Search Legislation

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 665 (Cy.55)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

8 Mawrth 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol, gan adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1), iddo ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o'r Ddeddf honno .

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dangosyddion Perfformiad

2.  Y dangosyddion perfformiad a bennir ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, gan gynnwys, pan fo hynny'n briodol, dangosyddion perfformiad o ran swyddogaethau a arferir ganddynt fel awdurdodau gwaredu gwastraff, o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod, yw'r dangosyddion perfformiad a roddir yn y tabl hwnnw.

TABL

Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt

Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Rheoli Gwastraff
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Trafnidiaeth/Priffyrdd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Diogelu'r Cyhoedd
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Effeithlonrwydd Ynni
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau Dreth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 8

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005

Erthygl 2

ATODLEN 1DANGOSYDDION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Rhif y DangosyddPrif ddangosydd
NS1Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd.
NS2

Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd):

(a)

y rhoddwyd cymorth iddynt i fyw gartref, fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd; a

(b)

y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd.

NS3

(a)canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda chynllun gofal ar waith; a

(b)ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, canran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol.

NS4Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth.

ATODLEN 2DANGOSYDDION TAI

Rhif y DangosyddPrif ddangosydd
NS5

(a)Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sy'n defnyddio llety gwely a brecwast, ac eithrio mewn argyfyngau; a

(b)cyfartaledd nifer y dyddiau y mae pob aelwyd ddigartref yn treulio mewn llety dros dro.

NS6Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'rawdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn ystatudol ddigartref.
NS7Canran yr anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit, a gaewyd neu a ddymchwelwyd o ganlyniad i gamau gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.
NS8

Nifer gyfartalog fesul 1000 o'r boblogaeth o'r canlynol:

(i)

unedau o gymorth fel y bo'r angen;

(ii)

lleoedd gwely y gellir eu cael yn uniongyrchol;

(iii)

lleoedd gwely mewn llety preswyl dros dro;

(iv)

lleoedd gwely mewn llety preswyl parhaol;

(v)

lleoedd gwely mewn llety gwarchod i bobl hyn; a

(vi)

gwasanaethau larwm cymunedol.

ATODLEN 3DANGOSYDDION ADDYSG

Rhif y DangosyddPrif ddangosydd
NS9Canran presenoldeb y disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
NS10

Nifer a chanran:

(i)

yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a

(ii)

y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw sefydliad dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol, sy'n cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol ac sy'n ymadaelag addysg, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith, llawn amser, heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd.

NS11Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar ddiwedd Cyfnodd Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS12Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar diwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS13Cyfartaledd y sgôr pwyntiau cymwysterau allanol ar gyfer disgyblion 16 oed, mewn amgylcheddau dysgu a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
NS14
(a)

Nifer; a

(b)

chanran y disgyblion sy'n gymwys i'w hasesu, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf):

(i)

ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2; a

(ii)

ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.

ATODLEN 4DANGOSYDDION RHEOLI GWASTRAFF

Rhif y DangosyddPrif ddangosydd
NS15
(a)

Cyfanswm mewn tunelli; a

(b)

chanran

y gwastraff trefol

(i)

a ailddefnyddir ac/neu a ailgylchir; a

(ii)

a gompostir neu a drinnir yn fiolegol mewn ffordd arall.

NS16
(a)

Cyfanswm mewn tunelli; a

(b)

chanran

y gwastraff trefol pydradwy a anfonir at safleoedd tirlenwi.

ATODLEN 5DANGOSYDDION CLUDIANT/PRIFFYRDD

Rhif y dangosyddPrif ddangosydd
NS17

Cyflwr:

(a)

prif ffyrdd (dosbarth A); a

(b)

ffyrdd dosbarthedig/nad ydynt yn brif ffyrdd.

ATODLEN 6DANGOSYDDION DIOGELU'R CYHOEDD

Rhif y dangosyddPrif ddangosydd
NS18

(a)Nifer y busnesau uchel eu risg sy'n atebol i gael arolygiadau wedi'u rhaglenni neu weithgarwch gorfodi amgen yn ystod y flwyddyn; a

(b)canran y busnesau hyn a oedd yn agored i arolygiad wedi'i raglennu neu weithgarwch gorfodi arall a arolygwyd/a oedd yn destun gweithgarwch gorfodi arall, o ran:

  • Safonau Masnach

  • Hylendid Bwyd;

  • Iechyd Anifeiliaid; ac

  • Iechyd a Diogelwch.

ATODLEN 7DANGOSYDDION EFFEITHLONRWYDD YNNI

Rhif y dangosyddPrif ddangosydd
NS19

(a)Canran y newid mewn allyriadau carbon deuocsid yn y stoc cyhoeddus annomestig; a

(b)canran y newid yn y defnydd o ynni ac o allyriadau carbon deuocsid yn y stoc dai.

ATODLEN 8DANGOSYDDION Y BUDD-DALIADAU TAI A BUDD-DALIADAU'R DRETH GYNGOR

Rhif y dangosyddPrif ddangosydd
NS20

Diogelu'r budd-dal tai:

(a)

nifer yr hawlwyr yr ymwelwyd â hwy fesul 1,000 baich achos;

(b)

nifer yr ymchwilwyr i dwyll a gyflogwyd fesul 1,000 baich achos;

(c)

nifer yr ymchwiliadau i dwyll fesul 1,000 baich achos; ac

(ch)

nifer yr erlyniadau a'r sancsiynau fesul 1,000 baich achos.

NS21

Cyflymder y prosesu:

(a)

cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hawliadau newydd; a

(b)

cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hysbysiadau o newidiadau mewn amgylchiadau.

NS22

Cywirdeb y prosesu:

(a)

canran yr achosion lle'r oedd y swm o fudd-dal a gyfrifwyd i fod yn ddyledus yn gywir ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael adeg gwneud y penderfyniad, a hynny ar gyfer sampl o achosion a wiriwyd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud; a

(b)

y ganran o ordaliadau budd-dal tai a adenillwyd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dangosyddion perfformiad, ar gyfer Cymru, y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, wrth arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2005.

Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae erthygl 2 yn nodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur perfformiad pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.

Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:

  • Atodlen 1 — Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Atodlen 2 — Tai

  • Atodlen 3 — Addysg

  • Atodlen 4 — Rheoli gwastraff

  • Atodlen 5 — Trafnidiaeth/Priffyrdd

  • Atodlen 6 — Diogelu'r cyhoedd

  • Atodlen 7 — Effeithlonrwydd Ynni

  • Atodlen 8 — Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor

Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2005.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources