Search Legislation

Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2802 (Cy.241)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

17 Hydref 2006

Yn dod i rym

25 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), ar ôl iddo ymghynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd, y cyrff neu'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach yn eu trefn y mae o'r farn eu bod yn briodol a'r cyrff a'r personau eraill hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (“y Ddeddf”)(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o'r Ddeddf ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2006.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000

2.—(1Diwygier Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000(3) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 32 (tramgwyddau)(4)

(a)yn lle “£20,000” rhodder “£50,000”; a

(b)yn lle “six months” rhodder “12 months”.

(3Diwygier Rhan 1 o Atodlen 1 (Gweithgareddau, Gosodiadau a Chyfarpar Symudol) fel a ganlyn—

(a)Yn Rhan B o Adran 1.2 (Gweithgareddau Nwyeiddio, Hylifo a Phuro)—

(i)yn lle'r atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (d) rhodder hanner colon ac ychwaneger y paragraffau canlynol—

(e)motor vehicle refuelling activities at existing service stations, if the petrol refuelling throughput at the service station in any period of twelve months commencing on or after 1st January 2007 is, or it is likely to be, 3500mΔ or more;

(f)motor vehicle refuelling activities at new service stations, if the petrol refuelling throughput at the service station in any period of twelve months is likely to be 500mΔ or more.,

(ii)o dan y pennawd “Interpretation of Part B”, ym mharagraff 1 ar ôl y geiriau “In this Part”, mewnosoder—

“existing service station” means a service station—

(a)

which is put into operation; or

(b)

for which planning permission under the Town and Country Planning Act 1990(5) was granted,

before 31 December 2009; ac

(iii)o dan y pennawd “Interpretation of Part B”, ym mharagraff 1 o flaen y diffiniad o “petrol”, mewnosoder—

“new service station” means a service station which is put into operation on or after 31st December 2009 other than an existing service station;;

(b)ym mharagraff (f) o Ran A(1) o Adran 5.1 (Hylosgi a Chydhylosgi Gwastraff), ar ôl “burning” mewnosoder “landfill gas or”;

(c)ym mharagraff 4 o Ran B o Adran 7 (Gweithgareddau SED)—

(i)yn lle'r geiriau “coming into force of these Regulations”, pan ymddangosant am y tro cyntaf, rhodder y geiriau “20th January 2004”,

(ii)yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle'r geiriau “date of coming into force of these Regulations”, rhodder y geiriau “20th January 2004”.

(4Diwygier Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) fel a ganlyn—

(a)yn Rhan 3 (Gosodiadau SED)—

(i)ym mharagraff 13(1), ar ôl “paragraphs” mewnosoder “13A,”,

(ii)ar ôl paragraff 13, mewnosoder—

13A.(1) An operator of an existing SED installation—

(a)involving only dry cleaning as defined in paragraph (2) of Part B of Section 7 of Part 1 of Schedule 1 (SED Activities), by means of coin-operated dry cleaners; and

(b)in respect of which no application for a permit to operate the existing SED installation is duly made by 31st October 2006,

shall be deemed to have made a notification to the regulator of the operator’s undertaking to cease to operate that existing SED installation by 31st October 2007.

(2) Where sub-paragraph (1) applies, the operator of an existing SED installation shall be relieved of the requirement to apply for a permit under regulation 10 (Permits: general provisions), and the operation of that existing SED installation until 31st October 2007 without a permit shall not constitute an offence under regulation 32(1)(a) (Offences).

(3) For the purposes of sub-paragraph (1), “coin-operated dry cleaners” include dry cleaning machines functioning by means of coins, tokens, cards or other similar triggering mechanisms.;

(b)ar ôl Rhan 4, mewnosoder Rhan 5 newydd fel y'i nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2006

Rheoliad 2(4)(b)

YR ATODLENRHAN 5 NEWYDD YN ATODLEN 3 I REOLIADAU ATAL A RHEOLI LLYGREDD (CYMRU A LLOEGR) 2000

PART 5:REFUELLING INSTALLATIONS

20.(1) Parts 1 and 2 of this Schedule apply to existing refuelling installations and new refuelling installations subject to the provisions of this Part.

(2) The prescribed date for a new refuelling installation is the relevant date.

(3) The prescribed date for an existing refuelling installation is—

(a)where an application for a permit to operate the existing refuelling installation is made by the relevant date, the determination date for that existing refuelling installation; or

(b)where no such application is made, the relevant date.

(4) Where an installation which is subject to a permit under these Regulations contains an existing or new refuelling installation, the operator shall not operate the existing or new refuelling installation after the prescribed dates specified in subparagraph (3) except under and to the extent authorised by a variation of the conditions of that permit granted by the regulator under regulation 17.

(5) Paragraph 9 of Part 2 of this Schedule (deemed applications) shall not apply to an existing Part B installation or mobile plant which consists only of an existing refuelling installation.

(6) In this Part—

“existing refuelling installation” means an installation where an activity falling within paragraph (e) of Part B of Section 1.2 of Schedule 1 is carried out;

“determination date” has the same meaning as in paragraph 6 of Part 1 of Schedule 3;

“new refuelling installation” means an installation where an activity falling within paragraph (f) of Part B of Section 1.2 of Schedule 1 is carried out; and

“the relevant date” is 1st January 2010..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) (“y Rheoliadau PPC”) o ran Cymru.

Mae rheoliad 2(2) yn cynyddu mwyafswm y gosb y caiff llys Ynadon ei gosod o dan reoliad 32(2)(a) o'r Rheoliadau PPC o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (sy'n rhoi terfynau ar bŵer llys Ynadon i garcharu).

Mae Rheoliad 2(3)(a) yn diwygio rhan B o adran 1.2 (Gweithgareddau Nwyeiddio, Hylifo a Phuro) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy ychwanegu gweithgareddau ail-lenwi tanwydd i gerbydau at y rhestr o weithgareddau sy'n ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd o dan y Rheoliadau PPC. Mae hyn yn bodloni rhwymedigaeth y DU sy'n codi o Brotocol Genefa Pwyllgor Economaidd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ewrop i Gonfensiwn 1979 ar Lygredd Aer Trawsffiniol Pellgyrhaeddol Ynghylch Rheoli Allyriadau Cyfansoddion Organig Anweddol neu eu Dylifiadau Trawsffiniol. Daeth y Protocol hwn i rym ar 29 Medi 1997 ar ôl iddo gael ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 1991. Gellir gweld y Protocol ar wefan UNECE yn www.unece.org.

Mae rheoliad 2(3)(b) yn diwygio Adran 5.1 (Hylosgi a Chydhylosgi Gwastraff) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy egluro nad yw hyslosgi o ganlyniad i losgi nwy tirlenwol yn ddarostyngedig i ganiatâd o dan y Rheoliadau PPC.

Mae rheoliad 2(3)(c) yn cywiro gwall drafftio yn Rhan B o adran 7 (Gweithgareddau SED) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) i'r Rheoliadau PPC i esemptio gweithredwyr penodol o beiriannau sychlanhau sy'n derbyn arian sy'n dewis peidio â gwneud cais am ganiatâd cyn 31 Hydref 2006 o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Toddyddion 1999/13/EC i gael caniatâd ar y sail bod y gweithredwyr yn cytuno i roi'r gorau i gyflawni gweithrediadau sy'n dod o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb honno yn y gosodiad cyn 31 Hydref 2007.

(1)

1999 p. 24. Diwygiwyd paragraff 25 o Ran II o Atodlen 1 gan adran 105 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16). Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (O.S. 2005/1958), erthygl 3.

(3)

O.S. 2000/1973; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2004/107 ac O.S. 2004/3276. Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

Ni fydd y cosbau uwch hyn yn gymwys ond o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44). Gweler adran 105(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd.

(5)

1990 p.8, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources