Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Gorfodi Rheoliad 183/2005

Cwmpas a dehongli Rhan 2

3.—(1Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(2) Rheoliad 183/2005.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Erthygl wedi'i Rhif o yn gyfeiriad at yr Erthygl wedi'i Rhif o felly yn Rheoliad 183/2005.

Awdurdodau cymwys

4.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 183/2005 yw—

(a)o ran Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a'r awdurdod gorfodi;

(b)o ran Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi;

(c)o ran Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.

Tramgwyddau a chosbau

5.—(1Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad 183/2005 a nodir ym mharagraff (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored i—

(a)yn achos is-baragraffau (ch), (d), (e), (f), (ff) a (g) o baragraff (2)—

(i)ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu'r ddau; neu

(ii)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu'r ddau;

(b)yn achos is-baragraffau (a), (b), (c), ac (dd) o baragraff (2), ar gollfarn ddiannod i garchariad nad yw'n fwy na thri mis neu ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.

(2Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)Erthygl 5(1), (2), (3), (5) a (6) (rhwymedigaethau penodol);

(b)Erthygl 6(1), fel y'i darllenir gyda (2) a (3) (system HACCP);

(c)Erthygl 7(1) (dogfennau yn ymwneud â system HACCP);

(ch)Erthygl 9(2) (rheolaethau swyddogol, hysbysu a chofrestru);

(d)Erthygl 11 (gwaharddiad ar weithredu heb gymeradwyaeth neu gofrestriad);

(dd)Erthygl 17(2) (esemptiad rhag ymweliadau â'r safle);

(e)Erthygl 18(3) (datgan cydymffurfiaeth);

(f)Erthygl 23(1) (amodau yn ymwneud â mewnforion);

(ff)Erthygl 24 (mesurau interim ynglŷn â sefydliadau mewn trydydd gwledydd);

(g)Erthygl 25 (bwyd anifeiliaid a gynhyrchir i'w allforio i drydydd gwledydd).

Ffurf yr hysbysiad gyda'r bwriad o gofrestru

6.  Mae'n rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan Erthygl 9 (rheolaethau swyddogol, hysbysu a chofrestru) hysbysu'r awdurdod gorfodi o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) neu (b) o'r Erthygl honno sicrhau bod unrhyw gyfryw hysbysiad—

(a)yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan y person hwnnw neu ar ei ran;

(b)yn cynnwys enw'r person hwnnw ac, os yw'n wahanol, ei enw busnes;

(c)yn cynnwys ei gyfeiriad ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad unrhyw sefydliad y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef;

(ch)yn nodi gweithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid yn y cyfryw fodd ag sy'n ofynnol gan yr awdurdod gorfodi; a

(d)wedi'i gyfeirio'n gywir i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Ffurf y datganiad mewn perthynas â mesurau trosiannol

7.  Mae'n rhaid i unrhyw berson y mae Erthygl 18(3) (mesurau trosiannol) yn gymwys iddynt sicrhau bod datganiad, wedi'i gyflwyno yn unol â'r ddarpariaeth honno—

(a)yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan y person hwnnw neu ar ei ran;

(b)yn cynnwys Rhif cofrestru neu gymeradwyaeth y person hwnnw, ei enw ac, os yw'n wahanol, ei enw busnes;

(c)yn cynnwys cyfeiriad y person hwnnw, ac os yw'n wahanol, cyfeiriad unrhyw sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef;

(ch)yn cynnwys datganiad i'r perwyl y mae'r busnes bwyd anifeiliaid yn un y mae Erthygl 18(2) yn gymwys iddo; a

(d)wedi'i gyfeirio'n gywir i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Ffurf y cais sydd i'w gymeradwyo

8.  Pan fo'n ofynnol i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei gymeradwyo yn unol ag Erthygl 10, mae'n rhaid i gais gael ei wneud i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal lle y mae'r sefydliad wedi'i leoli sydd—

(a)yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

(b)yn cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

(c)yn nodi pa rai o weithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid a nodir yn Erthygl 10(1) neu y gellir eu pennu yn unol ag Erthygl 10(3) y mae'r ymgeisydd yn eu hymarfer neu'n bwriadu eu hymarfer ac y mae'n ceisio cymeradwyaeth amdanynt;

(ch)yn achos unrhyw berson y mae Erthygl 17(2) (esemptiad rhag ymweliadau â'r safle) yn gymwys iddo, yn cynnwys datganiad i'r perwyl bod y sefydliad yn un y mae Erthygl 17(1) yn gymwys iddo a datganiad o gydymffurfiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (2) o'r Erthygl honno; a

(d)wedi'i gyfeirio'n gywir i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Gweithdrefn ar gyfer atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth

9.—(1Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau yn unol ag Erthygl 14 (atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth) mae'n rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

(2Mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (1)—

(a)nodi dyddiad gweithredol yr hysbysiad (“y dyddiad gweithredol”);

(b)nodi ei fod yn bwriadu atal dros dro ar y dyddiad gweithredol gymeradwyaeth neu fel y digwydd gofrestriad yn unol ag Erthygl 14 a'r Rheoliadau hyn;

(c)nodi gweithgaredd neu weithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef;

(ch)nodi'r camau adfer sydd eu hangen;

(d)datgan y diddymir y cofrestriad neu'r gymeradwyaeth heb hysbysiad pellach ar ben-blwydd cyntaf y dyddiad gweithredol oni chymerir y camau adfer er boddhad yr awdurdod gorfodi ymhen blwyddyn i'r dyddiad gweithredol;

(dd)yn achos atal cofrestriad dros dro, darparu gwybodaeth ar y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 13.

Gweithdrefn ar gyfer codi ataliad dros dro

10.  Pan fo'r awdurdod gorfodi a gyflwynodd yr hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o dan reoliad 9 yn fodlon—

(a)bod y camau adfer sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(d) o'r rheoliad hwnnw wedi cael eu cymryd; a

(b)nad yw'r cyfnod ar gyfer gweithredu, a bennir yn y paragraff hwnnw wedi dod i ben,

mae'n rhaid iddo godi'r ataliad dros dro ar unwaith a hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw.

Gweithdrefn ar gyfer dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth

11.—(1Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau o dan yr amgylchiadau a nodir yn Erthygl 15 (dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth) mae'n rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

(2Mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (1)—

(a)pennu dyddiad gweithredol yr hysbysiad;

(b)datgan bod y cofrestriad neu'r gymeradwyaeth yn ôl y digwydd wedi'i ddiddymu neu ei diddymu;

(c)pennu gweithgaredd neu weithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid y mae a wnelo'r dirymiad ag ef;

(ch)nodi pa rai o'r amodau dirymu a nodir yn Erthygl 15 sy'n gymwys;

(d)darparu gwybodaeth am y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 13.

(3Pan fo awdurdod gorfodi wedi dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth yn unol â'r rheoliad hwn, mae'n rhaid iddo—

(a)gwneud y diwygiadau priodol i'w gofrestr ei hun o sefydliadau busnes bwyd anifeiliaid; a

(b)cyfleu i'r Asiantaeth yn brydlon y wybodaeth angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag Erthygl 19(3) (diweddaru rhestrau cenedlaethol).

Ffurf y cais ar gyfer diwygio cymeradwyaeth neu gofrestriad

12.—(1Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn dymuno gwneud cais am ddiwygiadau i gymeradwyaeth neu gofrestriad yn unol ag Erthygl 16 (diwygiadau i gofrestru neu gymeradwyo sefydliad), mae'n rhaid i gais i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae sefydliad y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol wedi'i leoli ynddi—

(a)sydd wedi'i lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

(b)sy'n cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

(c)sy'n nodi'r gweithgareddau y mae a wnelo'r cais am ddiwygiadau i'r gymeradwyaeth neu'r cofrestriad ag ef;

(ch)sydd wedi'i gyfeirio'n briodol i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Hawl i apelio yn erbyn ataliad cofrestru dros dro neu ei ddirymu

13.—(1Caiff unrhyw berson sy'n teimlo iddo gael cam oherwydd penderfyniad yr awdurdod gorfodi a wnaed mewn perthynas â'r canlynol—

(a)cymeradwyo sefydliad o dan Erthygl 13;

(b)atal cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad dros dro o dan Erthygl 14;

(c)dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 15; neu

(ch)diwygiad i gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 16

apelio i lys ynadon.

(2Y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) yw drwy wneud cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r gweithrediadau.

(3Y cyfnod y gellir dwyn apêl o dan baragraff (1) yw un mis i'r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio a bernir mai drwy wneud cwyn am orchymyn at ddibenion y paragraff hwn y dygir apêl.

(4Pan fo llys ynadon yn penderfynu, ar apêl o dan baragraff (1), bod penderfyniad yr awdurdod gorfodi yn anghywir, mae'n rhaid i'r awdurdod weithredu ar benderfyniad y llys.

(5Pan fo cofrestriad yn cael ei atal dros dro neu ei ddirymu, caiff gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid a oedd wedi bod yn defnyddio'r sefydliad dan sylw, yn union cyn y cyfryw atal dros dro neu ddirymiad, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod gorfodi er diogelwch iechyd y cyhoedd oni bai—

(a)bod y terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i atal cofrestriad dros dro neu ei ddirymu wedi dod i ben heb i apêl gael ei chyflwyno; neu

(b)pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi'i chyflwyno, bod yr apêl wedi'i phenderfynu'n derfynol neu wedi'i therfynu.

(6Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd anifeiliaid os gosodwyd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid, hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sefydliad.

Ffioedd ar gyfer cymeradwyaethau neu ddiwygio cymeradwyaethau

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'n rhaid i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid sy'n gwneud cais i awdurdod gorfodi o dan reoliad 8 am gymeradwyaeth neu o dan reoliad 12 am ddiwygiad i gymeradwyaeth—

(a)talu'r ffi berthnasol i'r awdurdod gorfodi pan gyflwynir y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1); a

(b)os gofynnir iddo, ad-dalu costau unrhyw waith dadansoddi gan labordy y mae'r awdurdod gorfodi yn mynd iddynt mewn cysylltiad â'r cais.

(2Mewn perthynas ag unrhyw gais a gyflwynir iddo o dan reoliadau 8 neu 12, nid oes angen i'r awdurdod gorfodi—

(a)cymryd unrhyw gamau i gymeradwyo sefydliad mewn perthynas ag un neu fwy o'i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes bod y ffi berthnasol wedi'i thalu iddo; neu

(b)cymeradwyo sefydliad mewn perthynas ag un neu fwy o'i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes ei fod wedi ad-dalu costau unrhyw waith dadansoddi gan labordy yr aeth iddynt mewn cysylltiad â'r cais yn unol â pharagraff (1)(b).

(3Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn gwneud cais o dan reoliad 8 neu 12 yn ceisio cymeradwyaeth neu fel y digwydd ddiwygiad i gymeradwyaeth sefydliad fel un lle y gellir ymarfer mwy nag un gweithgaredd busnes bwyd anifeiliaid sy'n gofyn am gymeradwyaeth, mae'r gweithredwr yn atebol i dalu un ffi berthnasol, sef y ffi uchaf a fydd yn daladwy fel arall.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “ffi berthnasol” yw'r ffi a bennwyd yn Atodlen 3.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources