- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo aelod-ddiffoddwr tân—
(a)yn gadael cyflogaeth awdurdod Cymreig (“cyn awdurdod” yr aelod-ddiffoddwr tân),
(b)heb doriad yn ei wasanaeth, yn dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân gydag awdurdod Cymreig arall (“awdurdod newydd” yr aelod-ddiffoddwr tân), ac
(c)yn rhinwedd y swydd honno yn parhau i fod yn aelod o'r Cynllun hwn,
rhaid i gyn awdurdod yr aelod-ddiffoddwr tân, heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl iddo adael ei gyflogaeth gyda'r cyn awdurdod, ddarparu i'w awdurdod newydd dystysgrif yn dangos y gwasanaeth pensiynadwy yr oedd gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth i'w gyfrif ar y dyddiad y gadawodd gyflogaeth ei gyn awdurdod (“y dyddiad o bwys”).
(2) Yr un pryd ag y bydd y cyn awdurdod yn darparu tystysgrif o dan baragraff (1), rhaid iddo anfon copi ohono i'r person o dan sylw, ynghyd â datganiad o'i effaith ar gwblhau'r trosglwyddo.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r person o dan sylw yn anfodlon ar yr wybodaeth a bennir mewn tystysgrif o dan baragraff (1), caiff y person, cyn pen tri mis ar ôl i gopi ohono gael ei ddarparu iddo, ofyn i'r cyn awdurdod ddyfarnu a yw'r wybodaeth sydd ynddo yn gywir.
(4) Rhaid i berson sy'n gwneud archiad o dan baragraff (3) anfon copi ohono i'w awdurdod newydd.
(5) Rhaid i archiad o dan baragraff (3) gael ei ystyried drwy gyfrwng y trefniadau ar gyfer datrys anghytundebau a roddwyd ar waith gan yr awdurdod yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995(1) (datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau) 1996(2); a rhaid i'r awdurdod naill ai gadarnhau'r dystysgrif neu ddyroddi tystysgrif newydd.
(6) Os nad yw'r person o dan sylw yn gwneud archiad o dan baragraff (3), mae'r dystysgrif fel y'i darparwyd, ac os yw'r person yn gwneud archiad o'r fath, mae'r dystysgrif fel y'i cadarnhawyd neu'r dystysgrif newydd a ddyroddwyd (yn ôl y digwydd), yn derfynol ynghylch y gwasanaeth pensiynadwy yr oedd gan y person hawlogaeth i'w cyfrif ar y dyddiad o bwys.
(7) Os bydd y person o dan sylw, ar ôl y dyddiad o bwys ond cyn bod tystysgrif wedi'i darparu o dan baragraff (1)—
(a)yn hawlio pensiwn neu gyfandaliad o dan y Cynllun hwn,
(b)yn hawlio pensiwn neu gyfandaliad o dan y Cynllun Iawndal, neu
(c)yn marw,
bydd y paragraff hwnnw yn peidio â bod yn gymwys.
(8) Os bydd digwyddiad a grybwyllir yn unrhyw un o is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (7) yn digwydd cyn i'r dystysgrif o dan sylw ddod yn derfynol, bydd effaith y dystysgrif yn peidio a bydd paragraff (3) yn peidio â bod yn gymwys.
(9) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i dystysgrif ddod yn derfynol, rhaid i'r awdurdod newydd roi ei heffaith iddi drwy gredydu'r person o dan sylw â'r gwasanaeth pensiynadwy a ddangosir yn y dystysgrif.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: