- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “casglwr” yr ystyr a roddir i “collector” yn Erthygl 144(b) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004;
ystyr “cyfnod neilltuo” (“set-aside period”) yw'r cyfnod o 15 Ionawr i 31 Awst (yn gynhwysol) mewn unrhyw flwyddyn benodol;
mae “cwrs dŵr” (“watercourse”) yn cynnwys camlas a ffos gae;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2(b) o Reoliad y Cyngor;
mae i “ffermwr” yr ystyr a roddir i “farmer” yn Erthygl 2(a) o Reoliad y Cyngor;
ystyr “gorchudd glas” (“green cover”) yw gorchudd glas a sefydlwyd neu sydd, yn ôl y digwydd, i'w sefydlu yn unol ag Atodlen 1;
ystyr “gwastraff organig” (“organic waste”) yw deunydd gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan anifeiliaid neu blanhigion fel sgil-gynnyrch gwaith cynhyrchu amaethyddol, ac mae'n cynnwys sarn anifeiliaid;
mae i “prosesydd” yr un ystyr â “processor” yn Rheoliad y Comisiwn 1973/2004;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 795/2004” (“Commission Regulation 795/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004(1) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1973/2004” (“Commission Regulation 1973/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004(2) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 mewn perthynas â'r cynlluniau cymorth y darperir ar eu cyfer yn Nheitlau IV a IVa o'r Rheoliad hwnnw a defnyddio tir a neilltuwyd ar gyfer cynhyrchu deunyddiau crai;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(3) sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1251/1999” (“Council Regulation 1251/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1251/1999 sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol(4);
ystyr “Rheoliadau Trawsgydymffurfio 2004” (“the Cross Compliance Regulations 2004”) yw Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(5);
ystyr “tir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd” (“land set aside for non-food purposes”) yw tir sydd wedi'i neilltuo yn unol ag Erthygl 55(b) o Reoliad y Cyngor o dan yr amodau a bennwyd ym Mhennod 16 o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 ar gyfer darparu deunyddiau i weithgynhyrchu o fewn y Gymuned Ewropeaidd gynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ffermwr yn neilltuo tir at y diben hwnnw yn unol â hynny;
ystyr “tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith gynhyrchu” (“land set aside from production”) yw tir sydd wedi'i neilltuo yn unol ag Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor (ac eithrio tir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd), a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ffermwr yn neilltuo tir oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â hynny; ac
ystyr “tymor gorchudd glas” (“green cover season”) yw'r cyfnod o 15 Ionawr i 14 Gorffennaf (yn gynhwysol) mewn unrhyw flwyddyn benodol.
(2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.
(3) mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn ôl y digwydd.
O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 85).
O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1.
O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. Rhif L 161, 30.4.2004, t. 48, fel y mae wedi'i gywiro drwy gorigendwm yn O.J. Rhif L 206, 9.6.2004, t. 20).
O.J. Rhif L 160, 26.6.1999, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: