Search Legislation

Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 774 (Cy.64)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

16 Mawrth 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976(1), adrannau 23(2)(a), (f)(ii), (5), 26(1), (2), 59(2), (3), 104(4), Atodlen 2, paragraffau 12, 13, 14, Atodlen 4, paragraff 4(1), (2)(d), Atodlen 5, paragraff 7(1), (2)(g), ac Atodlen 6, paragraff 10(1) o Ddeddf Plant 1989(2) a chan adrannau 1(4), 16(2), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) a (c), (7)(a) i (h), (j), (8)(c), 25(1), 33, 34(1), 35, 77(2) ac 118(4) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983

2.—(1Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(4) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 15(1)(e), ar ôl y geiriau “children’s guardian or reporting officer”, mewnosoder y geiriau “or Welsh family proceedings officer”(5).

Diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991

3.—(1Diwygir Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991(6) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Bob tro y mae'r geiriau “officers of the service” yn ymddangos yn rheoliad 11, mewnosoder y geiriau “and Welsh family proceedings officers” ar eu hôl.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991

4.—(1Diwygir Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991(7) yn unol â dapriaethau canlynol y rheoliad hwn.

(1Yn rheoliad 2A(1)(c) ar ôl “Support Service”, mewnosoder “or a Welsh family proceedings officer where the child is ordinarily resident in Wales”.

Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001

5.—(1Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001(8) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ar ddiwedd rheoliad 17, ychwaneger “a Chynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ei swyddogaethau o dan adran 35 o Ddeddf Plant 2004”.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

6.—(1Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(9) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(1Yn rheoliad 15(2)(b) ar ôl “a Theuluoedd” mewnosoder “neu Swyddog Achosion Teuluol”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mawrth 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983, Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991, Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991, Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 a Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 sydd o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (“CAFCASS”) yng Nghymru i swyddogion achosion teuluol Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Diwygir cyfeiriadau yn y pum set o reoliadau at warcheidwaid plant neu swyddogion cofnodi, swyddogion y gwasanaeth a'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd fel eu bod yn cynnwys cyfeiriad at swyddogion achosion teuluol Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 35 o Ddeddf Plant 2004.

(1)

1976 p.36. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 9(5) o Ddeddf 1976 fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr, a'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Cynulliad Cymru yn gweithredu ar y cyd o ran Cymru a Lloegr.

(2)

1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)).

(5)

Diffinnir “Welsh family proceedings officer” yn adran 35 o Ddeddf Plant 2004 (2004 p.31).

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources