Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1344 (Cy.134)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

16 Mai 2006

Yn dod i rym

24 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2, 3(1), (2)(b) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Mai 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson a awdurdodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;

mae i “coeden” yr ystyr sydd i “tree” yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 1993(3);

ystyr “coeden sy'n dueddol o gael y pla” (“susceptible tree”) yw coeden, ac eithrio ffrwyth neu hadau, o'r rhywogaeth a'r genera a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1;

ystyr “cynnyrch planhigion” (“plant product”) yw cynnyrch sy'n dod o blanhigyn ac na chafodd ei brosesu neu a gafodd ei baratoi'n syml i'r graddau nad planhigyn ydyw;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “deunydd sy'n dueddol o gael y pla” (“susceptible material”) yw—

(a)

yn achos deunydd sy'n tarddu yn Unol Daleithiau America (“UDA”), planhigion, ac eithrio ffrwyth neu hadau, o'r rhywogaeth a'r genera a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, a

(b)

ym mhob achos arall, planhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu;

mae i “y Gymuned Ewropeaidd” yr ystyr sydd i “European Community” yn y prif Orchymyn;

mae i “man cynhyrchu” yr ystyr sydd i “place of production” yn y prif Orchymyn;

mae i “mangre” yr ystyr sydd i “premises” yn y prif Orchymyn;

ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw naill ai—

(a)

label a dogfen, pan fo'n briodol, sy'n mynd gyda phlanhigyn, ac a ddyroddir yn y Gymuned Ewropeaidd ac sy'n cynnwys yr wybodaeth berthnasol yn Atodlen 9 i'r Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y prif Orchymyn”) sef yr wybodaeth y ceir ynddi dystiolaeth o gydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn sy'n ymwneud â safonau iechyd planhigion a gofynion arbennig ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion sy'n cael eu symud o fewn yr Undeb Ewropeaidd, neu

(b)

ac eithrio at ddibenion erthygl 8(1), pasbort planhigion y Swistir;

ystyr “pasbort planhigion y Swistir” (“Swiss plant passport”) yw label a dogfen, pan fo'n briodol, sy'n mynd gyda phlanhigyn, ac a ddyroddir yn y Swistir yn unol â deddfwriaeth y Swistir—

(a)

ac sy'n cynnwys gwybodaeth y ceir ynddi dystiolaeth o gydymffurfio â deddfwriaeth yn y Swistir sy'n ymwneud â safonau iechyd planhigion a gofynion arbennig ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion sy'n cael eu symud i'r Swistir ac o fewn y Swistir;

(b)

ac sy'n ymwneud â phlanhigyn Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch. neu Viburnum spp. L. y bwriedir ei blannu;

mae “Phytophthora ramorum” yn cyfeirio at y pla Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in `t Veld sp. nov;

mae i “planhigyn” yr ystyr sydd i “plant” yn y prif Orchymyn;

ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(4);

ystyr “tarddle” (“origin”), o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla, yw'r lle y tyfir neu y cynhyrchir y deunydd, ac mae “yn tarddu yn/o” i'w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “trydedd wlad” yr ystyr sydd i “third country” yn y prif Orchymyn;

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol” (“phytosanitary certificate”) yw tystysgrif wedi'i chwblhau'n briodol naill ai—

(a)

ar y ffurf a geir yn Atodlen 14 o'r prif Orchymyn; neu

(b)

ei gyfatebol;

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen” (“reforwarding phytosanitary certificate”) yw tystysgrif wedi'i chwblhau'n briodol naill ai—

(a)

ar y ffurf a geir yn Atodlen 15 o'r prif Orchymyn; neu

(b)

ei gyfatebol.

Gwaharddiad rhag dod â Phytophthora ramorum i Gymru a'i ledaenu o fewn Cymru

3.  Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â—

(a)dod â Phytophthora ramorum i Gymru; neu

(b)lledaenu Phytophthora ramorum o fewn Cymru.

Mewnforio deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA

4.  Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â mewnforio(5)i Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA oni—

(a)bydd—

(i)tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gydag ef a honno'n dystysgrif a ddyroddwyd yn unol â gofynion Atodlen 1 neu, yn achos deunydd y dyroddwyd hefyd dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen ar ei gyfer, gopi wedi'i ardystio o'r dystysgrif ffytoiechydol; a

(ii)arolygydd, o archwilio'r deunydd, yn canfod ei fod yn glir o Phytophthora ramorum ; neu

(b)bydd pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda'r deunydd mewn achosion o fewnforio o'r Swistir blanhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu.

Symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu mewn trydydd gwledydd

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac erthygl 11, pan fydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA neu yn unrhyw drydedd wlad arall wedi'i fewnforio i Gymru, rhaid i berson beidio â symud y deunydd hwnnw—

(a)o fewn Cymru;

(b)i ran arall o'r Deyrnas Unedig;

(c)i Ynys Manaw neu i Ynysoedd y Sianel;

(ch)i Aelod-wladwriaeth arall; nac

(d)i'r Swistir, yn achos planhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu,

oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef .

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn Cymru os bydd ei symud yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 12.

Symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yng Nghymru neu mewn man arall yn y Gymuned Ewropeaidd neu yn y Swistir

6.—(1Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â symud i Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu—

(a)mewn man arall yn y Deyrnas Unedig;

(b)mewn Aelod-wladwriaeth arall;

(c)yn Ynys Manaw neu yn Ynysoedd y Sianel; neu

(ch)yn y Swistir, yn achos planhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu,

oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.

(2Rhaid i berson sydd wrth ei waith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall beidio â symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru o'r man cynhyrchu onid oes pasbort planhigion yn mynd gyda'r deunydd a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.

Cynhyrchwyr cofrestredig

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i berson sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla beidio â symud y deunydd hwnnw onid yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol ag erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn neu baragraff (2) o'r erthygl hon.

(2O ran cynhyrchydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla nad yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd o dan y prif Orchymyn—

(a)caiff wneud cais am gael ei gofrestru o dan erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn fel pe bai darpariaeth ar gyfer ei gais yn y Gorchymyn hwnnw;

(b)rhaid iddo fodloni'r gofynion yn erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn fel pe bai ei gais wedi'i wneud o dan y Gorchymyn hwnnw; ac

(c)rhaid iddo gael ei drin gan y Cynulliad Cenedlaethol, o ran y cyfryw gais ac unrhyw gofrestriad o ganlyniad iddo, fel pe bai darpariaeth ar gyfer y cais yn y prif Orchymyn.

(3Rhaid i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol â pharagraff (1) roi hysbysiad o unrhyw achos a amheuir o Phytophthora ramorum neu o bresenoldeb Phytophthora ramorum a gadarnhawyd yn y man cynhyrchu y mae'r person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef.

(4Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i bersonau sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla neu sy'n symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla y maent wedi'i gynhyrchu os ydynt yn gwneud hynny heb fod wrth eu gwaith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall.

Pasbortau planhigion

8.—(1Mae erthyglau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys o ran pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan erthyglau 5 neu 6, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn—

(a)erthygl 11(3), fel pe bai —

(i)tystysgrif ffytoiechydol wedi'i dyroddi o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a oedd yn cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn; a

(ii)cyfeiriad at “Ran A o Atodlen 5”o'r prif Orchymyn yn gyfeiriad at erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn;

(b)erthygl 14(1), fel pe bai'r pasbort planhigion wedi'i ddyroddi o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla; ac

(c)erthygl 14(2) i (8).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae person sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan erthygl 17 o'r prif Orchymyn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion ar ran busnes hefyd wedi'i awdurdodi o dan y Gorchymyn hwn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran y busnes hwnnw.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gwêl yn dda eu gosod, awdurdodi person nas awdurdodwyd o dan baragraff (2), i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran unrhyw fusnes, unigolyn neu gorff arall,—

(a)os yw'r person sy'n gofyn am gael ei awdurdodi wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla o dan erthygl 7; a

(b)os bod arolygiad boddhaol wedi'i wneud gan arolygydd o fan cynhyrchu'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla a bod hwnnw'n fan y ceisir awdurdod mewn cysylltiad ag ef, neu o unrhyw ran o'r fan, neu o unrhyw fangre arall sy'n trafod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla, a hynny at ddibenion canfod, o ran Phytophthora ramorum , statws iechyd planhigion y deunydd sy'n dueddol o gael y pla, yn y lle hwnnw neu'r fangre honno, ac unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion sydd yno.

(4Caiff arolygydd dynnu'n ôl awdurdod a roddir i berson o dan baragraff (2) neu (3) i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn os yw'r arolygydd wedi'i fodloni nad yw'r person hwnnw'n bodloni darpariaethau'r Gorchymyn hwn o ran pasbortau planhigion.

Tystysgrifau ffytoiechydol

9.—(1Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i dystysgrif ffytoiechydol sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn—

(a)erthygl 12(1);

(b)erthygl 12(4) fel be bai cyfeiriadau at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn;

(c)erthygl 12(5) a (6);

(ch)erthygl 12(7) fel pe bai deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn blanhigion, o fewn yr ystyr sydd i “plants”yn yr erthygl honno; a

(d)erthygl 13.

(2Os traddodwyd, i drydedd wlad nad hi yw'r wlad y dyroddwyd y dystysgrif ynddi, lwyth o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae tystysgrif ffytoiechydol yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi'i dyroddi yn unol ag erthygl 4 ac os cafodd y deunydd ei storio, ei ailbacio neu ei rannu yn y drydedd wlad honno, rhaid i'r dystysgrif ffytoiechydol wreiddiol neu gopi ohoni sydd wedi'i ardystio fynd gyda'r deunydd ynghyd â thystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen a ddyroddir gan wasanaeth iechyd planhigion swyddogol y drydedd wlad honno.

Tystysgrifau ffytoiechydol neu basportau planhigion a ddyroddir y tu allan i Gymru

10.—(1Rhaid tybio bod unrhyw dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddir at ddibenion y Gorchymyn hwn neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol trydedd wlad wedi'i dyroddi'n unol â gofynion perthnasol Atodlen 1.

(2Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd pasbort planhigion iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn neu ddeddfwriaeth gyfatebol yn y wlad lle y'i dyroddwyd gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol Aelod-wladwriaeth neu ran arall o'r Deyrnas Unedig neu Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn bodloni gofynion Atodlen 2.

(3Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd iddo basbort planhigion y Swistir gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol yn y Swistir yn bodloni gofynion Atodlen 2.

Trwyddedau at ddibenion gwyddonol neu ddibenion ymchwil

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau erthygl 30A o'r prif Orchymyn fod yn gymwys o ran mewnforio, symud a chadw Phytophthora ramorum , neu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae Phytophthora ramorum yn bresennol arno, a fyddai fel arall wedi'i wahardd o dan y Gorchymyn hwn, fel pe bai ef neu'r deunydd yn bla planhigion y byddai ei fewnforio, ei symud neu ei gadw yn waharddedig, pe na bai am drwydded a roddwyd o dan y prif Orchymyn.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar gymhwyso erthygl 30A(2)(d) o'r prif Orchymyn o ran trwydded a roddwyd yn rhinwedd yr erthygl hon.

Camau y caiff arolygydd eu gwneud yn ofynnol

12.—(1Os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, at ddibenion gorfodi erthygl 3(b), drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal am y fangre neu am y deunydd sy'n dueddol o gael y pla—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw faint o'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla gael ei drin, ei ddifa neu ei waredu mewn ffordd arall ac yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad;

(b)gwahardd symud y deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fangre a bennir yn yr hysbysiad neu osod y cyfryw waharddiadau eraill ag sy'n angenrheidiol ym marn yr arolygydd i rwystro lledaenu Phytophthora ramorum ;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla gael ei symud i fangre a bennir yn yr hysbysiad yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu felly; neu

(ch)ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad, yn cael eu cymryd yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad ac sydd yn angenrheidiol ym marn yr arolygydd i rwystro lledaenu Phytophthora ramorum .

(2Os oes gan arolygydd sail resymol dros gredu ei bod yn angenrheidiol at ddiben rhwystro lledaenu Phytophthora ramorum o unrhyw fangre neu sicrhau ei fod yn cael ei ddifa yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre arall neu i berson arall â gofal amdani osod y cyfryw waharddiadau a'i gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gamau rhesymol, a bennir yn yr hysbysiad, ac sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol at y diben hwnnw, yn cael eu cymryd a hynny yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.

(3At ddiben cyflawni archwiliad o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla wrth iddo ddod i Gymru caiff arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i draddodai unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gafodd ei fewnforio neu sydd i'w fewnforio i Gymru, bennu mangre a'i gwneud yn ofynnol i'r deunydd hwnnw gael ei symud i'r fangre honno yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw gyfnod ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.

Camau y caiff arolygydd eu cymryd

13.—(1Heb ragfarn yn erbyn y darpariaethau yn erthygl 12, ac yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o'i fwriad i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal amdani, ac o ddangos os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, fynd i'r cyfryw fangre a chymryd camau naill ai yn y fangre honno neu yn rhywle arall—

(a)i ddifa neu drin mewn rhyw ffordd unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a ganfyddir yn y fangre honno; neu

(b)i ddifa Phytophthora ramorum a ganfyddir yn y fangre honno a rhwystro'i ledaenu.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff arolygydd, o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, ar bob adeg resymol ac at ddiben canfod a oes Phytophthora ramorum yn bodoli yn unrhyw fangre, neu at unrhyw un o ddibenion eraill y Gorchymyn hwn, gan gynnwys gwirio a gydymffurfir ag ef, fynd i unrhyw fangre—

(a)i archwilio, tynnu ffotograff neu farcio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu wrthrych yn y fangre;

(b)i gymryd samplau o unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu wrthrych arall ac unrhyw beth sydd wedi bod mewn cyffyrddiad neu a allai fod wedi bod mewn cyffyrddiad â Phytophthora ramorum ; neu

(c)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y byddont yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla yn cael eu cyflwyno a chaiff archwilio a chopïo 'r cyfryw ddogfennau neu gofnodion.

(3Ni chaniateir arfer y pŵ er i fynd i fangre, sef pŵer a roddir gan baragraffau (1) a (2), o ran mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, ond yn unol â gwarant a roddir o dan erthygl 28 o'r prif Orchymyn.

(4Caiff arolygydd, at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), agor, awdurdodi unrhyw berson i agor ar ei ran neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog y cyfryw gynhwysydd, bwndel neu becyn arall neu i unrhyw berson â gofal drosto i agor, yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn ei bennu, y cynhwysydd neu'r pecyn arall.

(5Caiff arolygydd, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), wahardd symud, yn gyfan gwbl neu i'r cyfryw raddau ag y byddo'r arolygydd yn datgan, unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla, unrhyw gynhwysydd, bwndel, pecyn arall neu wrthrych a all fod yn fodd i ledaenu Phytophthora ramorum yn ei farn ef.

(6At ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd y fangre y cynhelir yr archwiliad ynddi neu i berson arall â gofal drosti ddarparu golau digonol a, phan fo'n briodol, fannau addas ar gyfer arolygiad.

(7Pan gedwir unrhyw ddogfen neu gofnod o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(c) drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff arolygydd—

(a)gofyn am gael mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r ddogfennaeth neu'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y byddo'n rhesymol iddo ofyn amdano.

(8Caiff arolygydd, pan fydd yn mynd i unrhyw fangre o dan baragraff (1) neu baragraff (2) o'r erthygl hon, fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, a'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau ag sy'n angenrheidiol at ddiben hwyluso arfer ei bwerau o dan y paragraffau hynny, ynghyd â'r cyfryw bersonau eraill, p'un ai yng nghwmni'r arolygydd neu beidio, a chânt, o ddangos os gofynnir iddynt wneud hynny arwydd o'u hawdurdod a roddwyd iddynt yn y cyswllt hwnnw gan arolygydd, aros ar y tir a mynd yn ôl i mewn o bryd i'w gilydd gyda'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau a grybwyllir uchod, er mwyn cyflawni'r cyfryw waith at y dibenion uchod ac yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn cyfarwyddo.

Amrywiol ddarpariaethau o ran hysbysiadau a methu cydymffurfio â hysbysiadau

14.  Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i hysbysiad a ddyroddir o dan erthygl 12 neu erthygl 13, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn—

(a)erthygl 24, fel pe byddai'r cyfeiriadau at erthygl 22 o'r prif Orchymyn yn gyfeiriadau at erthygl 12 o'r Gorchymyn hwn ac y byddai cyfeiriadau eraill at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn;

(b)erthygl 26, fel pe byddai'r cyfeiriadau at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn; ac

(c)erthygl 27, yn ddarostyngedig i erthygl 28 o'r prif Orchymyn, fel pe byddai'r cyfeiriadau at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn.

Tramgwyddau

15.—(1Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, heb esgus rhesymol y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei brofi—

(a)yn mynd yn groes i erthyglau 3, 5, 6(1)(a), 6(2), 7(1) neu 7(3) neu'n methu cydymffurfio â hwy;

(b)yn mynd yn groes i ddarpariaeth neu amod hysbysiad a gyflwynir, neu drwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn, neu'n methu cydymffurfio â hi; neu

(c)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth i'r arolygydd neu'r person arfer ei bwerau o dan y Gorchymyn hwn.

(2Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, at ddibenion caffael yr awdurdod i ddyroddi pasbort planhigion o dan y Gorchymyn hwn—

(a)yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn ffug o ran manylyn perthnasol;

(b)yn ddi-hid yn gwneud datganiad ffug o ran manylyn perthnasol; neu

(c)yn fwriadol yn methu datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.

(3Mae person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn dyroddi pasbort planhigion ffug o dan y Gorchymyn hwn.

(4Bydd person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn newid pasbort planhigion sydd ynghlwm wrth ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu'n ailddefnyddio pasbort planhigion ar gyfer deunydd pan nad y deunydd sy'n dueddol o gael y pla y dyroddwyd y pasbort planhigion ar ei gyfer ydyw.

(5Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr erthygl hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

16.  Dirymir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Rhif 2) 2002(6).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mai 2006

Erthyglau 4(a) a 10(1)

ATODLEN 1

Deunydd sy'n dueddol o gael y plaGofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla (“y dystysgrif”)
  • Acer macrophyllum

  • Pursh.

  • Aesculus californica

  • Nutt.

  • Aesculus.

  • hippocastanum L

  • Arbutus menziesii

  • Pursch.

  • Arbutus unedo L.

  • Arctostaphylos spp.

  • Adans

  • Camellia spp.

  • Castanea sativa Mill.

  • Fagus sylvatica L.

  • Hamamelis

  • virginiana L.

  • Heteromeles

  • arbutifolia (Lindley)

  • M. Roemer

  • Kalmia latifolia L.

  • Leucothoe

  • fontanesiana (Steudel)

  • Sleumer neu

  • Lithocarpus

  • densiflorus (H & A)

  • Lonicera hispidula

  • (Dougl.)

  • Pieris spp.

  • Pseudotsuga menziesii

  • (Mirbel) Franco

  • Quercus spp. L.

  • Rhamnus californica (Esch)

  • Rhododendron spp. L.,

  • ac eithrio

  • Rhododendron simsii

  • Planch.

  • Sequoia sempervirens

  • (D. Don) Endl.

  • Syringa vulgaris L.

  • Taxus spp.

  • Trientalis latifolia (Hook)

  • Umbellularia

  • californica (Pursch.)

  • Vaccinium vitis-idaea

  • Britt.

  • Vaccinium ovatum

  • (Hook & Arn) Nutt.

  • Viburnum spp. L.

Naill ai—

(a)

Rhaid i'r dystysgrif gynnwys datganiad ychwanegol bod y deunydd yn tarddu mewn ardal y mae gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol y wlad y mae'r deunydd yn tarddu ohoni (“y gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol”) yn ei chydnabod yn ardal sy'n rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum , ac yn yr achos hwn rhaid i enw'r ardal y mae'r deunydd yn tarddu ohoni gael ei bennu o dan “tarddle”;

  • neu

    (b)

    rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol wirio'n swyddogol—

    (i)

    o wneud arolygiadau swyddogol yn ystod cylchred gyflawn olaf llystyfiant y deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n destun y dystysgrif, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum , na chanfyddwyd arwyddion o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla nac ar unrhyw goeden sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu; a

    (ii)

    bod samplau cynrychioliadol wedi'u cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi'u profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd “additional declaration”y datganiad “tested and found free from non- European isolates of Phytophthora ramorum”.

Erthyglau 6 a 10(2) a (3)

ATODLEN 2

Deunydd sy'n dueddol o gael y plaGofynion i'w bodloni o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru neu a symudir i Gymru o fan arall yn y Deyrnas Unedig, neu o Aelod-wladwriaeth arall, neu o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu o'r Swistir
  • Camellia spp.

  • Rhododendron

  • spp. L., ac eithrio

  • Rhododendron simsii

  • Planch.

  • Viburnum spp. L.

Naill ai—

(a)

bod y deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn tarddu mewn ardaloedd lle y gwyddys nad yw Phytophthora ramorum yn bresennol;

(b)

o gynnal arolygiad swyddogol yn y man cynhyrchu, a hynny unwaith o leiaf ar adeg briodol pan fo'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y broses o dyfu, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o Phytophthora ramorum , na chanfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar y deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn ystod cylchred gyflawn olaf y llystyfiant; neu

(c)

os canfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu, bod gweithdrefnau priodol y mae iddynt y nod o ddifa Phytophthora ramorum ac sy'n cynnwys y mesurau canlynol o leiaf wedi'u rhoi ar waith—

(i)

bod deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y canfyddir ei fod wedi'i heintio â Phytophthora ramorum (“deunydd heintiedig”) ac unrhyw ddeunydd arall sy'n dueddol o gael y pla o fewn radiws o ddau fetr i'r deunydd heintiedig yn cael eu difa;

(ii)

bod cadw deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn radiws o ddeng metr i'r deunydd heintiedig a phob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n dod o'r un lot â'r deunydd heintiedig wedi'u cadw yn y man cynhyrchu ac, yn ystod y tri mis yn dilyn canfod haint y cyfeirir ato yn is- baragraff (i), nad ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i unrhyw driniaethau a fyddo'n celu'r symptomau o Phytophthora ramorum a'u bod wedi'u cael yn rhydd o Phytophthora ramorum ar ôl arolygiadau ychwanegol a gyflawnir ddwywaith o leiaf; a

(iii)

bod pob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu wedi'i arolygu'n fynych yn sgil canfod haint y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) a'i gael o'i arolygu felly yn rhydd o Phytophthora ramorum .

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 24 Mai 2006, yn gweithredu yng Nghymru—

  • Penderfyniadau'r Comisiwn 2002/757/EC dyddiedig 19 Medi 2002 (OJ Rhif L 252, 20.9.2002, t.37) a 2004/426/EC dyddiedig 29 Ebrill 2004 (OJ Rhif L 189, 27.5.2004, t.1) ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i rwystro dod â Phytophthora ramorum i'r Gymuned ac i rwystro'i ledaenu o fewn y Gymuned i'r graddau y maent yn berthnasol i blanhigion ac eithrio coed fforestydd; a

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/278/EC (OJ Rhif L 87, 25.3.2004, t.31) ar safbwynt y Gymuned ar ddiwygio'r Ychwanegiadau i Atodiad 4 i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnach a chynhyrchion amaethyddol i'r graddau y mae'n ymwneud â Camellia, Rhododendron a Viburnum.

Mae'r Gorchymyn yn gwahardd dod â'r pla planhigion Phytophthora ramorum i mewn ac yn gwahardd ei ledaenu (erthygl 3).

Mae'n rheoli mewnforio deunydd nifer o rywogaethau a genera planhigion sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n dod o UDA, drwy ei gwneud yn ofynnol i dystysgrifau ffytoiechydol fynd gyda'r cyfryw ddeunydd a'r rheini'n dystysgrifau na chaniateir eu dyroddi ond ar ôl i wiriadau penodol gael eu cyflawni wrth gynhyrchu a chyn traddodi; neu, fel arall, os yw'r deunydd yn tarddu mewn rhan o UDA y mae'r awdurdodau iechyd planhigion yn cydnabod ei bod yn rhydd o Phytophthora ramorum , yn dystysgrifau sy'n cadarnhau hynny (erthygl 4 ac Atodlen 1).

Rhaid i ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a fewnforir o drydydd gwledydd, gan gynnwys UDA, gael pasbort planhigion pan y'i symudir o fewn Cymru neu o fewn lle arall yn y Gymuned Ewropeaidd (“y GE”) neu'r Swistir (erthygl 5).

Pan gânt eu symud, rhaid i basbort planhigion fynd gyda phlanhigion Camellia, Rhododendron a Viburnum a gynhyrchir yng Nghymru neu sy'n tarddu yn unrhyw le arall yn y GE neu'r Swistir, ac mae'r planhigion yn ddarostyngedig i reolaethau pellach ar eu symud (erthygl 6 ac Atodlen 2).

Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr Camellia, Rhododendron a Viburnum yng Nghymru sy'n dymuno symud y cyfryw ddeunydd gael eu cofrestru os nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru o dan y prif Orchymyn Iechyd Planhigion (Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993, fel y'i diwygiwyd) (“y prif Orchymyn”) (erthygl 7). Mae rhai eithriadau i'r cyfyngiadau ar symud yn achos personau nad ydynt wrth eu gwaith yn masnachu neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad (erthygl 7(4)).

Mae darpariaethau tebyg i'r rhai sydd yn y prif Orchymyn yn gymwys i awdurdodiadau i fasnachwyr cofrestredig i'w galluogi i ddyroddi pasbortau planhigion o dan arolygaeth y Cynulliad Cenedlaethol, sef y gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol yng Nghymru (erthygl 8) ac yn gymwys i ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol yng Nghymru ac i drin tystysgrifau ffytoiechydol neu basportau planhigion a ddyroddir y tu allan i Gymru (erthyglau 9 a 10).

Mae darpariaeth ar gyfer mewnforio, symud a chadw'r pla gwaharddedig o dan dystysgrif at ddibenion ymchwil (erthygl 11).

Mae darpariaethau tebyg i'r rhai a geir yn y prif Orchymyn yn gymwys i gamau a allai fod yn ofynnol neu y caiff Arolygwyr Iechyd Planhigion eu cymryd (erthyglau 12 i 14).

Caiff tramgwyddau tebyg i'r rhai a gaiff eu creu yn y prif Orchymyn eu creu o ran cynhyrchu pasbortau planhigion yn unol â'r Gorchymyn hwn ac o ran dod â Phytophthora ramorum i mewn, ei ledaenu a'i symud, ac o ran cydymffurfio â hysbysiadau a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn a rhwystro arolygwyr sy'n arfer eu pwerau o dan y Gorchymyn hwn (erthygl 15).

Dirymir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (OS 2002/2762) (erthygl 16).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi o ran y Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) a'i diwygio ymhellach gan adran 17(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53).

(2)

Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn o eiddo'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1993/1283, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae adran 49 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2) yn darparu ar gyfer fforffedu nwyddau a gafodd eu mewnforio, eu glanio neu eu dadlwytho yn amhriodol. Mae adran 50 yn gwneud mewnforio, glanio neu ddadlwytho nwyddau gyda'r bwriad o osgoi'r gwaharddiad a geir yn yr erthygl hon yn dramgwydd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources