- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—
(a)bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad sy'n cadarnhau, i unrhyw raddau, wrthwynebiad i drefniadau derbyn a benderfynwyd gan awdurdod derbyn; a
(b)bydd yn rhesymol i awdurdod derbyn perthnasol fod o'r farn bod y trefniadau y mae wedi eu penderfynu, i'r graddau y mae'n berthnasol—
(i)yr un fath â'r trefniadau hynny; neu
(ii)yn ddigon tebyg i'r un penderfyniad fod wedi'i wneud yn eu herbyn pe bai gwrthwynebiad wedi'i wneud.
(2) Mewn achos pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn perthnasol adolygu ei drefniadau derbyn drwy wneud y newidiadau hynny sydd, ym marn resymol yr awdurdod, yn angenrheidiol er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad, a chaiff benderfynu ei drefniadau ar y ffurf honno sy'n ffurf wedi'i hadolygu.
(3) Ni chaniateir gwneud penderfyniad o'r fath ond—
(a)os gwneir trefniadau o'r fath o fewn deufis i'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto yn unol â rheoliad 9(1)(a); a
(b)os yw'r awdurdod derbyn perthnasol wedi hysbysu pob corff derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef o dan adran 89(2) ynghylch y trefniadau derbyn y mae'n yn ceisio'u hadolygu o dan y rheoliad hwn, neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod derbyn perthnasol” (“relevant admission authority”) yw awdurdod derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori o dan adran 89(2) â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, a hynny cyn iddo benderfynu'r trefniadau derbyn y mae'n dymuno eu hadolygu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: