Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3297 (Cy.255)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

30 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

1 Ionawr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu bwydydd crai, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl yr ymgynghori agored a thryloyw wrth i'r Rheoliadau hyn gael eu paratoi fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) fel y'u diwygiwyd diwethaf gan Rheoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN IRHAGARWEINIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “a fewnforir” (“imported”) yw y deuir ag ef i Gymru o le arall heblaw Ynysoedd Prydain;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn is-adran 1A o adran 5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(5);

ystyr “awdurdod bwyd perthnasol” (“relevant food authority”) yw'r awdurdod bwyd yn ei ardal y mae amgylchiadau sy'n arwain at rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn i dalu tâl i'r awdurdod hwnnw yn codi;

ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw'r awdurdod a ddynodwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005(6);

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984(7), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), Rheoliad 178/2002 (“Regulation 178/2002”), Rheoliad 852/2004 (“Regulation 852/2004”), Rheoliad 853/2004 (“Regulation 853/2004”), Rheoliad 854/2004 (“Regulation 854/2004”), Rheoliad 882/2004 (“Regulation 882/2004”), Rheoliad A (“Regulation A”), Rheoliad B (“Regulation B”), Rheoliad C (“Regulation C”), Rheoliad D (“Regulation D”), a Rheoliad E (“Regulation E”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn yr Atodlen;

ystyr “cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr o dan rwymedigaeth iddynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(8);

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol” (“relevant fishery products”) yw cynhyrchion psygodfeydd a fewnforir ac—

(a)

sy'n tarddu o drydedd wlad;

(b)

a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;

(c)

na fuont neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio arfaethedig, neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio, i Wladwriaeth AEE neu i Kalaallit Nunaat (Greenland);

(ch)

neu sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; a

(d)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol” (“relevant landed fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd—

(a)

a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;

(b)

na fuont neu fuasant ar dir cyn cael eu glanio;

(c)

sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; ac

(ch)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;

heblaw cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol sy'n cael eu gwerthu am y tro cyntaf yng Nghymru a mewnforion trydydd gwledydd;

ystyr “gwerthwr” (“vendor”)

(a)

pan fo asiant yn gwerthu cynhyrchion pysgodfeydd ar ran perchennog neu feistr llestr, yr asiant hwnnw; a

(b)

ym mhob achos arall, perchennog neu feistr y llestr;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;

mae i “llestr ffatri” (“factory vessel”) a “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yr ystyron a roddir i “factory vessel” a “fishery products”, yn y drefn honno, ym mhwyntiau 3.2 a 3.1 o Atodlen I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(9);

ystyr “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw mewnforyn y mae tâl yn daladwy ynglŷn ag ef o dan reoliad 52(1) o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004(10);

mae i “prosesu” yr ystyr a roddir i “processing” ym mharagraff 1(m) o Erthygl 2 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004;

ystyr “pysgod eigionol penodedig” (“specified pelagic fish”) yw—

(a)

penwaig neu ysgadan o'r rhywogaeth Clupea harengus;

(b)

penwaig Mair o'r rhywogaeth Sardinia pilchardus;

(c)

mecryll o'r rhywogaeth Scomber scombrus neu Scomber japonicus;

(ch)

marchfecryll;

(d)

brwyniaid; ac

(dd)

picarelod o'r rhywogaeth Maena smaris;

dehonglir “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yn unol â'r diffiniad o “official control” ym mharagraff 1(a) o Erthygl 2 o Reoliad 854/2004???);

mae i “rhoi ar y farchnad” (“placing on the market”) yr ystyr a roddir i “placing on the market” ym mharagraff 8 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002;

mae i “sefydliad” (“establishment”) yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 1(c) o Erthygl 2 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004;

ystyr “sefydliad prosesu” (“processing establishment”) yw sefydliad lle mae prosesu yn digwydd;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) , yw unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw'n ffurfio'r cyfan neu ran o Wladwriaeth AEE; ac

ystyr “wedi'u hoeri” (“chilled”) yw wedi'u gostwng i dymheredd sy'n agos at dymheredd iâ tawdd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.

Gwir gostau

3.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol yw cyfanswm y costau o'r mathau a bennir ym mharagraff (2) ac yr eir iddynt yn uniongyrchol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

(2Y mathau o gostau yw—

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol a phensiynau, pob aelod o staff sy'n cymryd rhan uniongyrchol mewn arfer y rheolaethau a phob aelod o staff sy'n ymwneud â rheoli neu weinyddu'r rheolaethau;

(b)costau hyfforddiant mewn swydd ar gyfer staff sy'n cymryd rhan mewn arfer y rheolaethau;

(c)costau teithio a mân dreuliau perthynol yr eir iddynt wrth arfer y rheolaethau, ac eithrio'r rheini yr eir iddynt gan berson sy'n mynd i'w le gwaith arferol;

(ch)costau ystafelleodd, offer a gwasanaethau swyddfa ar gyfer staff sy'n cymryd rhan mewn arfer y rheolaethau, gan gynnwys dibrisiant unrhyw ddodrefn ac offer swyddfa a chost technoleg gwybodaeth, deunyddiau ysgrifennu a ffurflenni;

(d)costau dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth arfer y rheolaethau;

(dd)costau golchi dillad amddiffynnol a ddefnyddir wrth arfer y rheolaethau;

(e)costau samplu a dadansoddi yr eir iddynt wrth arfer y rheolaethau; ac

(f)costau gweinyddol arferol cadw cyfrif a chasglu taliadau a darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél ynghyswllt cyflogi staff sy'n arfer y rheolaethau.

Cyfwerthoedd y bunt â'r Ewro

4.—(1Bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer benodedig o Ewros yn gyfeiriad at gyfwerth mewn punnoedd y nifer honno wedi'i chyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Cyfrifir cyfwerth mewn punnoedd nifer benodedig o Ewros drwy luosi'r nifer honno gan y gyfradd gyfnewid Ewro/punt a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gyfradd gyfnewid Ewro/punt yw—

(a)ar gyfer 2006, 1 Ewro = £0.68335; a

(b)ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny.

Cyfnod Cyfrifydda

5.—(1At ddibenion y Rheoliadau hynny, y cyfnod cyfrifydda yw un mis neu unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na deuddeng mis ac a benderfynir gan yr awdurdod bwyd perthnasol.

(2Rhaid penderfynu ar y cyfnod cyfrifydda, gan anelu at ostwng costau'r canlynol i swm rhesymol, o'i gymharu â'r taliadau y disgwylir iddynt ddod yn ddyledus, sef—

(a)gwneud datganiadau niferoedd; a

(b)casglu taliadau.

Adennill taliadau

6.  Pan osodir unrhyw ddyletswydd i dalu taliad o dan y Rheoliadau hyn ar y naill neu'r llall o ddau berson, caiff yr awdurdod y mae'r tâl yn daladwy ei adennill—

(a)ar y cyd oddi wrth y ddau ohonynt; neu

(b)ar wahân oddi wrth y naill neu'r llall ohonynt.

Cyfrifo, talu ac ad-dalu taliadau

7.—(1Pan ddelo'n hysbys i unrhyw awdurdod bwyd perthnasol bod taliad yn ddyledus iddo o dan y Rheoliadau hyn rhaid iddo—

(a)cyfrifo swm y taliad gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth sydd yn ei feddiant; a

(b)rhoi hysbysiad am y swm a gyfrifwyd felly i unrhyw berson y caniateir ei gasglu oddi wrtho.

(2Os yw'r awdurdod bwyd perthnasol neu'r awdurdod cymwys yn fodlon bod cyfrifiad sydd wedi'i wneud o dan baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddo ailgyfrifo'r taliad ac—

(a)pan fo'r swm cywir yn fwy na'r swm a gyfrifwyd o dan baragraff (1), adennill y swm uchaf yn unol â'r paragraff hwnnw;

(b)pan fo'r swm cywir yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw a phan na fo'r swm wedi'i adennill, ni chaiff adennill ond y swm lleiaf yn unol â'r paragraff hwnnw; ac

(c)pan na fo swm yn daladwy neu pan fo'r tâl taladwy yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw, a'r tâl hwnnw wedi'i adennill, rhaid iddo ad-dalu'r gwahaniaeth.

Apelau

8.—(1Caiff person apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan awdurdod sy'n gosod tâl o dan y Rheoliadau hyn.

(2Gwrander wir ar yr apêl gan lys ynadon ac mae adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys o ran apêl fel y mae'n gymwys o ran apêl o dan adran 37(1)(c) o'r Ddeddf honno.

(3Ar apêl o'r fath caiff y llys—

(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod dan sylw;

(b)penderfynu unrhyw dâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn ac, yn enwedig, caiff ostwng swm unrhyw dâl o 55% pan fo'n ofynnol i'r awdurdod wneud y gostyngiad hwnnw o dan reoliad 11, 14, 18 neu 22 ond pan nad yw wedi gwneud hynny; neu

(c)penderfynu nad oes tâl yn daladwy.

(4Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn gymwys o hyd, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad pan wnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sydd hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod dan sylw.

(5Os yw'r llys yn penderfynu bod swm unrhyw dâl a osodir o dan y Rheoliadau hyn yn llai na'r swm y mae unrhyw berson wedi'i dalu i awdurdod ynglŷn â'r tâl, rhaid i'r awdurdod hwnnw dalu'r gordaliad yn ôl.

Taliadau sy'n daladwy i ragor nag un awdurdod bwyd

9.  Mewn unrhyw achos pan fo arfer rheolaethau swyddogol yn cael ei ohirio a phan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer rheolaethau swyddogol ar lestri ac ar amodau glanio (“awdurdod A”), neu pan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 (“awdurdod B”), yw'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'n ofynnol talu tâl iddo o dan y Rheoliadau hyn (“awdurdod C”), rhaid i awdurdod C anfon—

(a)i awdurdod A, swm hafal i unrhyw swm a geir gan awdurdod C y mae modd ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod A; a

(b)i awdurdod B, swm hafal i unrhyw swm a geir gan awdurdod C y mae modd ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod B.

RHAN IITALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL HEBLAW TALIADAU AM LANIO CYNNYRCH PYSGODFEYDD YN UNIONGYRCHOL O LESTRI TRYDYDD GWLEDYDD A MEWNFORION TRYDYDD GWLEDYDD

Tâl glanio cyffredinol

10.—(1Mae'r gwerthiant cyntaf yng Nghymru o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn drafodiad taladwy at ddibenion y Rhan hon.

(2Pan fo trafodiad taladwy, rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y pris a godir ar y prynwr swm hafal i'r tâl y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y tâl glanio cyffredinol”.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliad 11, swm y tâl glanio cyffredinol yw cyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o'r cynhyrchion hynny.

(4Pan na fo'r gwir gostau sy'n briodoladwy i arfer rheolaethau swyddogol mewn perthynas â llwyth heb ei ddadlwytho o bysgod eigionol penodedig yn fwy na 50 Ewro, rhaid i'r tâl glanio cyffredinol o ran y llwyth hwnnw beidio â bod yn fwy na'r swm hwnnw.

(5Rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl glanio cyffredinol i'r awdurdod bwyd perthnasol.

Gostwng y tâl glanio cyffredinol

11.  Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 10(5) ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fo unrhyw un o'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn cael eu hwyluso ar y sail—

(a)bod pysgod yn cael eu graddio o ran ffresni a/neu maint yn unol â rheolau perthnasol gwladwriaethau neu'r Gymuned; neu

(b)bod trafodiadau gwerthiant cyntaf yn cael eu grwpio ynghyd.

Casglu ac anfon taliadau sy'n ymwneud â glanio cyffredinol

12.—(1Cyn pen 7 niwrnod ar ddiwedd pob cyfnod cyfrifydda pan fo gwerthwr yn gwneud trafodiad taladwy, rhaid i'r gwerthwr wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd o ran y trafodiad hwnnw ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio cyffredinol yn daladwy iddo.

(2Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r trafodiad taladwy a wnaed yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw neu, os bu mwy nag un o'r trafodiadau hynny, gwybodaeth o ran cyfanswm y trafodiadau.

(3Rhaid i ddatganaid niferoedd a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)lleoedd glanio a gwerthiant cyntaf y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelont ag ef; ac

(c)ar gyfer glanio cynhyrchion pysgodfeydd heblaw pysgod eigionol penodedig—

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio oddi arno,

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw, a

(iii)cyfanswm pwysau'r llwythi llai'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);

(ch)ar gyfer glanio pysgod eigionol penodedig—

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio oddi arno, a

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell a'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;

(d)swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 11 a ystyriwyd o ran—

(i)llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, a

(ii)llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,

gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; ac

(e)swm y tâl glanio cyffredinol.

(4Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—

(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y'i gwnaed ar ei gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (3) o ran pob trafodiad a gynhwysir ynddo; a

(b)rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.

Tâl am gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio o lestri ffatri

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn gyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod bwyd perthnasol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog neu feistr llestr ffatri dalu 1 Ewro i'r awdurdod am bob tunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael ei glanio.

(2Mae'r tâl sy'n daladwy o dan baragraff (1) i fod yn daladwy yn ychwanegol at y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 ond nid yw'n gymwys o ran mewnforion trydydd gwledydd neu gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthir am y tro cyntaf yng Nghymru.

Gostwng y tâl o ran cynhyrchion sy'n cael eu glanio o lestri ffatri

14.  Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 13 ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fo—

(a)gwerthiant cyntaf a pharatoi neu brosesu yn digwydd yn y llestr ffatri; neu

(b)amodau gweithredu mewn llestr ffatri, a gwarantau o ran gwiriadau'r llong ei hun, yn gyfryw fel bod modd gostwng gofynion staff arolygu.

Casglu ac anfon y tâl llestr ffatri

15.—(1Cyn pen 7 niwrnod o bob cyfnod cyfrifydda pryd y glaniwyd cynhyrchion pysgodfeydd y mae tâl yn daladwy ynglŷn â hwy o dan reoliad 13 oddi ar lestr ffatri, rhaid i berchennog neu feistr y llestr sy'n gyfrifol am dalu'r tâl hwnnw wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n daladwy iddo.

(2Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â glanio cynhyrchion pysgodfeydd o lestr ffatri yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw neu, os bu mwy nag un glaniad, gwybodaeth o ran y cyfanswm ohonynt.

(3Rhaid i ddatganiad niferoedd a wnaed o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)enw pob llestr ffatri y mae cynhyrchion pysgodfeydd yn cael eu glanio oddi arno a phob lle glanio;

(c)nifer y glaniadau yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw;

(ch)pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio;

(d)swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 14 a wnaed, gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b) o'r rheoliad hwnnw, y gwnaed y gostyngiad; ac

(dd)swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 13(1).

(4Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y mae meistr neu berchennog yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—

(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y gwnaed y datganiad niferoedd ar ei gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r meistr neu i'r perchennog ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (3) o ran pob glaniad a gynhwysir ynddo; a

(b)rhaid i'r meistr neu'r perchennog gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.

Tâl o ran llestri ffatri dramor

16.  O ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod cymwys wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan baragraff 2(c) a 3(a) (i'r graddau mae a wnelo â llestri ffatri) neu 3(b) o Bennod I o Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog neu feistr llestr ffatri dalu gwir gostau'r rheolaethau swyddogol i'r awdurdod hwnnw.

Tâl o ran sefydliadau paratoi neu brosesu

17.  Yn gyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod bwyd perthnasol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 o ran sefydliad paratoi neu brosesu, rhaid i berchennog neu weithredydd y sefydliad dalu 1 Ewro i'r awdurdod hwnnw am bob tunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n mynd i'r sefydliad hwnnw.

Gostwng y tâl o ran sefydliadau paratoi neu brosesu

18.  Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 17 ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fydd gwaith paratoi neu brosesu yn digwydd—

(a)ar yr un safle â'r gwerthiant cyntaf; neu

(b)mewn sefydliad lle mae'r amodau gweithredu a'r gwarantau o ran gwiriadau'r sefydliad ei hun yn gyfryw fel bod modd gostwng gofynion staff arolygu.

Casglu ac anfon taliadau sy'n ymwneud â sefydliadau paratoi neu brosesu

19.—(1Cyn pen 7 niwrnod o bob cyfnod cyfrifydda pryd yr aeth cynhyrchion pysgodfeydd i sefydliad paratoi neu brosesu, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl o dan reoliad 17 sy'n ymwneud â'r sefydliad hwnnw wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n daladwy iddo.

(2Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi mynd i'r sefydliad yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw.

(3Rhaid i ddatganiad niferoedd a wnaed o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n mynd i'r sefydliad;

(c)swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 18 a wnaed, gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; a

(ch)swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 17.

(4Yn ystod y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad o dan y rheoliad hwn—

(a)caiff yr awdurod bwyd perthnasol y gwnaed y datganiad niferoedd ar ei gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu'r gweithredydd roi gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (3) o ran pob swp o gynhyrchion pysgodfeydd a gynhwysir ynddo; a

(b)rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.

Taliadau o ran sefydliadau eraill

20.  O ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdrudod bwyd perthnasol wrth gyflawni arolygiad rhaglenedig at ddibenion rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog sefydliad lle nad yw cynhyrchion pysgodfeydd ond yn cael eu hoeri, eu rhewi, eu pecynnu neu'u storio dalu i'r awdurdod hwnnw wir gostau'r arolygiad rhaglenedig hwnnw.

RHAN IIITALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AM LANIO CYNHYRCHION PRYSGODFEYDD YN UNIONGYRCHOL O LESTRI TRYDYDD GWLEDYDD

Tâl o ran gwiriadau swyddogol ar laniadau uniongyrchol o drydyddd gwledydd.

21.—(1Pan werthir unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol am y tro cyntaf yng Nghymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “trafodiad taladwy”), rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y pris y mae'n ofynnol i'r prynwr ei dalu amdanynt swm hafal i'r tâl y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd”.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 22, swm y tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd yw—

(a)o ran y gwariant yr eir iddo wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004, 1 Ewro am bob tunnell o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o'r cynhyrchion hynny, ac eithrio pan na fo'r gwir gostau sy'n briodoladwy i arfer y rheolaethau swyddogol mewn perthynas â llwyth heb ei ddadlwytho o bysgod eigionol penodedig yn fwy na 50 Ewro, ni fydd tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd o ran y llwyth hwnnw yn fwy na'r swm hwnnw; a

(b)o ran y gwariant yr eir iddo wrth arfer rheolaethau swyddogol ar lestri ac ar amodau glanio, 1 Ewro y dunnell.

(3Rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd i'r awdurdod bwyd perthnasol.

Gostwng y tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd

22.  Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 21(3) ostwng o 55% y rhan o'r tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd a gyfrifir yn unol â rheoliad 21(2)(a) pan fo unrhyw un o'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn cael eu hwyluso ar y sail—

(a)bod pysgod yn cael eu graddio o ran ffresni a/neu maint yn unol â rheolau perthnasol gwladwriaethau neu'r Gymuned; neu

(b)bod trafodiadau gwerthiant cyntaf yn cael eu grwpio ynghyd.

Trefniadau casglu ac anfon

23.—(1Rhaid i werthwr sydd wedi gwneud trafodiad taladwy cyn pen 7 niwrnod ar ddiwedd cyfnod cyfrifydda pryd y gwnaed y trafodiad taladwy wneud datganiad niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd yn daladwy neu, os bu mwy nag un trafodiad o'r fath, gwybodaeth o ran cyfanswm y trafodiadau.

(2Rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y datganiad niferoedd hwnnw yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)lleoedd glanio a gwerthiant cyntaf y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelont ag ef;

(c)ar gyfer glanio cynhyrchion pysgodfeydd heblaw pysgod eigionol penodedig—

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio oddi arno,

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw, a

(iii)cyfanswm pwysau'r llwythi llai'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);

(ch)ar gyfer glaniadau o bysgod eigionol penodedig —

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio oddi arno, a

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;

(d)swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 22 a wnaed o ran—

(i)llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, a

(ii)llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,

gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; ac

(dd)swm y tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd.

(3Rhaid i'r gwerthwr, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2), gynnwys yn y datganiad niferoedd wybodaeth ar—

(a)cyfanswm pwysau'r holl gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio, gan gynnwys pysgod eigionol penodedig; a

(b)swm y tâl o ran y cynhyrchion hynny.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2005

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(12);

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(13) fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(14), fel y'i diwygiwyd gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(15), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirhad cydymffurfedd â chyfraith bwyd, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(16) fel y'i darllenir gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad A” (“Regulation A”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

  • ystyr “Rheoliad B” (“Regulation B”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

  • ystyr “Rheoliad C” (“Regulation C”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 a 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004;

  • ystyr “Rheoliad D” (“Regulation D”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac

  • ystyr “Rheoliad E” (“Regulation E”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith o ran Cymru y darpariaethau ynghylch taliadau am gyflawni rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodedig ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn nodi'r mathau o gostau y gellir mynd iddynt wrth arfer rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 (rheoliad 3);

(b)yn darparu'r cyfraddau i gyfrifo cyfwerth mewn punnoedd o unrhyw symiau a bennir mewn Ewros yn y Rheoliadau (rheoliad 4);

(c)yn nodi'r cyfnod cyfrifydda at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5);

(ch)yn darparu pan osodir taliadau ar fwy nag un person y gellir eu gorfodi yn erbyn y cyfryw bersonau ar y cyd neu ar wahân (rheoliad 6);

(d)yn darparu ar gyfer cyfrifo taliadau gan awdurdodau bwyd ac ar gyfer y talu a'r taliadau sy'n dilyn pan fydd tandaliad, ac adennill taliadau pan fydd gordaliadau (rheoliad 7);

(dd)yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniad awdurdodau sy'n gosod taliadau o dan y Rheoliadau (rheoliad 8);

(e)yn darparu ar gyfer talu taliadau gan un awdurdod bwyd i un arall (rheoliad 9);

(f)yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran glanio cyffredinol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol (cynhyrchion sydd heb fod ac nad ydynt wedi bod ar dir cyn eu glanio yng Nghymru) a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 10 a 11);

(ff)yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau sy'n ymwneud â glanio cyffredinol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol i gael eu casglu a'r datganiadau niferoedd y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 12);

(g)yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio o lestri ffatri a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 13 a 14);

(ng)yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau ynghylch cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio o lestri ffatri i gael eu casglu a'r datganiadau niferoedd y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 15);

(h)darparu bod yn rhaid i feistr llestr ffatri dalu'r gwir gostau yr eir iddynt gan awdurdod cymwys wrth iddo arfer rheolaethau swyddogol penodol (rheoliad 16);

(i)yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran gwariant yr eir iddo gan awdurdod bwyd perthnasol wrth iddo arfer rheolaethau swyddogol o ran sefydliad paratoi neu brosesu a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 17 ac 18);

(l)yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau sy'n ymwneud â chyflawni rheolaethau swyddogol o dan reoliad 17 i gael eu casglu a'r datganiadau niferoedd y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 19);

(ll)yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran gwariant yr eir iddo gan awdurdod bwyd perthnasol wrth iddo gyflawni arolygiad rhaglenedig at ddibenion rheolaethau swyddogol o ran sefydliadau y lle nad yw cynhyrchion pysgodfeydd ond yn cael eu hoeri, eu rhewi, eu pecynnu neu'u storio (rheoliad 20);

(m)yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran glaniadau uniongyrchol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol o lestri trydydd gwledydd (cynhyrchion sy'n tarddu o drydydd gwledydd sydd heb fod ac nad ydynt wedi bod ar dir cyn eu mewnforio i'r Gymuned Ewropeaidd) a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 21 a 22); a

(n)yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau ynghylch glaniadau uniongyrchol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol i gael eu casglu a'r datganiadau y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 23).

3.  Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(4)

OJ No. L245, 29.9.2003, p.4.

(5)

1990 p.16; diwygiwyd adran 5 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(9)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Rhoddir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(11)

1998 p.38.

(12)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(13)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(14)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(15)

OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

(16)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources