysgrif esemptio”) i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn achos esemptiad o dan is-baragraff (a) neu (b) ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw ac yn achos esemptiad o dan is-baragraff (c) i un o swyddfeydd yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol ei fodloni fod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo ddyroddi tystysgrif esemptio a fydd yn ddilys —

(a)yn achos menyw sy'n disgwyl plentyn tan ddiwedd ei beichiogrwydd ac, os yw'n rhoi genedigaeth i blentyn byw neu i blentyn y gellid ei gofrestru fel un marw-anedig o dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, tan ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y disgwylir iddi esgor;

(b)yn achos mam sydd wedi rhoi genedigaeth i blentyn, tan ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar ddyddiad geni'r plentyn hwnnw.

(3Pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol ei fodloni bod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff 1(b), rhaid iddo ddyroddi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu arno.

(4Os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni bod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff (1)(c), rhaid iddo ddyroddi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno

Esemptiad rhag ffioedd i garcharorion

10.  Nid yw carcharor yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y Rheoliadau hyn.

Cardiau hawl

11.—(1Pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol ei fodloni bod person yn glaf cymwys, bydd yn dyroddi cerdyn i'r person hwnnw (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “cerdyn hawl”) a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu arno.

(2Mae cerdyn hawl a ddyroddir yn rhoi i'r claf cymwys yr hawl i gael cyffuriau a chyfarpar yn ddi-dâl o dan baragraffau (1)(b) a (4)(b)(i) o reoliad 3 a pharagraff (1) o reoliad 4.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “claf cymwys” yw person —

(a)sy'n preswylio yng Nghymru; a

(b)sy'n derbyn gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 1 o'r Ddeddf gan ddarparydd a gontractiwyd i ddarparu gwasanaethau o'r fath gydag Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; ac

mae'n cynnwys person sy'n gweithredu ar ran person o'r fath.

Darpariaethau Trosiannol

12.  Mae'r darpariaethau trosiannol yn Atodlen 1 yn effeithiol.

Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

13.  Diwygir y darpariaethau a restrir yn Atodlen 2 fel a bennir ynddi.

Diddymu

14.  Mae'r Rheoliadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 3 drwy hyn yn cael eu dirymu o ran Cymru i'r graddau a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(26)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007

Rheoliad 12

ATODLEN 1Darpariaeshau Trosiannol

Ad-dalu ffioedd

1.—(1Os oes ffi wedi'i thalu o dan Reoliadau Ffioedd 2001 gan neu ar ran person a oedd adeg y taliad yn esempt rhag y gofyniad i dalu'r ffi honno o dan reoliad 8 o'r Rheoliadau hynny, gall cais am ad-dalu'r ffi gael ei wneud yn unol â pharagraff (2) gan neu ar ran y person hwnnw.

(2Rhaid i'r cais am ad-daliad —

(a)cael ei wneud i'r person neu'r corff a bennir yn y dderbynneb a roddir o dan reoliad 3(8), 4(6), 5(6), 6(5), neu 7(5) o Reoliadau Ffioedd 2001 fel y person neu'r corff y mae'n rhaid gwneud cais am ad-dalu ffioedd iddo;

(b)cael ei wneud mewn unrhyw ffurf a modd y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt ar gyfer y ceisydd, unrhyw ddosbarth o geisydd neu geiswyr yn gyffredinol;

(c)cael ei wneud o fewn tri mis o'r dyddiad y cafodd y cyffur neu'r cyfarpar eu cyflenwi i'r ceisydd neu o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei ganiatáu am reswm da;

(ch)cael ei gyflwyno ynghyd â'r dderbynneb am y ffi a dalwyd a datganiad o'r seiliau dros yr esemptiad.

(3Yn achos ffi o dan reoliad 5 o ran cyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i Reoliadau Ffioedd 2001, mae rheoliad 11(3) o Reoliadau Ffioedd 2001 yn gymwys.

(4Mae trefniadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan reoliad 11(4) o Reoliadau Ffioedd 2001 gan berson sydd â hawl i esemptiad yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion paragraff 1.

Tystysgrifau rhagdalu

2.—(1Os bydd person wedi cael tystysgrif ragdalu yn rhinwedd gwneud unrhyw daliad yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001, a bod y cyfnod perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff (3) heb ddirwyn i ben, gellir gwneud cais am ad-daliad, gan neu ar ran y person hwnnw neu ei ystâd, yn unol â pharagraff (4) o ran pob mis cyfan ar ôl 1 Ebrill 2007.

(2Cyfrifir yr ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fel a ganlyn—

(a)yn achos tystysgrif ragdalu ddilys am 4 mis, un chwarter o'r swm rhagnodedig a dalwyd am bob mis cyfan pan yw neu pan oedd y dystysgrif ragdalu'n ddilys;

(b)yn achos tystysgrif ragdalu ddilys am 12 mis, un rhan o ddeuddeg o'r swm rhagnodedig a dalwyd am bob mis cyfan pan yw neu pan oedd y dystysgrif ragdalu'n ddilys;

ac at ddibenion y cyfrifo hwn, ystyr “mis cyfan” yw mis sy'n dechrau ar ddyddiad fis calendr union ar ôl y dyddiad pan ddaeth y dystysgrif ragdalu'n ddilys a chan ddiweddu ar y dyddiad sy'n union o flaen y dyddiad hwnnw yn y mis canlynol.

(3Ym mharagraff (1) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw cyfnod dilysrwydd y dystysgrif ragdalu heb gynnwys y mis y gwneir y cais am ad-daliad o dan baragraff (1) ar ei gyfer.

(4Rhaid i geisiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r Bwrdd Iechyd Lleol a gafodd y swm rhagnodedig o dan reoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001 a rhaid bod tystysgrif gyda'r cais (os rhoddwyd un) a datganiad yn cefnogi'r cais, a rhaid i'r cais a'r ad-daliad gael eu gwneud yn y fath fodd ac yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

Rheoliad 13

ATODLEN 2Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992

1.—(1Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o “the Charges Regulations” rhodder y canlynol—

“the Charges Regulations” means the National Health Service (Free Prescriptions and Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2007.

(3Ym mharagraff (7) o Ran 2 (Gwasanaethau Hanfodol) o Atodlen 2 dileer y term “or (1A)”;

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988

2.—(1Diwygir Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

(2Yn lle paragraff (1)(b) o reoliad 7 rhodder y paragraff canlynol—

(1) (b) provide any declaration of entitlement required under regulation 3(8) or 4(3) of the National Health Service (Free Prescriptions and Chrages for Drugs and Appliances) (Wales) Regualtions 2007.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004

3.—(1Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

(2Ym mharagraff 11A o Ran 1 o Atodlen 6 (Telerau Contractol Eraill)—

(a)yn is-baragraff (1) yn lle'r diffiniad o “the Charges Regulations” rhodder y canlynol—

“the Charges Regulations” means the National Health Service (Free Prescriptions and Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2007.

(b)yn is-baragraff (5)(a) yn lle'r term “4(1)” rhodder y term “4(3)”.

Rheoliad 14

ATODLEN 3RHEOLIADAU A DDIRYMWYD

(1)(2)(3)
Rheoliadau a ddirymwydCyfeirnodRhychwant y dirymiad
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001OS 2001/1358 (Cy.86)Y Rheoliadau cyfan ac eithrio rheoliadau 11(3) a (4). Rheoliadau (3) a (4) gydag effaith o 1 Gorffennaf 2007.
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001OS 2001/1359 (Cy.196)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003OS 2003/2624 (Cy.252)Rheoliad 4
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004OS 2004/1018 (Cy.115)Rheoliadau 1(4), 7 ac 8
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004OS 2004/1605 (Cy.164)Y Rheoliadau cyfan
Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Diwygiadau Canlyniadol) (Nyrsio a Bydwreigiaeth) 2004OS 2004/1771Paragraff 29 o Ran 2 o Atodlen 2
Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004OS 2004/1016 (Cy.113)Paragraff 24 o Atodlen 1
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005OS 2005/427 (Cy.44)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005OS 2005/1915 (Cy.158)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006OS 2006/943 (Cy.92)Y Rheoliadau cyfan
Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Gwasanaethau Deintyddol Personol (Cymru) 2006OS 2006/946 (Cy.95)Paragraff 4 o Atodlen 1
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006OS 2006/1792 (Cy.188)Y Rheoliadau cyfan

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2001(27) fel y'u diwygiwyd.

2.  Yn unol â hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r ffioedd ynghylch cyffuriau a chyfarpar a gyflenwir i gleifion sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol (YC) yng Nghymru neu sydd wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond eu bod yn dal cardiau hawl dilys gan fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 3), gan feddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 4), gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG (rheoliad 5) ac mewn canolfannau cerdded i mewn (rheoliad 6) a phan gyflenwir hwy yn unol â chyfarwyddiadau grwp cleifion (rheoliad 7). Mae Rheoliadau 3 a 4 ymhellach yn darparu ar gyfer ffioedd am gyffuriau a chyfarpar i unrhyw gleifion heblaw cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys.

3.  Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraph 2 uchod, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(28). Gwneir darpariaeth ar wahân ar gyfer ffioedd deintyddol ac optegol.

4.  Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer esemptiadau rhag talu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n gymwys i gleifion heblaw'r rheini sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys (rheoliad 8) ac yn darparu ymhellach ar gyfer cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys i wneud cais am dystysgrifau esemptio (rheoliad 9).

5.  Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer dyroddi cardiau hawl sydd yn galluogi preswylwyr yng Nghymru i gael cyffuriau a chyfarpar am ddim pan fo'r cyffuriau a chyfarpar yn cael eu gweinyddu gan fferyllwyr neu feddygon yng Nghymru.

6.  Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion (rheoliad 10).

7.  Mae Arfarniad Rheoleiddiol ar y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)

Disodlir adran 16BA o'r Ddeddf gan adran 11 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(4)

Darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig a fferyllol yn eu trefn o dan Rannau 4, 5, 6 a 7 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(6)

Darperir gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(8)

Rh. St. 1976/1213 (G.I.22).

(10)

1989 p.44.

(12)

Disodlir adran 41 o'r Ddeddf gan adran 80 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(13)

1978 p.29.

(14)

O.S. 2004/478 (Cy.48), fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/945 (Cy.94).

(15)

O.S. 2000/620, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/675.

(16)

O.S. 2001/1358 (Cy.86), fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2003/1792 (Cy. 188).

(17)

O.S. 1988/551, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/2791 (Cy. 232).

(18)

O.S. 1992/662, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf mewn perthynas â Chymru gan O.S.2005/1013 (Cy.67).

(19)

Disodlir adran 16A o Ddeddf gan adran 18 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(21)

Disodlir adran 16CC(2) o Ddeddf gan adran 41(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(24)

Disodlir Is-baragraffau 1(a) i (d) o baragraff 1 o Atodlen 12 i'r Ddeddf gan is-baragraff 1(a) i (d), yn eu trefn, a ddan 122 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) gydag effaith 1 Mawrth 2007.

(25)

1953 p.20.

(26)

1998 p.38.

(28)

1977 p.49.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources