Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

YR ATODLENNI

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(1) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2);

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(3);

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(4) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(5) yn cael ei wirio, fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005; ac

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol sy'n ymwneud â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diwygio Cyfarwyddebau 89/662/EEC y Cyngor a 92/118/EEC a Phenderfyniad 95/408/EC(6) y Cyngor.

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden (7);

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(8);

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(9); ac

  • ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(10).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw—

(a)Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(11) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

(b)Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999(12);

(c)Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(13);

(ch)Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(14);

(d)Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid.

(dd)Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Bwyd Anifeiliaid Glwten ŷD a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005(15);

(e)Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(16);

(f)Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(17).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw—

(a)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â—

(i)rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(18),

(ii)rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Bwydydd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1999(19),

(iii)cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2081/92 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(20) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt(21),

(iv)cymhwyso'r rheolau a osodir ar gyfer tystysgrifau Cymunedol o natur benodol y gellir eu cael ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2082/92 ar dystysgrifau o natur benodol ar gyfer cynhychion amaethyddol a bwydydd (22) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt,

(v)rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(23) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(24),

(vi)rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(25), a

(vii)rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid—

(aa)o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(26), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a

(bb)o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(27)), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth; a

(b)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cysylltiad â bwyd ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli deunyddiau sy'n dod i gysylltiad â bwyd o dan Reoliadau Offer Crochenwaith (Diogelwch) 1988(28)); ac

(c)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysY darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2.Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysY darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2.Yr awdurdod bwydErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54
(1)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(2)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(3)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ No. L226, 25.6.2004, p.22).

(5)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

(6)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(7)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(8)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1.

(9)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.

(10)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.

(18)

O.S. 1997/1729, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3590 ac O.S. 2004/147.

(20)

OJ No. L208, 24.7.92, t.1.

(21)

OJ No. L236, 23.9.2003, t.346.

(22)

OJ No. L208, 24.7.92, t.9.

(24)

O.S. 2004/1604, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2003.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources