Search Legislation

Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 1028 (Cy.95)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

28 Mawrth 2007

Yn dod i rym

29 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 6(4), (5), (6), (8) a (14) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1).

Yn unol ag adran 6(15) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny sydd yn ei farn ef yn briodol am eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae a wnelo'r Rheoliadau hyn â hwy.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ciper” (“gamekeeper”) yw person a gymerir ymlaen gan berson sydd â hawliau saethu i gadw, i ddiogelu neu i feithrin anifeiliaid ac i reoli neu i gynorthwyo gyda rheoli cyrch saethu;

ystyr “cyrch saethu” (“shoot”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu saethu at ddibenion helwriaeth;

ystyr “dynodiad achub mewn argyfwng” (“emergency rescue identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o gorff sy'n darparu gwasanaeth achub mewn argyfwng;

ystyr “dynodiad CATHEM” (“HMRC identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn un o gyflogeion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr “dynodiad y gwasanaeth carcharau” (“prison service identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod awdurdodedig naill ai o Wasanaeth Carcharau Ei Mawrhydi neu o sefydliad sydd wedi'i gyflogi i ddarparu gwasanaethau carcharu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol;

ystyr “dynodiad yr heddlu” (“police identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o'r heddlu, neu ei fod wedi'i gyflogi ganddynt mewn modd arall neu wedi'i gontractio i weithio i awdurdod heddlu;

ystyr “dynodiad y lluoedd arfog” (“armed forces identification”) yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o un o luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu ei fod wedi'i gyflogi ganddynt mewn modd arall neu wedi'i gontractio i weithio i un o luoedd arfog Ei Mawrhydi;

ystyr “math penodedig o waith” (“specified type of work”) yw gwaith mewn cysylltiad â gorfodi'r gyfraith, gweithgareddau lluoedd arfog Ei Mawrhydi, achub mewn argyfwng, rheoli cyfreithlon ar blâu, neu saethu anifeiliaid yn gyfreithlon.

ystyr “meddiannydd tir” (“land-occupier”) yw person sy'n meddiannu tir y mae cyrch saethu yn digwydd arno;

ystyr “person sydd â hawliau saethu” (“person with shooting rights”) yw perchennog neu lesddeiliad hawliau saethu;

ystyr “swyddog clwb” (“club official”) yw person sy'n gwasanaethu fel swyddog o glwb saethu;

ystyr “trefnydd cyrch saethu” (“shoot organiser”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am drefniadaeth gyfansawdd cyrch saethu;

Gofynion Ardystio

3.—(1Caiff milfeddyg ardystio ei fod wedi gweld tystiolaeth fod ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at fath penodedig o waith a'i fod yn gi o fath penodedig—

(a)pan fo wedi'i fodloni fod mam y ci o un neu fwy nag un o'r mathau a bennir yn Atodlen 1;

(b)pan fo'n credu'n rhesymol nad yw'r ci yn fwy na 5 niwrnod oed; ac

(c)pan fo perchennog y ci, neu berson arall y mae'r milfeddyg yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog, wedi dangos y dystiolaeth a bennir ym mharagraff 2 i'r milfeddyg.

(2Y dystiolaeth yw—

(a)mam y ci;

(b)datganiad wedi'i gwblhau, wedi'i wneud yn Rhan 1 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, ac wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan berchennog y ci neu berson arall y mae'r milfeddyg y cyflwynir y datganiad iddo yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog; ac

(c)un o'r canlynol—

(i)pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran un o luoedd arfog Ei Mawrhydi, dynodiad y lluoedd arfog;

(ii) pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran corff sy'n darparu gwasanaeth achub mewn argyfwng, dynodiad achub mewn argyfwng;

(iii)pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran awdurdod heddlu, dynodiad yr heddlu;

(iv)pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran Gwasanaeth Carcharau Ei Mawrhydi neu ar ran sefydliad sydd wedi'i gyflogi i ddarparu gwasanaethau carcharu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, dynodiad y gwasanaeth carcharau;

(v)pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, dynodiad CATHEM;

(vi)tystiolaeth y bydd perchennog y ci, neu'r asiant neu'r cyflogai i'r perchennog sy'n fwyaf tebygol o fod yn defnyddio'r ci, yn defnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â rheoli cyfreithlon ar blâu;

(vii)tystysgrif gyfredol ar gyfer dryll neu arf tanio a ddyroddwyd i berchennog y ci, neu i'r asiant neu'r cyflogai i'r perchennog sy'n fwyaf tebygol o fod yn defnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â saethu anifeiliaid yn gyfreithlon;

(viii)llythyr gan giper, meddiannydd tir, (neu eu hasiant), person sydd â hawliau saethu, trefnydd cyrch saethu, swyddog clwb, person sy'n cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol y Daeargwn Gwaith, neu gan berson sy'n ymwneud â rheoli cyfreithlon ar blâu, yn datgan ei fod yn adnabod bridiwr y ci sydd i gael tocio'i gynffon, ac fod cwn a gafodd eu bridio gan y bridiwr hwnnw wedi cael eu defnyddio ar ei dir, neu yn ei gyrch saethu, neu at ddifa plâu (yn ôl y digwydd).

(3Mae'n rhaid rhoi unrhyw ardystiad o dan baragraff (1) ar Ran 2 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2.

Cadarnhau tocio cynffon

4.  Rhaid i filfeddyg sy'n torri ymaith y cyfan o gynffon ci neu unrhyw ran ohoni, ac eithrio at ddibenion rhoi triniaeth feddygol iddo, ardystio'r ffaith honno ar Ran 3 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2.

Dynodi cwn wedi'u tocio

5.—(1Er mwyn cael ei ddynodi fel ci is-adran (3) fel sy'n ofynnol gan adran 6(8) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rhaid i gi fod wedi'i ficrosglodynnu—

(a)gan filfeddyg neu gan nyrs filfeddygol yn gweithredu o dan oruchwyliaeth milfeddyg; a

(b)gan ddefnyddio microsglodyn sy'n cydymffurfio naill ai â safon ISO 11784 neu ag Atodiad A i safon ISO 11785 y Gyfundrefn Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion(2).

(2Dim ond ar ôl i'r perchennog, neu berson arall y mae'r milfeddyg sydd i wneud neu i oruchwylio'r microsglodynnu yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog, wneud datganiad wedi'i lofnodi a'i ddyddio ar Ran 4 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2 y ceir microsglodynnu ci at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i'r milfeddyg sy'n gwneud neu'n goruchwylio'r microsglodynnu ardystio'r ffaith honno ar Ran 5 o dystysgrif yn y ffurflen a ragnodir yn Atodlen 2.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2007

Rheoliad 3(1)(a)

ATODLEN LMathau Penodol o Gwn

Ysbaengwn

O'r bridiau a ganlyn:

Ysaengi Lloegr

Ysbaengi Cymru

Ysbaengi Adara,

ond nid cyfuniadau o fridiau

Daeargwn:

O'r bridiau a ganlyn:

Daeargi Jack Russell

Daeargi Byrgoes

Daeargi Ardal y Llynnoedd

Daeargi Norfolk

ond nid cyfuniadau o fridiau.

Cwn hela, cyfeirio, cyrchu

O'r bridiau a restrir isod:

Brac yr Eidal

Adargi Llydaw

Cyfeirgi Hirflew yr Almaen

Cyfeirgi Byrflew yr Almaen

Cyfeirgi Gwifrflew yr Almaen

Visla Hwngari

Visla Gwifrflew Hwngari

Spinone'r Eidal

Ysbaengi Sbaen

Weimaraner

Griffon Korthals

Cyfeirgi Crychflew Slofacia

Munsterlander Mwyaf

Munsterlander Lleiaf

Rheoliadau 3 a 4

ATODLEN 2Ffurf y Dystysgrif

DEDDF LLES ANIFEILIAID 2006, adran 6

Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007

Rhan 1 —Cyflwyno ci i'w Ardystio

(I'w gwblhau gan y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ardystio)

Manylion y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ardystio

1.  Enw a chyfeiriad;

2.  Cysylltiad â'r ci sydd i gael tocio'i gynffon ar [MEWNOSODER Y DYDDIAD] gan y milfeddyg sy'n llofnodi'r dystysgrif yn rhan 2 isod] (dileer yn ôl priodoldeb):

  • perchennog y ci;

  • person a awdurdodwyd i gynrychioli perchennog y ci.

Manylion y ci a gyflwynir i'w ardystio

3.  Dyddiad geni:

4.  Math y ci (ticier yn ôl priodoldeb):

a.Ysbaengwn o'r bridiau a ganlyn:

  • Ysbaengi Lloegr

  • Ysbaengi Cymru

  • Ysbaengi Adara

b.Daeargwn o'r bridiau a ganlyn:

  • Daeargi Jack Russell

  • Daeargi Byrgoes

  • Daeargi Ardal y Llynnoedd

  • Daeargi Norfolk

c.Brîd o gi hela, cyfeirio, cyrchu a restrir isod:

  • Brac yr Eidal

  • Adargi Llydaw

  • Cyfeirgi Hirflew yr Almaen

  • Cyfeirgi Byrflew yr Almaen

  • Cyfeirgi Gwifrflew yr Almaen

  • Visla Hwngari

  • Visla Gwifrflew Hwngari

  • Spinone'r Eidal

  • Ysbaengi Sbaen

  • Weimaraner

  • Griffon Korthals

  • Cyfeirgi Crychflew Slofacia

  • Munsterlander Mwyaf

  • Munsterlander Lleiaf

5.  Math y fam (ticier yn ôl priodoldeb):

a.Ysbaengwn o'r bridiau a ganlyn:

  • Ysbaengi Lloegr

  • Ysbaengi Cymru

  • Ysbaengi Adara

b.Daeargwn o'r bridiau a ganlyn:

  • Ysbaengi Jack Russell

  • Ysbaengi Byrgoes

  • Ysbaengi Ardal y Llynnoedd

  • Ysbaengi Norfolk

c.Brîd o gi hela, cyfeirio, cyrchu a restrir isod:

  • Brac yr Eidal

  • Adargi Llydaw

  • Cyfeirgi Hirflew yr Almaen

  • Cyfeirgi Byrflew yr Almaen

  • Cyfeirgi Gwifrflew yr Almaen

  • Visla Hwngari

  • Visla Gwifrflew Hwngari

  • Spinone'r Eidal

  • Ysbaengi Sbaen

  • Weinmaraner

  • Griffon Korthals

  • Cyfeirgi Crychflew Slofacia

  • Munsterlander Mwyaf

  • Munsterlander Lleiaf

Gofynion Ardystio

6.  Mae'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad â (ticier yn ôl priodoldeb):

a.gorfodi'r gyfraith;

b.gweithgareddau lluoedd arfog Ei Mawrhydi;

c.achub mewn argyfwng;

ch.rheoli cyfreithlon ar blâu; neu

d.saethu anifeiliaid yn gyfreithlon.

7.  Pan fo'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad ag un neu fwy o'r dibenion a restrir ym mharagraff (6)(a) i (c), rhaid cyflwyno un neu fwy o'r canlynol gyda'r ffurflen hon (ticier yn ôl priodoldeb):

a.dynodiad y lluoedd arfog;

b.dynodiad achub mewn argyfwng;

c.dynodiad yr heddlu;

ch.dynodiad y gwasanaeth carcharau;

d.dynodiad CATHEM;

8.  Pan fo'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad â rheoli cyfreithlon ar blâu, rhaid cyflwyno'r canlynol gyda'r ffurflen hon:

a.tystiolaeth y bydd perchennog y ci, neu asiant neu gyflogai i'r perchennog yn debygol o ddefnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â'r pwrpas hwnnw; neu

b.tystiolaeth ysgrifenedig gan un o'r canlynol (ticier yn ôl priodoldeb):

i.ciper

ii.meddiannydd tir (neu ei asiant);

iii.person sydd â hawliau saethu;

iv.trefnydd cyrch saethu;

v.swyddog clwb;

vi.person sy'n cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol y Daeargwn Gwaith;

yn datgan ei fod yn adnabod bridiwr y ci sydd i gael tocio'i gynffon, ac fod cwn a gafodd eu bridio gan y bridiwr hwnnw wedi cael eu defnyddio ar ei dir neu ar ei gyrch saethu, neu at ddifa plau (yn ol y digwydd).

9.  Pan fo'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad â saethu anifeiliaid yn gyfreithlon, rhaid cyflwyno'r canlynol gyda'r ffurflen hon:

a.tystysgrif gyfredol ar gyfer dryll neu arf tanio a ddyroddwyd i berchennog y ci, neu i asiant neu gyflogai i'r perchennog sy'n debygol o ddefnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â saethu anifeiliaid yn gyfreithlon; neu

b.tystiolaeth ysgrifenedig gan un o'r canlynol (ticier yn ôl priodoldeb):

i.ciper

ii.meddiannydd tir (neu ei asiant);

iii.person sydd â hawliau saethu;

iv.trefnydd cyrch saethu;

v.swyddog clwb;

vi.person sy'n cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol y Daeargwn Gwaith;

vii.person sy'n ymwneud â rheolaeth gyfreithlon ar blâu

yn datgan ei fod yn adnabod bridiwr y ci sydd i gael tocio'i gynffon, ac fod cwn a gafodd eu bridio gan y bridiwr hwnnw wedi cael eu defnyddio, ar ei dir neu ar ei gyrch saethu, neu at ddifa plau (yn ol y digwydd).

Datganiad

Rwyf yn cadarnhau fod yr wybodaeth a roddir uchod a'r dystiolaeth a gyflwynir gyda'r ffurflen hon yn wir ac yn gywir.

Rwyf yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi gau wybodaeth yn ymwybodol i filfeddyg mewn cysylltiad â dyroddi tystysgrif at ddibenion adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Llofnod y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ardystio:

Enw:

Dyddiad:

Rhan 2 —Ardystio'r ci yn gi gwaith

(I'w gwblhau gan y milfeddyg sy'n ardystio'r ci)

1.  Rwyf wedi'm bodloni bod math y ci a math ei fam wedi'u nodi ym mharagraff 4 a 5 yn eu trefn o Ran 1.

2.  Rwyf wedi gweld y dystiolaeth a gyflwynwyd yn unol â paragraffau 7-9 o Ran 1 uchod, fod y ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad ag un o'r dibenion a bennir ym mharagraff 6 o Ran 1 uchod.

3.  Yn unol ag adran 6(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rwyf yn ardystio fod yr amodau yn adran 6(5) a (6) o'r Ddeddf wedi'u cyfarfod o ran y ci a gyflwynwyd i mi a pharthed yr hwn y cafodd rhan 1 uchod ei gwblhau.

  • Llofnod y Milfeddyg:

  • Enw:

  • Dyddiad:

  • Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:

Rhan 3 —cadarnhau tocio cynffon ci

(I'w gwblhau gan y milfeddyg sydd wedi tocio cynffon y ci)

Rwyf yn cadarnhau fy mod ar [dyddiad] wedi tocio cynffon y ci parthed yr hwn y cafodd rhannau 1 a 2 o'r ffurflen hon eu cwblhau.

Llofnod y Milfeddyg:

Enw:

Dyddiad:

Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:

Rhan 4 —cyflwyno ci i'w ddynodi

(I'w gwblhau gan y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ficrosglodynnu)

1.  Enw a chyfeiriad y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ddynodi:

2.  Cysylltiad â'r ci (dileer yn ôl priodoldeb):

  • perchennog y ci;

  • person a awdurdodwyd i gynrychioli perchennog y ci

3.  Rwyf yn cadarnhau mai'r un ci yw'r ci yr wyf yn ei gyflwyno heddiw i'w ficrosglodynnu â'r ci a gafodd docio ei gynffon ar [DYDDIAD] a pharthed yr hwn y cafodd rhannau 1 i 3 o'r dystysgrif hon eu cwblhau.

4.  Rwyf yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi gau wybodaeth yn ymwybodol i filfeddyg mewn cysylltiad â dyroddi tystysgrif at ddibenion adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

  • Llofnod perchennog y ci neu'r person a awdurdodwyd i'w gynrychioli:

  • Enw:

  • Dyddiad:

Rhan 5 —cadarnhau microsglodynnu

(I'w gwblhau ar y dyddiad y caiff y ci ei ficrosglodynnu gan y milfeddyg cyfrifol)

1.  Rwyf yn cadarnhau i mi/i nyrs filfeddygol yn

  • gweithredu o dan fy ngoruchwyliaeth (dileer yn ôl priodoldeb) roi microsglodyn yn y ci a gyflwynwyd i'w ficrosglodynnu.

2.  Rwyf wedi'm bodloni mai'r ci a gyflwynwyd i'w ficrosglodynnu yw'r un parthed yr hwn y cafodd rhannau 1— 4 o'r ffurflen hon eu cwblhau.

3.  Cafodd y microsglodyn ei roi yn y ci ar: [dyddiad]

4.  Y darlleniad ar y microsglodyn yw [MEWNOSODER Y DARLLENIAD AR Y MICROSGLODYN].

  • Llofnod:

  • Enw:

  • Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:

  • Dyddiad:

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

O dan adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45), gellir esemptio cwn gwaith drwy reoliadau rhag y gwaharddiad ar dorri ymaith y cyfan o gynffon ci neu unrhyw ran ohoni, ac eithrio at ddibenion rhoi triniaeth feddygol iddo.

Mae rheoliad 3 yn gosod y gofynion sydd i'w cadw cyn y caiff milfeddyg ardystio fod y ci yn gi gwaith. Mae rheoliad 3(1)(a) ac Atodlen 1 yn pennu'r mathau o gi y gellir ei ardystio, ac mae rheoliad 3(1)(c) a 3(2) yn disgrifio'r dystiolaeth bellach (ynghylch y tebygolrwydd y bydd y ci yn cael ei ddefnyddio at waith penodol) y bydd yn ofynnol ei ddangos i'r milfeddyg er mwyn sicrhau tystysgrif o'r fath. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i filfeddyg ardystio'r ffaith ei fod wedi tocio cynffon ci. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r modd y mae ci a gafodd docio ei gynffon i gael ei ddynodi drwy ficrosglodynnu. Mae Atodlen 2 yn rhagnodi'r ffurf y mae'r dystysgrif i'w rhoddi ynddi.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p.45. Diffinnir yr awdurdod cenedlaethol priodol yn adran 62(1) o'r Ddeddf.

(2)

Ysgrifenyddiaeth Ganolog ISO, Y Gyfundrefn Safonau Rhyngwladol (ISO), 1 rue de Varembé, Case postale 56, CH-1211, Genefa 20, Y Swistir.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources