Search Legislation

Gorchymyn Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005 (Adolygiadau) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 2

ATODLEN 1Adolygiadau i Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005

1.  Dileer paragraff 1.8 ac yn ei le rhodder —

  • Bwriad y Pwyllgor Diogelwch Tân Cymunedol yw bwrw ymlaen â'r gwaith sy'n cael effaith ar ddiogelwch y cyhoedd a chytunodd i ledu ei gylch gwaith y tu hwnt i ddiogelwch rhag tân, er enghraifft i feysydd megis gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. I adlewyrchu'r newidiadau hyn yr enw newydd ar y Pwyllgor Diogelwch Tân Cymunedol fydd y Pwyllgor Diogelwch Cymunedol ('PDC').

2.  Dileer paragraff 2.2 ac yn ei le rhodder —

  • Dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn 2003 mai targed Llywodraeth y Cynulliad oedd lleihau nifer y marwolaethau oherwydd tanau gan rhwng 30% a 50% yn y pum mlynedd a oedd yn dilyn, a chydweithio ag asiantaethau eraill tuag at leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau mewn damweiniau traffig ar y ffyrdd â ffigur tebyg. Y ffigurau gwaelodlin a gaiff eu defnyddio i asesu cynnydd yr Awdurdodau Tân ac Achub yn erbyn y targedau uchelgeisiol hyn fydd y ffigurau ar gyfer y flwyddyn galendr 2004. Yn ystod 2004 yr oedd cyfanswm o 26 o farwolaethau oherwydd tân; yr oedd 21 ohonynt o ganlyniad i danau damweiniol a 5 o ganlyniad i danau bwriadol. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw golwg ar y cynnydd a bydd yn ystyried gweithgaredd a chyflawniad yn erbyn y targed hwn o bryd i'w gilydd dros gyfnod o bum mlynedd.

3.  Dileer y canlynol o'r pedwerydd pwynt bwled ym mharagraff 2.5—

  • . Efallai y gellir rhoi ystyriaeth i dargedau ar y cyd ar gyfer pob asiantaeth yng Nghymru, dan nawdd Cyd-weithgor y Gwasanaethau Brys.

4.  Dileer paragraffau 2.6 — 2.17 (gan gynnwys y teitl 'Cynlluniau Rheoli Risg Integredig') ac yn eu lle rhodder —

Cynlluniau Lleihau Risg

2.6  Mae er lles pawb bod Cymru yn dod yn lle mwy diogel i weithio a theithio a byw ynddi ac i ymweld â hi. Er mwyn cynorthwyo â lleihau risg lansiodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio Gynllun Lleihau Risg yr Awdurdodau Tân ac Achub — Cymru Gwlad Ddiogelach ar 21 Mawrth 2006, sy'n darparu bod pob Awdurdod Tân ac Achub yn paratoi ei Gynllun Lleihau Risg ei hun ('CLlR').

2.7  Er mwyn mynd i'r afael â risg yn strategol mae'n ofynnol cael agwedd sy'n asesu risg corfforaethol a risg cymunedol. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod yr amgylcheddau cymhleth y mae'r Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithredu ynddynt, ac felly dylai pob Cynllun Lleihau Risg yr Awdurdodau Tân ac Achub ddynodi'n glir ei flaenoriaethau a dyrannu adnoddau yn unol â hynny.

2.8  Mae canllawiau CLlR yn cynghori Awdurdodau Tân ac Achub i reoli risg mewn dull cynhwysfawr, tryloyw a chadarn. Mae'n caniatáu digon o ystod i Awdurdodau Tân ac Achub o ran hyblygrwydd yn lleol a dulliau arloesol i gyflenwi eu gwasanaethau i'r dinasyddion a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

2.9  Dylai pob Awdurdod Tân ac Achub lunio CLlR neu gynllun gweithredu blynyddol sy'n canolbwyntio ar risg cymunedol a risg corfforaethol. Dylai CLlR yr Awdurdod Tân ac Achub ddarparu agenda strategol ar gyfer yr Awdurdod Tân ac Achub hwnnw.

2.10  Er mwyn i Awdurdodau Tân ac Achub allu cyflawni'r targedau a'r safonau a osodir ym mharagraff 2.2 dylent lunio CLlR sydd wedi'i anelu at:

  • Lleihau y nifer o danau a digwyddiadau argyfwng eraill;

  • Lleihau colli bywydau mewn tanau a digwyddiadau argyfwng eraill;

  • Lleihau nifer a difrifoldeb anafiadau mewn tanau a digwyddiadau argyfwng eraill;

  • Lleihau effaith fasnachol, economaidd a chymdeithasol tanau a digwyddiadau argyfwng eraill;

  • Diogelu'r amgylchedd a'r dreftadaeth, adeiledig a naturiol;

  • Darparu gwasanaethau sy'n rhoi Gwerth am Arian;

  • Integreiddio gweithgareddau'r Awdurdod Tân ac Achub yn yr agenda cyfiawnder cymdeithasol ehangach; a

  • Mynd i'r afael â'r cynigion ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth a nodir yn y Fframwaith hwn.

2.11  Fel rhan o'r ymrwymiad parhaus i gydweithio rhwng Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdodau Tân ac Achub, dylai pob Awdurdod Tân ac Achub drafod ei gynigion a'i opsiynau ynghylch ei CLlR neu ei gynllun gweithredu blynyddol yn anffurfiol gyda Llywodraeth y Cynulliad cyn bod yr Awdurdod Tân ac Achub yn cychwyn ei ymgynghori cyhoeddus ar y CLlR neu'r cynllun gweithredu blynyddol.

2.12  Dylai'r Awdurdodau Tân ac Achub ddatblygu, ymgynghori, cymeradwyo a chyhoeddi eu CLlR neu eu cynllun gweithredu blynyddol erbyn 31 Hydref, er mwyn bod yn barod i'w rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol ganlynol, yn unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan y Cylchlythyr Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru (06)07 sy'n dwyn y teitl Cynllun Lleihau Risg yr Awdurdodau Tân ac Achub — Cymru Gwlad Ddiogelach.

2.13  Dylid gwerthuso pob ymateb i'r ymgynghoriad a'u hystyried yn ffurfiol gan yr Awdurdod Tân ac Achub. Yn dilyn yr ymgynghori cyhoeddus a gwerthuso'r ymatebion dylai'r Awdurdodau Tân ac Achub gysylltu unwaith eto â Llywodraeth y Cynulliad i drafod yr ymatebion i'r ymgynghori a'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol yr Awdurdod Tân ac Achub.

2.14  Dylai'r Awdurdodau Tân ac Achub gyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad (gyda chytundeb yr ymgynghorion), ynghyd â'u hymateb hwy i'r materion a godwyd, mewn dogfen gyhoeddus cyn gynted ag y bo'r CLlR wedi cael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Tân ac Achub.

2.15  Anogir yr Awdurdodau Tân ac Achub i ddefnyddio Cyfarpar Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân ('CYAGT') i gasglu tystiolaeth gan y dylai eu CLlR fod yn flaengar ac wedi eu llunio gan y dystiolaeth yn hytrach nag yn ymateb i bwysau yn y tymor byr.

2.16  Mae gan bob Awdurdod Tân ac Achub fynediad i'r CYAGT sy'n ei alluogi i ragfynegi a rheoli'r risgiau yn ei ardal. Er nad y CYAGT yw'r unig fodel o gyfarpar sydd ar gael, dyma brif ddewis Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer casglu a dehongli tystiolaeth.

2.17  I grynhoi, dylai Awdurdodau Tân ac Achub lunio CLlR neu gynllun gweithredu blynyddol sy'n gwneud y canlynol:

  • Mynd i'r afael â'r mater o leihau risgiau corfforaethol a risgiau cymunedol;

  • Dylid eu gwneud yn destun ymgynghori eang am o leiaf 12 wythnos;

  • Dylid eu llunio gan gofio am ganllawiau, polisïau a strategaethau Llywodraeth y Cynulliad;

  • Eu bod wedi eu sylfaenu ar ddata cadarn a dibynadwy sy'n amlwg yn gysylltiedig â risgiau corfforaethol a risgiau cymunedol a ddynodwyd; a

  • Dylid eu trafod gyda Llywodraeth y Cynulliad cyn ymgynghori a chyn iddynt gael eu mabwysiadu'n ffurfiol gan yr Awdurdod Tân ac Achub.

5.—(1Ym mharagraffau 2.19, 2.26, 2.39, 2.40, 2.43, 4.13, 4.17, 6.3, 6.8, 6.16, 9.6 a 9.13 rhodder 'CLlR' yn lle 'CRhRI'.

(2Yn yr ail bwynt bwled ar dudalen 5 sy'n ymwneud â Phennod 2, rhodder 'Cynllun Lleihau Risg (CLlR)' yn lle 'Cynlluniau Rheoli Risg Integredig (CRhRI)'.

6.  Mewnosoder paragraff newydd ar ôl 2.23 —

2.23A  Yn y dyfodol bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn i'r PDC ystyried ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd blaenorol Llywodraeth y Cynulliad a'r defnydd effeithiol o'r cyfryngau cyn gwneud argymhellion ar weithgaredd a chyllid yn y dyfodol i Lywodraeth y Cynulliad.

7.  Ychwaneger ar ddiwedd paragraff 2.26 —

  • Bydd y cynlluniau peilot yn dod i ben ar ddiwedd Rhagfyr 2007. Er hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod yr angen i barhau â'r gweithgaredd a bydd yn parhau i gyllido'r timau tra bydd y PDC yn gwerthuso eu gwaith a gwneud argymhellion ar eu dyfodol i Lywodraeth y Cynulliad.

8.  Mewnosoder paragraff newydd ar ôl 2.28 —

2.28A  Bydd y Strategaeth Llosgi Bwriadol, pan gaiff ei chwblhau gan Lywodraeth y Cynulliad, yn ffurfio sail i weithgaredd gwrth-losgi bwriadol yn y dyfodol. Enw'r Strategaeth Llosgi Bwriadol hon fydd Strategaeth Lleihau Llosgi Bwriadol Cymru. Adolygir gweithgaredd gwrth-losgi bwriadol gan y PDC. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn i'r PDC gomisiynu strategaeth debyg ar gyfer tanau damweiniol.

9.  Ychwaneger ar ddiwedd paragraff 2.32 —

  • Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn i'r PDC ystyried gweithgaredd yn y maes hwn, gan adeiladu ar weithgaredd yn ystod cyfnod 2007-2008.

10.  Ychwaneger paragraff newydd ar ôl 2.33 —

2.33A  Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn i'r PDC ystyried pob gweithgaredd hyd yn hyn o ran diogelwch y gymuned a lleihau llosgi bwriadol a chynghori Llywodraeth y Cynulliad ar flaenoriaethau a lefelau cyllido ar gyfer unrhyw weithgaredd yn y dyfodol o 2007-08 ymlaen, gan gofio nid yn unig am weithgaredd blaenorol ond hefyd am flaenoriaethau newydd i Awdurdodau Tân ac Achub, megis gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.

11.  Dileer paragraffau 2.39 a 2.40 ac yn eu lle rhodder —

2.39  Mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Rhag Tân) 2005 (O.S. 2005/1541) ('GDT') yn ddiwygiad o bwys yng nghyfraith diogelwch rhag tân. Yr oedd y ddeddfwriaeth flaenorol o ran diogelwch rhag tân mewn dros gant o ddarnau o ddeddfwriaeth ar wahân. Daeth GDT i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau a phwerau'r Ysgrifennydd Gwladol yn y GDT i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Mehefin 2006 drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2006 (O.S. 2006/1458).

2.40  Mae prif bwyslais y diwygio ar atal tanau mewn mangreoedd annomestig ac ar drefn o asesu risg rhag tân a fydd yn cael ei chyflawni gan y person cyfrifol er mwyn dynodi, lliniaru neu ddileu unrhyw risg rhag tân i bobl yn y mangreoedd neu o'u cwmpas. Diddymwyd tystysgrifau tân a bellach nid oes ganddynt unrhyw statws.

  • Mae cyngor ar gael i bobl sy'n gyfrifol am eu mangreoedd o ran asesu risg tân yng Nghanllawiau Asesu Risg Tanau Llywodraeth y Cynulliad.

  • Gorfodir y GDT yn bennaf gan yr Awdurdodau Tân ac Achub, er y gall awdurdodau eraill orfodi'r GDT mewn meysydd fel gofal iechyd neu fangreoedd niwclear.

  • Dylai polisi Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer gorfodi'r GDT ffurfio rhan o'i strategaeth gyffredinol i ddiogelu ei gymuned, yn ôl y manylion yn ei CLlR.

  • Wrth iddo lunio ei bolisi gorfodi, dylai Awdurdod Tân ac Achub flaenoriaethu ei archwiliad o asesiadau risg tân ac arolygiadau o fangreoedd sy'n rhoi bywyd o dan risg arwyddocaol gan dân. Ceir canllawiau ar y mater hwn yng Nghylchlythyr Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru (06) 06 — Gwybodaeth Atodol ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub ar ddatblygu eu Cynlluniau Lleihau Risg (CLlR). Dyroddwyd y canllawiau hyn o dan erthygl 26 o'r RRO ac o'r herwydd nid yw'n ffurfio rhan o'r Fframwaith hwn.

12.  Dileer paragraff 4.3 ac yn ei le rhodder —

Safonau Gwasanaeth

4.3  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod anhyblygrwydd 'Safonau Ymateb Tân 1985'. Yr oeddent yn rhagysgrifiadol, anhyblyg ac wedi cael eu llunio i gyfyngu ar ymlediad tân o un eiddo i eiddo arall. Ychydig o sylw yr oeddent yn ei roi i fesurau diogelu bywyd neu ddiogelwch rhag tân yn yr eiddo.

  • Erbyn hyn datblygwyd Safonau Gwasanaeth i ddisodli 'Safonau Ymateb Tân 1985'. Mae'r Safonau Gwasanaeth yn disgrifio lefel gwasanaeth y gall pobl ddisgwyl ei gael.

  • Cyflwynodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio y Safon Gwasanaeth gyntaf ar 21 Mawrth 2005 drwy Gylchlythyr Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru (06) 08. Mae'r Safon Gwasanaeth hon yn rhoi manylion y safonau a ddisgwylir pan fydd Awdurdodau Tân ac Achub yn cael eu hanfon at danau mewn cartrefi.

  • Seilir y Safon Gwasanaeth hon ar fodel cynhwysfawr sy'n ystyried poblogaeth, dwysedd poblogaeth a math o boblogaeth. Selir y safon ar risg ac mae iddi dair agwedd:

1.  Y Safon yw darparu bod diffoddwyr yn cyrraedd tân yn y cartref o fewn 10 munud yn 80% o gartrefi Cymru.

2.  Os bydd yr ardal risg a ragfynegir gan CYAGT fel un sydd â gradd anafiadau sy'n fwy na 6, mae angen ymateb cyflymach o 5 munud.

3.  Os bydd CYAGT yn dosbarthu ardal fel un y mae'r risg yn uwch na'r cyfartaledd bydd angen i'r Awdurdod Tân ac Achub asesu'r risg unigol a bydd angen iddo fabwysiadu ffurf ychwanegol ar y strategaeth i leihau risg.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub sicrhau bod ymateb proffesiynol ac effeithiol ar gael i fodloni'r ystod o weithgareddau addysg a gweithgareddau atal a'r digwyddiadau argyfwng y maent yn ymateb iddynt. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hyfforddi staff a sicrhau eu bod yn cynnal safonau proffesiynol, eu bod yn gyfarwydd â'r risgiau ac yn deall y cysyniad o leihau a rheoli risg;

  • Darparu rheolaeth effeithiol a sicrhau bod systemau rheoli ar waith;

  • Sicrhau bod gan reolwyr digwyddiadau yr hyfforddiant a'r profiad priodol;

  • Sicrhau bod yr offer iawn ar gael a bod cefnogaeth lawn gan y staff o'r adnoddau priodol i ddelio'n effeithiol gyda digwyddiadau, o fewn y Safon Gwasanaeth a gytunwyd, a sicrhau diogelwch y rhai sy'n cyflawni'r tasgau; a

  • Gweithio gyda'i gilydd fel y bo'n briodol.

13.  Dileer paragraff 4.4.

14.  Ychwaneger at ddiwedd paragraff 4.14—

  • Yn unol â Chreu'r Cysylltiadau a'r Agenda Gydweithredu, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r ddadl o blaid cydweithredu rhwng y gwasanaethau brys, gan gynnwys defnyddio cydgyfleusterau.

15.  Ym mharagraff 5.14 dileer y canlynol—

  • a Gweithgor Argyfyngau Cymru.

16.  Dileer paragraff 5.17.

17.  Ym mharagraff 5.21 dileer y canlynol—

  • Mae'r trefniadau, a gynhyrchwyd ac a gytunwyd gan Weithgor Argyfyngau Cymru, yn adlewyrchu'r egwyddorion a gynhwysir yn Dealing with Disaster, ac yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli argyfwng cenedlaethol yng Nghymru.

18.  Dileer paragraffau 5.26 i 5.29 ac yn eu lle rhodder—

Firelink

5.26  Fel y cyhoeddwyd yng Nghylchlythyr Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru (06)09, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymuno â Llywodraeth y DU i gaffael system gyfathrebu radio digidol o'r radd flaenaf a enwir Firelink ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Bydd y system newydd hon yn darparu'r un dechnoleg i'r Awdurdodau Tân ac Achub ag a ddarperir i'r Heddlu a maes o law i'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru gan greu'r gallu i ryngweithredu a gwrthsefyll am y tro cyntaf.

5.27  Cafodd y contract ar gyfer y system gyfathrebu newydd ei osod i O2 Airwave Limited. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi tua £44 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf yn Firelink a bu'n gweithio'n agos â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn rhoi'r gwerth gorau am arian. Caiff y system ei chyllido gan Lywodraeth y Cynulliad hyd nes y bydd yn weithredol, ac yna bydd yr Awdurdodau Tân ac Achub yn cyfrannu at gostau refeniw y system newydd am gyfnod llawn y contract. Mae'r contract hefyd yn darparu ar gyfer cynnal a chadw systemau cyfathrebu radio presennol hyd nes y bydd system newydd Firelink yn gweithredu'n llawn.

5.28  Mae'r rhaglenni gwaith yn darparu y dylai'r system fod yn weithredol yng Nghymru gyda'r gallu i ryngweithredu'n llawn ledled gwasanaethau brys y DU erbyn canol 2009. Drwy Firelink bydd y gallu gan Awdurdodau Tân ac Achub i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau ar raddfa fawr ledled y DU a bydd yn eu darparu i ymdrin â gwahanol argyfyngau a gofynion heriol yr amgylchedd fel y maent heddiw.

Hyfforddiant

5.29  Cydgysylltir yr hyfforddiant i Ddifoddwyr Tân yng Nghymru ym mhob un o elfennau'r Dimensiwn Newydd a chyflawnir yr hyfforddiant mewn cydweithrediad â Thîm Cynllunio Rhanbarthol Dimensiwn Newydd Cymru a'r Prif Swyddogion Tân. Mae'r hyfforddiant arbennig yn cynnwys Diheintio Torfol; Canfod ac Adnabod Deunyddiau; Pympiau Pwerus; Chwilio ac Achub Trefol (ChAT) a Rheoli a Gorchymyn. Cyllidir yr hyfforddiant yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad nes bydd gwaith y Rhaglen Dimensiwn Newydd a gyflwynir fesul cam wedi cael ei chwblhau pan fydd trefniadau cyllido yn y tymor hir ar waith. Bydd costau ar gyfer criwiau ChAT hefyd yn cael eu cyllido gan Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys ystordai newydd ar gyfer cerbydau a chyfarpar y Dimensiwn Newydd, ynghyd â Rig Hyfforddi ChAT newydd a storfa.

19.  Ar ddiwedd paragraff 6.2 mewnosoder—

  • , ac sy'n adlewyrchu deddfwriaeth ynglyn â chydraddoldeb.

20.  Dileer paragraff 6.12 ac yn ei le rhodder —

  • Ar 31 Mawrth 2006 yr oedd 2% o gyfanswm y gweithlu'n fenywod. Er hynny, dim ond 2% o'r staff gweithredol (staff amser llawn a staff ar y system ddyletswydd wrth gefn) oedd yn fenywod. Yr oedd y lleiafrifoedd ethnig yn ffurfio 0.5% o gyfanswm y gweithlu.

  • Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau'n ymroddedig i newid proffil y gweithlu mewn Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru i adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y mae'r Awdurdodau Tân ac Achub yn eu gwasanaethu, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y Strategaeth Adnoddau Dynol sydd wrthi'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.

21.  Dileer paragraff 6.13.

22.  Dileer paragraffau, 6.15 a 6.16.

23.  Dileer paragraff 7.13 ac yn ei le rhodder—

  • Yn ystod 2006 agorwyd yn swyddogol ganolfan hyfforddi bwrpasol newydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, sy'n brosiect PFI y mae'r Cynulliad yn darparu dros £15m o gymorth refeniw iddo.

24.  Dileer paragraff 8.4.

25.  Dileer paragraff 8.11 ac yn ei le rhodder —

  • Yn ystod 2007-8 bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu £5 miliwn er mwyn dwyn gwaith y PDC yn ei flaen a gweithgareddau atal eraill.

26.  Dileer paragraff 10.17.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources