- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Wedi'i wneud
10 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf 2000”)(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr “Deddf 1980” (“the 1980 Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980(2);
ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3).
2. 11 Mai 2006 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf 2000 ddod i rym–
(a)adran 47 (ailddynodi ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus);
(b)adran 48 (hawliau cilffyrdd cyfyngedig);
(c)adran 49 (darpariaethau atodol at adrannau 47 a 48);
(ch)adran 50 (hawliau preifat dros gilffyrdd cyfyngedig);
(d)adran 51 (diwygiadau sy'n ymwneud â mapiau a datganiadau diffiniol a chilffyrdd cyfyngedig) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r darpariaethau yn Atodlen 5 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) ac (e) isod;
(dd)yn Rhan I–
(i)paragraff 1 (dyletswydd i adolygu mapiau a datganiadau diffiniol yn barhaus);
(ii)paragraff 5 (dim arolygon nac adolygiadau pellach o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949);
(iii)paragraff 6 (effaith map a datganiad diffiniol);
(iv)paragraff 9 (dehongli Rhan III);
(e)Rhan II;
(f)adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau yn Atodlen 16 (diddymiadau sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) y cyfeirir atynt ym mharagraffau (ff) i (ng) isod;
(ff)Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 54 o Ddeddf 1981;
(g)Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 56(5) o Ddeddf 1981;
(ng)Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu rhan o adran 57(1) o Ddeddf 1981;
(h)adran 57 (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (j) isod;
(i)adran 69(2) o Ddeddf 2000 (diwygio adran 147(5) o Ddeddf 1980 sy'n ymwneud â'r dehongliad o gyfeiriadau at dir amaethyddol ac at dir yn cael ei ddefnyddio o'r newydd ar gyfer amaethyddiaeth at ddibenion adran 147 o Ddeddf 1980);
(j)is-baragraff (8) o baragraff 23 o Atodlen 6 i'r graddau nad yw'r is-baragraff hwnnw eisoes mewn grym.
3.—(1) Ni fydd dim yn adran 47 na 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 na 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 na 15 iddi mewn perthynas â gorchymyn perthnasol neu gais am orchymyn perthnasol a wnaed cyn 11 Mai 2006.
(2) Ym mharagraff (1) mae i “gorchymyn perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant order” yn adran 48(10) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf 2000”) ar 11 Mai 2006 o ran Cymru.
Mae adrannau 47 i 50 o Ddeddf 2000 yn rhoi i'r cyhoedd hawliau cilffyrdd cyfyngedig o ran “ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus” (“FfDdLlCau”) sydd i'w hadnabod yn lle hynny fel cilffyrdd cyfyngedig. Hawliau cilffyrdd cyfyngedig yw hawl tramwy ar droed, hawl tramwy ar gefn ceffyl neu'n tywys ceffyl, a hawl tramwy ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Nid yw rhoi hawliau cilffyrdd cyfyngedig yn nacáu bodolaeth hawl tramwy ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol nac unrhyw hawl arall (erthygl 2).
O dan adrannau 53 a 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) (“Deddf 1981”) mae'n ofynnol i awdurdodau arolygu wneud gorchmynion diwygio mapiau diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 53 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i adolygu'r map a'r datganiad diffiniol yn barhaus, ac maent yn cael eu gwneud o ganlyniad i ddigwyddiadau penodol a nodir yn yr adran honno. Mae a wnelo un o'r digwyddiadau hynny ag awdurdod yn cael hyd i dystiolaeth sydd, wrth ei hystyried ynghyd â phob tystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael, yn dangos y dylid newid y disgrifiad o briffordd benodol ar fap a datganiad diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 54 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i ailddosbarthu FfDdLlCau yn llwybrau ceffylau, llwybrau troed neu gilffyrdd sy'n agored i bob traffig.
“Gorchmynion perthnasol” at ddibenion adran 48(9) o Ddeddf 2000 yw gorchmynion yn y dosbarth cyntaf sy'n ymwneud â FfDdLlCau a gorchmynion yn yr ail ddosbarth ac yn unol â gofynion yr adran honno nid oes dim yn adran 47 nac yn adran 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 nac adran 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 neu 15 iddi mewn perthynas â'r gorchmynion hynny pan wnaed y gorchmynion hynny, neu pan wnaed cais am y gorchmynion hynny, cyn 11 Mai 2006 (erthygl 5).
Mae adran 54 o Ddeddf 1981 yn peidio â bod yn effeithiol ac o ganlyniad i hynny caiff awdurdodau arolygu eu rhyddhau o'r ddyletswydd i ailddosbarthu FfDdLlCau a osodir gan yr adran honno (erthygl 2).
Mae adran 51 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 5 iddi yn gwneud diwygiadau canlyniadol a pherthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol (erthygl 2).
Mae cychwyn adran 57 at ddibenion gwneud paragraff 23(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 2000 yn effeithiol yn rhoi pŵer i arolygwyr ddyfarnu costau o ran gwrandawiadau a gynhelir o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaethau ynghylch gwneud, cadarnhau, dilysrwydd a dyddiad gweithrediad gorchmynion penodol sy'n ymwneud â llwybrau troed a llwybrau ceffylau), ac mae'n cymhwyso adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) (gorchmynion sy'n ymwneud â chostau pan na fo gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) o ran gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol a gynhelir o dan y paragraff hwnnw. Daethpwyd â'r ddarpariaeth hon i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â gorchmynion i gau neu wyro priffyrdd penodol a'r priffyrdd hynny yn croesi tir a feddiennir at ddibenion ysgol gan erthygl 3 o Orchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1314 (Cy. 96) (C.58)) (erthygl 2).
Mae cychwyn adran 69(2) o Ddeddf 2000 yn estyn y diffiniad o “agricultural land” a geir yn adran 147 o Ddeddf 1980 at ddibenion pŵ er yr awdurdod cymwys o dan yr adran honno i awdurdodi codi camfeydd (sticlau), clwydi (giatiau, ietau), neu weithiau eraill mewn perthynas â thir o'r fath ac i dir o'r fath gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol (erthygl 2).
Mae adran 102 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 16 iddi yn peri diddymiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 1981.
Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer unrhyw ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy'r cyhoedd a baratoir ac a adolygir gan yr awdurdod arolygu ar gyfer yr ardal honno (y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfeydd y cyngor ar bob adeg resymol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i rym yng Nghymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn–
Adran(nau) neu Atodlen(ni) | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
2 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
12 i 14 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
18, 20 a 46(1)(a) | 21 Mehefin 2004 | 2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
46(1)(b) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
51 (yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
51 (yn rhannol) | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf | 2005/1314 2005 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
60 a 61 | 1 Tachwedd 2002 | 2002/2615 (Cy.253) (C.82) |
63 | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
68 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(1) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(2) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(3) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(4) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13 i 15) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 | 30 Ionawr 2001 | 2001/203 (Cy.9) (C.10) |
102 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
102 (yn rhannol) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 2 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 2 a 3 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 5, paragraff 2 | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 5, paragraffau 8, 10 ac 11 | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlenni 6, paragraffau 2, 3, 9(1) i (3), 11, 14(1) a (4)(a), 20(a) i (c) a 24 | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 5 (yn rhannol), paragraff 8 (y gweddill), paragraff 12 (yn rhannol), paragraffau 13(1) i (4) (yn rhannol), (5)(a) i (d) (yn rhannol) a (7) i (9) (yn rhannol), paragraff 14 (yn rhannol), paragraff 17 (yn rhannol), paragraff 18(a) (yn rhannol) a (b), paragraff 19 (yn rhannol), paragraff 20(d) ac (e), paragraff 21 (yn rhannol), paragraffau 23(1) (yn rhannol), (2)(a) a (b) (yn rhannol), (3)(a) a (b) (yn rhannol), (4)(a) a (b) (yn rhannol), (5) (yn rhannol), (7) (yn rhannol), (8) (yn rhannol), 9(a) a (9)(b) (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 4, paragraff 15 (yn rhannol) | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraffau 18(a) (yn rhannol) a 19 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) | 21 Mehefin 2004 | 2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
Atodlen 16, Rhan I (y gweddill) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau III i VI | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr–
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) 2001 (O.S. 2001/114) (C.4)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2833) (C.89)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) 2003 (O.S. 2003/272) (C.16)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) 2004 (O.S. 2004/292) (C.14)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) 2004 (O.S. 2004/2173) (C.93)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) 2004 (O.S. 2004/3088) (C.128)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) 2005 (O.S. 2005/827) (C.34)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8) 2005 (O.S. 2005/1901) (C.81)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9) 2005 (O.S. 2005/2459) (C.104)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 10) 2005 (O.S. 2005/2752) (C.112)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: