Search Legislation

Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1Y MWYAFSYMIAU O BLWM A CHADMIWM Y CEIR EU TROSGLWYDDO O EITEM GERAMIG (TERFYNAU MUDO)

Rhaid i'r swm o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gyflawnir o dan yr amodau a osodir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 beidio â mynd dros y terfynau canlynol:

PlwmCadmiwm

Pan na fydd eitem geramig yn mynd dros y symiau uchod gan fwy na 50%, cydnabyddir er hynny bod yr eitem honno'n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn os oes o leiaf dair eitem arall sy'n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gyflawnir o dan yr amodau a osodir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 ac nad yw symiau cyfartalog y plwm a/neu'r cadmiwm a echdynnir o'r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o'r eitemau hynny'n mynd dros y terfynau hynny gan fwy na 50%.

Pan fydd eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i'r terfyn plwm a/neu gadmiwm na ddylid mynd drosto (mg/dm2 neu mg/litr) fod yr un terfyn ag sy'n gymwys i'r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr ac o dan yr un amodau; rhaid bod y berthynas rhwng cyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir o'r plwm a/neu gadmiwm yn berthynas briodol i'r arwynebedd neu gyfaint y llestr yn unig.

Categori 1: eitemau na ellir eu llenwi ac eitemau y gellir eu llenwi, y mae eu dyfnder mewnol, wrth fesur o'r pwynt isaf i'r plân llorweddol sy'n mynd drwy'r ymyl uchaf, ddim mwy na 25 mm0.8 mg/dm20.07 mg/dm2
Categori 2: Pob eitem arall y gellir ei llenwi4.0 mg/l0.3mg/l
Categori 3: Nwyddau coginio; llestri pecynnu a storio sy'n dal mwy na thri litr1.5 mg/l0.1 mg/l

Rheoliad 3(2)

ATODLEN 2

RHAN IRHEOLAU SYLFAENOL I BENDERFYNU MUDIAD PLWM A CHADMIWM

Yr hylif prawf (“efelychydd”)

1.  4% (v/v) asid asetig, mewn toddiant o baratowyd yn ffres.

Amodau'r prawf

2—(1cyflawni'r prawf ar dymheredd o 22 ± 2° am gyfnod o 24 ± 0.5 awr.

(2Pan benderfynir mudiad plwm, rhodder gorchudd ar y sampl mewn modd priodol i'w ddiogelu a gadawer ef yn agored i'r amodau goleuo arferol sydd mewn labordy.

(3Pan benderfynir mudiad cadmiwm neu blwm a chadmiwm, rhodder gorchudd ar y sampl i sicrhau bod yr arwyneb y mae profion i'w cynnal arno yn cael ei gadw mewn tywyllwch llwyr.

Llenwi

3—(1Samplau y gellir eu llenwi

(a)Llenwer yr eitem â 4% (v/v) o doddiant asid asetig at lefel nad yw'n uwch na 1mm o'r pwynt gorlifo; mesurir y pellter o ymyl uchaf y sampl.

(b)Dylid llenwi samplau gydag ymyl gwastad neu ymyl sy'n goleddfu fel nad yw'r pellter rhwng arwyneb yr hylif a'r pwynt gorlifo yn ddim mwy na 6mm wrth fesur ar hyd yr ymyl sy'n goleddfu.

(2Samplau na ellir eu llenwi

Yn gyntaf, gorchuddir arwyneb y sampl na fwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â bwydydd â haenen amddiffynnol sy'n gallu gwrthsefyll gweithrediad y 4% (v/v) toddiant asid asetig. Yna boddir y sampl mewn cynhwysydd sy'n cynnwys swm gwybyddus o doddiant asid asetig yn y fath fodd y bydd yr arwyneb y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â'r bwydydd yn cael ei orchuddio'n llwyr gan yr hylif prawf.

Penderfynu arwynebedd yr arwyneb

4.  Mae arwynebedd arwyneb yr eitemau yng nghategori 1 yn hafal i arwynebedd arwyneb y menisgws a ffurfir gan yr arwyneb hylif rhydd a geir wrth gydymffurfio â'r gofynion llenwi a osodir ym mharagraff 3.

RHAN 2DULLIAU DADANSODDI AR GYFER PENDERFYNU MUDIAD PLWM A CHADMIWM

Amcan a maes cymhwyso

1.  Mae'r dull yn caniatáu i'r mudiad penodedig o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu.

Egwyddor

2.  Penderfynir y mudiad penodedig o blwm a/neu gadmiwm drwy ddull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy'n bodloni perfformiad meini prawf pwynt 4.

Adweithyddion

3—(1Rhaid bod ansawdd dadansoddol i bob adweithydd, oni phennir fel arall.

(2Os cyfeirir at ddŵr, bydd bob amser yn golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol.

(34 % (v/v) asid asetig, mewn toddiant dyfrllyd; ychwaneger 40 ml o asid asetig ar ffurf rhew at ddŵr i wneud hyd at 1 000 ml.

(4Toddiannau stoc: paratoer toddiannau stoc sy'n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn 4 % o doddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).

Meini prawf perfformiad o'r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn

4—(1Rhaid i'r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu'n is na—

  • 0,1 mg/litr ar gyfer plwm,

  • 0,01 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o'r elfen yn y 4 % toddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato ym mhwynt 3.1, sy'n rhoi signal sy'n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.

(2Rhaid i'r terfyn meintioliad ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu'n is na—

(a)0,2 mg/litr ar gyfer plwm,

(b)0,02 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

(3Adennill: rhaid i'r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegwyd at y 4 % o doddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(3), ddod o fewn 80-120 % o'r swm a ychwanegwyd.

(4Penodolrwydd: rhaid i'r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn a gaiff ei ddefnyddio fod yn rhydd o ymyriannau matrics ac ymyriannau rhithiol.

Dull

5.—(1Paratoi'r sampl—

(a)Rhaid i'r sampl fod yn lân ac yn rhydd o saim neu fater arall sy'n debygol o effeithio ar y prawf;

(b)Golcher y sampl mewn toddiant sy'n cynnwys sebon hylif yr aelwyd ar dymheredd o tua 40 °C. Rinsier y sampl yn gyntaf mewn dŵr tap ac yna mewn dŵr wedi'i ddistyllu neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. Draenier y sampl a'i sychu i osgoi unrhyw staen. Ni ddylid trafod yr arwyneb sydd i'w brofi ar ôl iddo gael ei lanhau.

(2Penderfynu plwm a/neu gadmiwm—

(a)cynhelir prawf ar y sampl a gafodd ei baratoi yn y modd hwn o dan yr amodau a osodir yn Atodlen I;

(b)cyn cymryd y toddiant prawf ar gyfer penderfynu plwm a/neu gadmiwm, homogeneiddier cynnwys y sampl drwy ddull priodol, sy'n osgoi unrhyw golli toddiant neu'n osgoi sgrafellu'r arwyneb sydd i gael ei brofi;

(c)cynhalier prawf gwag ar yr adweithydd a ddefnyddir ar gyfer pob cyfres o benderfyniadau;

(ch)cynhalier y penderfyniadau ar gyfer plwm a/neu gadmiwm o dan amodau priodol.

Rheoliad 4

ATODLEN 3DATGANIAD O GYDYMFFURFIO

1—(1Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(2enw a chyfeiriad y cwmni a weithgynhyrchodd yr eitem geramig orffenedig ac (os yw'n gymwys) y mewnforiwr a'i mewnforiodd i'r Gymuned;

(3dynodi'r eitem geramig neu'r eitemau ceramig;

(4dyddiad y datganiad;

(5cadarnhad bod yr eitem geramig neu'r eitemau ceramig yn bodloni'r gofynion perthnasol:

(a)yn y rheoliad hwn; neu

(b)yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC dyddiedig 15 Hydref 1984 ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaeth o ran eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(1) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC dyddiedig 29 Ebrill 2005(2); ac

(c)yn Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 27 Hydref ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 92/65/EEC(3).

2.  Bydd y datganiad ysgrifenedig yn caniatáu dynodi'n hawdd yr eitem y dyroddwyd ef ar ei chyfer neu'r eitemau y dyroddwyd ef ar eu cyfer a rhaid ei adnewyddu pan fydd newidiadau sylweddol yn y cynhyrchiant yn peri newidiadau ym mudiad plwm a chadmiwm.

(1)

O.J. L277 ar 20.10.84 t.12.

(2)

O.J. L110 ar 30.4.05 t.36.

(3)

O.J. L338, 13/11/2004 t.4—14.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources