- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cegdduon gogleddol” (“northern hake”) yw cegdduon a gymerir o'r parth adfer cegdduon;
mae i “Cymru” (“Wales”) yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1);
ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw Orchymyn arall a wneir at ddibenion gweithredu Rheoliad 811/04 ynghylch unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ganddi effaith gyfatebol i ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, y gellir rhoi rheithdrefnau ar waith yng Nghymru ynglyn â hi yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981;
mae i “llyfr lòg” (“logbook”) yr ystyr a roddir i “logbook” yn Rheoliad 2847/93 fel yr helaethir arno yn Rheoliad 2807/83, ac mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen neu lyfr lòg yn cynnwys—
unrhyw fap, cynllun, graff, lluniad neu ddyddiadur;
unrhyw ffotograff;
unrhyw ddata, ym mha ffordd bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren ac a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;
unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (ond nid delweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu ymhellach (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall); a
unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negydd, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd atgynhyrchu'r delweddau ymhellach;
ystyr “y parth adfer cegdduon” (“the hake recovery zone”) yw'r ardal a ddiffinnir yn Erthygl 1 o Reoliad 811/04;
ystyr “person â gofal” (“person in charge”), o ran cwch pysgota, yw'r perchennog, y meistr neu'r siartrwr, os oes un, y cwch pysgota neu asiant unrhyw un ohonynt;
ystyr “Rheoliad 2807/83” (“Regulation 2807/83”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2807/83 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cofnodi gwybodaeth ar ddalfeydd pysgod Aelod-wladwriaethau, fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn(2);
ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn(3); ac
ystyr “Rheoliad 811/04” (“Regulation 811/04”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 811/2004 sy'n sefydlu mesurau ar gyfer adfer stoc o gegdduon gogleddol, fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn(4).
(2) Ceir trin unrhyw wybodaeth a roddir i unrhyw awdurdod at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn fel pe bai hefyd wedi'i rhoi at ddibenion darpariaeth gyfatebol.
(3) Mae i ymadroddion yn y Gorchymyn hwn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad 811/04, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.
OJ Rhif L276, 10.10.1983, t.1; yr offeryn diwygio diwethaf yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1804/2005 (OJ Rhif L290, 4.11.2005, t.10).
OJ Rhif L261, 20.10.1993, t.1; yr offeryn diwygio diwethaf yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 768/2005 (OJ Rhif L128, 21.5.2005, t.1)
OJ Rhif L150, 30.4.2004, t.1; corigendwm: L185, 27.5.2004, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: