Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn cysylltiad â chychod pysgota

11.—(1At ddibenion gorfodi erthyglau 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau cyfatebol, neu er mwyn gweithredu neu hwyluso gweithrediad unrhyw fonitro sy'n deillio o Erthygl 13 o Reoliad 811/04, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota yng Nghymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.

(3Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y cwch yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol at y diben a grwybwyllir ym mharagraff (1) ac, yn benodol—

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol i'r personau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, gweithrediadiadau pysgota neu weithrediadau eraill cysylltiedig neu unrhyw ddogfen ynglŷn â'r personau ar y bwrdd sydd dan ofal neu ym meddiant y person hwnnw;

(c)at ddibenion canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff a'i gwneud yn ofynnol i unrhwy berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;

(ch)caiff archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch ac, os cedwir unrhyw ddogfen o'r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hi oddi yno; ac

(d)os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff gymryd meddiant a dal gafael yn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch at ddibenion galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd;

ond nid oes dim yn is-baragraff (d) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chymryd i feddiant a dal gafael ynddi ac eithrio tra delir gafael yn y cwch mewn porthladd.

(4Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod tramgwydd o dan erthygl 3, 6 neu 7, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, wedi cael ei gyflawni ar unrhyw amser ynghylch cwch pysgota, caiff y swyddog—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch, neu ef ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a

(b)dal gafael, neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn dal gafael, yn y cwch yn y porthladd;

ac os bydd swyddog o'r fath yn dal gafael neu yn ei gwneud yn ofynnol y delir gafael ar y cwch bydd y swyddog yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y delir gafael ar y cwch (neu fod hynny'n ofynnol) hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig pellach a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources