Search Legislation

Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1076 (Cy.114)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2007

Yn dod i rym

6 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth lunio'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, deuant i rym ar 6 Ebrill 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

2.  Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(4) diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2002/46” mewnosoder ar y diwedd “, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/37/EC(5) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cynnwys sylweddau penodol”.

4.  Yn Atodlen 1 (fitaminau a mwynau y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd), yn Adran 1 (fitaminau), yn lle “Asid ffolig” rhodder “Ffolad”.

5.  Yn Atodlen 2 (ffurf ar sylweddau fitamin a mwyn y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd)—

(a)yn adran A (fitaminau), yn eitem 10 yn lle'r pennawd “ASID FFOLIG” rhodder “FFOLAD”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw rhodder ar y diwedd “(b) calsiwm L-methylffolad”;

(b)yn adran B (mwynau) o flaen “Carbonad cwprig” mewnosoder “Bisglycinad fferus”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 sy'n gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ar atchwanegiadau bwyd (OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.51). Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/37/EC (OJ Rhif L94, 1.4.2006, t.32) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46/EC o ran cynnwys sylweddau penodol.

2.  Mae Rheoliadau 2003 yn gwahardd gwerthu atchwanegiad bwyd y defnyddiwyd fitamin neu fwyn wrth ei gynhyrchu oni bai i'r fitamin hwnnw neu i'r mwyn hwnnw gael ei restru yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny ac oni bai ei fod ar ffurf a restrir yn Atodlen 2 (y rhestri cadarnhaol), yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol (rheoliad 5 ac Atodlenni i'r Rheoliadau hynny).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn ychwanegu ffurf arall ar y fitamin ffolad a ffurf arall ar y mwyn haearn at y rhestr gadarnhaol yn Atodlen 2 yn Rheoliadau 2003 (rheoliad 5) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol (rheoliad 4);

(b)yn diweddaru'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2002/46/EC” yn Rheoliadau 2003 (rheoliad 3).

4.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2006/37/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 ac 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S.2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf o ran y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L 100, 8.4.2006, t.3).

(4)

O.S. 2003/1719 (Cy. 186), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.

(5)

OJ Rhif L94, 1.4.2006, t.32.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources