Search Legislation

Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1513 (Cy.149)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

13 Mehefin 2006

Yn dod i rym

14 Mehefin 2006

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006, meant yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anfieiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(3).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn–

  • ystyr Anifail y credir iddo gael ei heintio (“Suspect animal”) yw anifail y credir iddo gael ei heintio gyda TSE;

  • ystyr Rheoliad TSE y Gymuned (“Community TSE Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (4), fel y'i diwygiwyd gyda, ac fel y'i ddarllenir gyda'r offerynnau a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006;

  • ystyr y Cynulliad Cenedlaethol (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru means the National Assembly for Wales;

  • ystyr “TSE” (“TSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy.

(2Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sydd yn ymddangos yn Rheoliad TSE y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned.

Iawndal am ddefaid neu eifr sy'n cael eu cigydda fel anifail yr amheuir

3.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal yn unol â'r paragraff hwn pan fo dafad neu afr wedi ei ladd fel anifail y credir iddo gael ei heintio.

(2Lle bo cadarnhad fod dafad neu afr wedi cael ei effeithio gan TSE, mae'r iawndal yn–

(a)£30 mewn achos anifail ar ddiwedd ei oes gynhyrchiol; ac

(b)£90 mewn unrhyw achos arall.

(3Lle nad oes cadarnhad ei fod wedi cael ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw'r uchaf o'r–

(a)swm a fyddai wedi bod yn daladwy o dan y paragraff hwn pe byddid wedi cael cadarnhad bod yr anifail wedi cael ei effeithio gan TSE; neu

(b)swm y bo'n ymddangos i'r Cynulluiad Cenedlaethol ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan berchennog yr anifail, ac unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol, ei fod yn adlewyrchu gwerth yr anifail ar y farchnad, yn ddarostyngedig i uchafswm o £400 am bob anifail.

Iawndal am anifeiliaid sy'n cael eu lladd neu y bo eu cynhyrchion yn cael eu dinistrio ar ôl cadarnhau TSE

4.  Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal i berchennog anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd a'u cynhyrchion wedi eu dinistrio o dan Atodlen 4 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 yn dilyn cadarnhau TSE yn unol â darpariaethau yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Prisio

5.—(1Os yw perchennog anifail o'r farn fod yr iawndal a delir yn yr Atodlen yn afresymol, gall ef neu hi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o hyn, a bydd y weithdrefn yn Rheoliad 15 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf (Cymru) 2006 yn berthnasol, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sydd yn codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, wedi cymeryd i ystyriaeth yr holl amgylchiadau fod yr iawndal yn yr Atodlen yn ormodol gall brisio'r anifail yn unol â'r weithdrefn yn Rheoliad 15, ond yn yr achos yma bydd yn rhaid iddo dalu unrhyw ffi sydd yn codi am enwebu neu gyflogi prisiwr.

(3Rhaid i'r prisiwr brisio'r anifail yn unol â'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail o brynwr mewn marchnad agored pe byddai'r anifail o braidd nad oed wedi ei effeithio gan TSE.

Diddymu

6.  Mae darpariaethau rheoliadau 8, 9, 84, 93, Rhan o Atodlen 1, paragraff 17 o Ran IV o Atodlen 6A a paragraffau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â thalu iawndal yn dilyn cigydda defaid a geifr, Reoliadau TSE (Cymru) 2002(5)yn cael ei dirymu pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) of Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mehefin 2006

Rheoliad 4

YR ATODLEN

Iawndal

Anfail neu gynnyrchIawndal (£)Iawndal (£)
(a)

Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi rhanddirymiad o dan bwynt 9 o Atodiad VII I Reoliad TSE y Gymuned £30 yw'r iawndal am ddafad fenyw os caiff ei lladd ar ôl y flwyddyn gyntaf o'r cyfnod rhanddirymiad.

(b)

Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi rhanddirymiad yn unol â'r pwynt hwnnw mewn perthynas ag unrhyw hwrdd mewn praidd, £25 yw'r iawndal am unrhyw oen yn y ddiadell honno sydd wedi cael ei ladd ar ôl y flwyddyn gyntaf o'r cyfnod rhanddirymiad.

Dafad neu afr wryw9090
Dafad(a) neu afr fenyw9065
Oen (o dan 12 mis oed)(b) neu fyn (o dan 12 mis oed)5040
Embryonau150150
Ofa55

Nodyn ynglŷn â'r cyfraddau

Ar neu ar ôl 14 Mehefin 2006

(a)Bydd y gyfradd yng Ngholofn A yn daladwy os–

(i)yw'r perchennog yn hysbysu ynghylch anifail o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006; ac

(ii)os oedd yr anifail y telir iawndal amdano yn ddiadell neu'r gyr cyn 14 Mehefin 2006;

a

(b)y gyfradd yng ngholofn B yn daladwy ymhob achos arall.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo dafad neu afr yn cael ei gigydda yn dilyn ei heintio gyda TSE.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda dafad neu afr yn ddibynol ar unai yw'r ddafad neu afr yn Anifail y credir iddo gael ei heintio neu y lleddir yr anifail wedi iddo gael ei gadarnhau fel anifail sydd wedi ei heintio â TSE.

Os yw perchennog anifail a leddir yn dilyn cadarnhad ei fod wedi ei heintio â TSE o'r farn fod yr iawndal sydd i'w dalu yn afresymol, yna gall y perchennog hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a chael prisiad. Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod yr iawndal sydd i'w dalu i berchennog anifail a leddir wedi derbyn cadarnhad ei fod wedi ei heintio â TSE, gall gael prisiad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu darpariaethau Rheoliadau TSE (Cymru) na chafodd eu dirymu gan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, tud 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources