- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'i wneud
16 Awst 2006
Yn dod i rym
29 Awst 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 15(4), 32(2) a 88(2) Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Awst 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn erthygl 2(1) (cymhwyso adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992(2) ar ôl “Epizootic haemorrhagic virus disease” mewnosoder “Equine infectious anaemia”.
3. Yn Rhan I o Atodlen 1 (Clefydau Penodedig) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (3) ar ôl “Epizootic haemorrhagic virus disease” mewnosoder “Equine infectious anaemia”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
Jane Hutt
Y Trefnydd a'r Gweinidog dros Gydraddoldebau a Phlant
16 Awst 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 (O.S. 1992/3159) drwy ychwanegu “equine infectious anaemia” i'r rhestr clefydau y mae adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gymwys iddynt (ac y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru beri i anifeiliaid gael eu cigydda oddi tano).
Mae erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) drwy ychwanegu “equine infectious anaemia” i'r rhestr clefydau penodedig y mae'r darpariaethau hysbysu yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwnnw yn gymwys iddynt.
1981 p.22, fel y'i diwigiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), ac O.S. 2003/1734. Trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan O.S. 1999/3141 ac yna fe'u trosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S. 2002/794. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan O.S. 2004/3044.
O.S. 1992/3159, a ddiwigiwyd gan O.S. 2003/130; mae offerynnau diwygio eraill, nad ydynt yn berthnasol.
O.S. 1996/2628; Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1645 a 2003/130.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: