- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ddosbarth yn ôl y digwydd;
ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, wedi'i ddynodi at ddibenion unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliad 882/2004;
ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9 a rheoliadau 11 ac 16;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
mae i “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 2;
mae i “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 3;
mae i “cynhyrchu sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary production” yn Rheoliad 882/2004;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;
mae i “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2005”) a “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yr ystyr a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;
ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Control Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 882/2004; ac
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) —
o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol; a
o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithredu a gorfodi rheoliad 16 gan yr awdurdod hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yn ôl y digwydd.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: