- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person o unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun hwn—
(a)person sydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006 yn dechrau cyflogaeth gydag awdurdod fel diffoddwr tân, ac y mae ei rôl ar ôl dechrau'r gyflogaeth honno'n cynnwys—
(i)datrys digwyddiadau gweithredol, neu
(ii)arwain a chefnogi eraill i ddatrys digwyddiadau gweithredol;
(b)person sydd—
(i)ar ôl dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân cyn 6 Ebrill 2006,
(ii)ar ôl parhau mewn cyflogaeth o'r fath tan ddyddiad dewisiad yr aelod, a
(iii)ar ôl bod yn aelod o Gynllun 1992,
yn dewis dod yn aelod o'r Cynllun hwn; ac
(c)person y mae erthygl 3(3) o Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 yn cyfeirio ato (personau sy'n dod yn aelodau o Gynllun 1992 ar ôl dechrau cyflogaeth gydag awdurdod ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006 a chyn i'r Gorchymyn hwnnw ddod i rym).
(2) Ni chaiff person fod yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun hwn os yw'n gwneud dewisiad cyfraniadau (ond caiff ddod yn aelod-ddiffoddwr tân eto yn rhinwedd rheol 6(4)).
(3) Mae person yn aelod gohiriedig o'r Cynllun hwn os oes ganddo hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig o dan reol 3 o Ran 3.
(4) Mae person yn aelod-bensiynwr o'r Cynllun hwn os yw'n cael pensiwn neu fuddion eraill o dan y Cynllun mewn perthynas â'i wasanaeth pensiynadwy neu oherwydd gwasanaeth a gredydwyd i'r Cynllun o dan Ran 12.
(5) Mae person yn aelod dibynnol o'r Cynllun hwn os yw—
(a)yn briod neu'n bartner sifil i aelod-ddiffoddwr tân ymadawedig;
(b)yn bartner enwebedig i aelod-ddiffoddwr tân ymadawedig;
(c)yn aelod â chredyd pensiwn parthed aelod-ddiffoddwr tân;
(ch)yn blentyn i berson sy'n aelod o'r Cynllun yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau (1)(a) neu (b) y mae ei ddibyniaeth ar y person hwnnw yn bodloni'r amodau a bennir ym mharagraff 15(2) a (3) o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2004(1); neu
(d)yn cael cyfran o bensiwn diffoddwr tân a ddyrannwyd o dan reol 11 o Ran 3.
(6) At ddibenion paragraff (5), caiff aelod-ddiffoddwr tân enwebu person (“partner enwebedig”)—
(a)sydd wedi bod yn byw gyda'r aelod, mewn ffordd heblaw fel priod neu bartner sifil yr aelod, a hynny mewn perthynas hirdymor; a
(b)nad yw ar y dyddiad y mae'r cwestiwn o statws y person mewn perthynas â'r aelod-ddiffoddwr tân i fod i gael ei ystyried—
(i)yn briod nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,
(ii)wedi'i gofrestru gyda gweinyddydd y cynllun fel partner enwebedig yr aelod, a
(iii)sy'n dibynnu'n ariannol ar yr aelod neu sydd, gyda'r aelod, yn dibynnu'n ariannol ar ei gilydd
ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (8).
(7) Ym mharagraff (6)—
(a)ystyr “perthynas hirdymor” (“long-term relationship”) yw perthynas sydd wedi parhau, gan ymwrthod ag unrhyw berthynas arall, am y cyfnod o ddwy flynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae'r cwestiwn o statws y person mewn perthynas â'r aelod-ddiffoddwr tân i fod i gael ei ystyried, neu unrhyw gyfnod byrrach a wêl yr awdurdod yn dda mewn unrhyw achos penodol; a
(b)mae i “gweinyddydd cynllun” yr ystyr a roddir i “scheme administrator” gan adran 270 o Ddeddf Cyllid 2004.
(8) Ni chaiff aelod-ddiffoddwr tân enwebu o dan baragraff (6) os yw'r aelod wedi'i wahardd (o dan gyfraith Cymru a Lloegr) rhag priodi neu, yn ôl y digwydd, rhag dod yn bartner sifil i'r person y mae'r aelod yn dymuno ei enwebu.
(9) Bydd effaith enwebiad yn peidio os yw'r aelod-ddiffoddwr tân neu'r partner enwebedig yn priodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil (p'un ai gyda'i gilydd neu gyda pherson arall).
(10) Pan fo person sydd—
(a)yn cael ei gyflogi gan fwy nag un awdurdod, neu
(b)yn cael ei gyflogi gan awdurdod penodol o dan fwy nag un contract cyflogaeth,
yn aelod o'r Cynllun hwn, mae'r aelod hwnnw yn aelod ohono mewn perthynas â phob cyflogaeth; ond ni chaiff person o'r fath fod yn aelod yn rhinwedd unrhyw gyflogaeth y mae'r person hwnnw yn gwneud dewisiad cyfraniadau sydd heb ei ddileu mewn perthynas â hi.
2.—(1) Mae aelod-ddiffoddwr tân yn gymwys i gael pensiwn o dan y Cynllun hwn—
(a)os oes gan yr aelod o leiaf dri mis o wasanaeth cymhwysol; neu
(b)os oes taliad gwerth trosglwyddo mewn perthynas â hawl aelod o dan gynllun pensiwn personol yn cael wneund i'r Cynllun yn unol â Rhan 12; neu
(c)os yw'r aelod yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol.
3.—(1) 60 yw'r oedran ymddeol arferol aelodau-ddiffoddwyr tân.
(2) 65 yw oedran buddion arferol aelodau-ddiffoddwyr tân.
4.—(1) Pan fo aelod-ddiffoddwr tân yn gadael y Cynllun, bernir mai diwrnod olaf aelodaeth aelod-ddiffoddwr tân—
(a)pan fo'r aelod yn ymadael i ymddeol adeg yr oedran ymddeol arferol, yw ei ddiwrnod gwasanaeth olaf; a
(b)mewn unrhyw achos arall, yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw'r diwrnod olaf y mae'r aelod yn talu cyfraniadau.
(2) Pan fo aelod-ddiffoddwr tân ar seibiant di-dâl neu'n absennol heb ganiatâd ar y diwrnod y mae'n gadael y Cynllun, bernir mai diwrnod olaf aelodaeth yr aelod yw unrhyw ddyddiad y cytunir arno gyda'r awdurdod.
5.—(1) Caiff aelod-ddiffoddwr tân ar unrhyw bryd, gan roi hysbysiad ysgrifenedig i'w awdurdod cyflogi, ddewis peidio â gwneud unrhyw gyfraniadau pensiwn pellach (dewis y cyfeirir ato yn y Cynllun hwn fel “dewisiad cyfraniadau”).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(a)bydd dewisiad cyfraniadau yn weithredol ar y diwrnod y bydd y cyfnod talu cyntaf sy'n dod ar ôl y dyddiad y daw'r hysbysiad o dan baragraff (1) i law yn dechrau; a
(b)bydd aelodaeth yr aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun yn peidio ar y diwrnod y daw'r dewisiad cyfraniadau yn weithredol.
(3) Ymdrinnir â pherson sy'n gwneud dewisiad cyfraniadau cyn pen tri mis ar ôl iddo ymuno â'r Cynllun fel petai erioed wedi bod yn aelod o'r Cynllun.
(4) Bydd gan berson y mae ei aelodaeth o'r Cynllun yn peidio yn y modd a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(b) hawlogaeth o hyd i gael unrhyw fuddion gohiriedig a gronnwyd tra'r oedd y person hwnnw yn aelod.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff person sydd wedi gwneud dewisiad cyfraniadau ei ddileu drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo'r person—
(a)yn un sydd â hawlogaeth i gyfrif 40 neu fwy o flynyddoedd o wasanaeth pensiynadwy at ddibenion y Cynllun; neu
(b)wedi rhoi hysbysiad o'r blaen o dan y rheol hon, oni bai bod yr awdurdod wedi gwrthod ei dderbyn.
(3) Caiff yr awdurdod benderfynu na chaniateir i ddewisiad person gael ei ddileu oni bai bod y person wedi cael archwiliad meddygol, ar draul y person ei hun, a'i fod wedi bodloni'r awdurdod ei fod mewn iechyd da.
(4) Pan fo dewisiad o dan reol 5(1) yn cael ei ddileu—
(a)rhaid i'r person ailddechrau gwneud cyfraniadau pensiwn; a
(b)bydd unwaith eto'n aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun,
a bydd hynny'n weithredol o'r diwrnod y mae'r cyfnod talu cyntaf sy'n dod ar ôl y dyddiad y daw'r hysbysiad o dan baragraff (1) o'r rheol hon i law.
2004 p.12. Gweler hefyd Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid 2005 (p.7), Atodlen 10.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: