Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “casglwr” yr ystyr a roddir i “collector” yn Erthygl 144(b) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004;

  • ystyr “cyfnod neilltuo” (“set-aside period”) yw'r cyfnod o 15 Ionawr i 31 Awst (yn gynhwysol) mewn unrhyw flwyddyn benodol;

  • mae “cwrs dŵr” (“watercourse”) yn cynnwys camlas a ffos gae;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2(b) o Reoliad y Cyngor;

  • mae i “ffermwr” yr ystyr a roddir i “farmer” yn Erthygl 2(a) o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “gorchudd glas” (“green cover”) yw gorchudd glas a sefydlwyd neu sydd, yn ôl y digwydd, i'w sefydlu yn unol ag Atodlen 1;

  • ystyr “gwastraff organig” (“organic waste”) yw deunydd gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan anifeiliaid neu blanhigion fel sgil-gynnyrch gwaith cynhyrchu amaethyddol, ac mae'n cynnwys sarn anifeiliaid;

  • mae i “prosesydd” yr un ystyr â “processor” yn Rheoliad y Comisiwn 1973/2004;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 795/2004” (“Commission Regulation 795/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004(1) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1973/2004” (“Commission Regulation 1973/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004(2) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 mewn perthynas â'r cynlluniau cymorth y darperir ar eu cyfer yn Nheitlau IV a IVa o'r Rheoliad hwnnw a defnyddio tir a neilltuwyd ar gyfer cynhyrchu deunyddiau crai;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(3) sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1251/1999” (“Council Regulation 1251/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1251/1999 sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol(4);

  • ystyr “Rheoliadau Trawsgydymffurfio 2004” (“the Cross Compliance Regulations 2004”) yw Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(5);

  • ystyr “tir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd” (“land set aside for non-food purposes”) yw tir sydd wedi'i neilltuo yn unol ag Erthygl 55(b) o Reoliad y Cyngor o dan yr amodau a bennwyd ym Mhennod 16 o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 ar gyfer darparu deunyddiau i weithgynhyrchu o fewn y Gymuned Ewropeaidd gynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ffermwr yn neilltuo tir at y diben hwnnw yn unol â hynny;

  • ystyr “tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith gynhyrchu” (“land set aside from production”) yw tir sydd wedi'i neilltuo yn unol ag Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor (ac eithrio tir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd), a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ffermwr yn neilltuo tir oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â hynny; ac

  • ystyr “tymor gorchudd glas” (“green cover season”) yw'r cyfnod o 15 Ionawr i 14 Gorffennaf (yn gynhwysol) mewn unrhyw flwyddyn benodol.

(2mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(3mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn ôl y digwydd.

(1)

O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 85).

(2)

O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1.

(3)

O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. Rhif L 161, 30.4.2004, t. 48, fel y mae wedi'i gywiro drwy gorigendwm yn O.J. Rhif L 206, 9.6.2004, t. 20).

(4)

O.J. Rhif L 160, 26.6.1999, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor.