- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18. Dileer paragraffau 5.26 i 5.29 ac yn eu lle rhodder—
5.26 Fel y cyhoeddwyd yng Nghylchlythyr Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru (06)09, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymuno â Llywodraeth y DU i gaffael system gyfathrebu radio digidol o'r radd flaenaf a enwir Firelink ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Bydd y system newydd hon yn darparu'r un dechnoleg i'r Awdurdodau Tân ac Achub ag a ddarperir i'r Heddlu a maes o law i'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru gan greu'r gallu i ryngweithredu a gwrthsefyll am y tro cyntaf.
5.27 Cafodd y contract ar gyfer y system gyfathrebu newydd ei osod i O2 Airwave Limited. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi tua £44 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf yn Firelink a bu'n gweithio'n agos â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn rhoi'r gwerth gorau am arian. Caiff y system ei chyllido gan Lywodraeth y Cynulliad hyd nes y bydd yn weithredol, ac yna bydd yr Awdurdodau Tân ac Achub yn cyfrannu at gostau refeniw y system newydd am gyfnod llawn y contract. Mae'r contract hefyd yn darparu ar gyfer cynnal a chadw systemau cyfathrebu radio presennol hyd nes y bydd system newydd Firelink yn gweithredu'n llawn.
5.28 Mae'r rhaglenni gwaith yn darparu y dylai'r system fod yn weithredol yng Nghymru gyda'r gallu i ryngweithredu'n llawn ledled gwasanaethau brys y DU erbyn canol 2009. Drwy Firelink bydd y gallu gan Awdurdodau Tân ac Achub i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau ar raddfa fawr ledled y DU a bydd yn eu darparu i ymdrin â gwahanol argyfyngau a gofynion heriol yr amgylchedd fel y maent heddiw.
5.29 Cydgysylltir yr hyfforddiant i Ddifoddwyr Tân yng Nghymru ym mhob un o elfennau'r Dimensiwn Newydd a chyflawnir yr hyfforddiant mewn cydweithrediad â Thîm Cynllunio Rhanbarthol Dimensiwn Newydd Cymru a'r Prif Swyddogion Tân. Mae'r hyfforddiant arbennig yn cynnwys Diheintio Torfol; Canfod ac Adnabod Deunyddiau; Pympiau Pwerus; Chwilio ac Achub Trefol (ChAT) a Rheoli a Gorchymyn. Cyllidir yr hyfforddiant yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad nes bydd gwaith y Rhaglen Dimensiwn Newydd a gyflwynir fesul cam wedi cael ei chwblhau pan fydd trefniadau cyllido yn y tymor hir ar waith. Bydd costau ar gyfer criwiau ChAT hefyd yn cael eu cyllido gan Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys ystordai newydd ar gyfer cerbydau a chyfarpar y Dimensiwn Newydd, ynghyd â Rig Hyfforddi ChAT newydd a storfa.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: