Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3254 (Cy.247)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

24 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

1 Ionawr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer (o ran rheoliad 41 o'r Rheoliadau canlynol) y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(2) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd ynddo bellach (2), ac ar ôl iddo roi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(4) a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd(5), drwy arfer (o ran y Rheoliadau canlynol ac eithrio rheoliad 41) y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(6), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN IMATERION RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005, deuant i rym ar 1 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(7) iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ddosbarth yn ôl y digwydd;

ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, wedi'i ddynodi at ddibenion unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliad 882/2004;

ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9 a rheoliadau 11 ac 16;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(8), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

mae i “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 2;

mae i “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 3;

mae i “cynhyrchu sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary production” yn Rheoliad 882/2004;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

mae i “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2005”) a “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yr ystyr a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;

ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Control Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 882/2004; ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) —

(a)

o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol; a

(b)

o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithredu a gorfodi rheoliad 16 gan yr awdurdod hwnnw.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yn ôl y digwydd.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.

RHAN IIY PRIF DDARPARIAETHAU

Awdurdodau cymwys

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys mewn perthynas â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

(2Pan ddynodir yr awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) dim ond ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl y digwydd y mae'r dynodiad yn rhychwantu.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), mae unrhyw gorff a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

(4Pan fo'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3), bydd y dynodiad ddim ond yn rhychwantu ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl y digwydd.

(5Pan ddynodir yr Asiantaeth yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) neu (3) at ddibenion Erthygl 31(1) o Reoliad 882/2004, mae'r dynodiad yn cwmpasu cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005(9) yn rhinwedd rheoliad 5(1)(a) o'r Rheoliadau hynny.

(6Pan fo'r Asiantaeth wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, bydd y dynodiad yn rhychwantu, o ran Erthygl 31(2)(a) i (e), y sefydliadau a'r gweithgareddau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.

Cyfnewid a darparu gwybodaeth

4.—(1At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau RhSFAB (Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd) eraill ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a roddir arnynt gan Reoliad 882/2004, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau RhSFAB eraill unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(2At ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(3Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol â'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion hwyluso gwaith gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.

(4Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdodau cymwys gan neu o dan ddeddfwriaeth Gymunedol i ddatgelu gwybodaeth.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “awdurdodau RhSFAB eraill” yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 882/2004 ac eithrio'r awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn.

Sicrhau gwybodaeth

5.—(1At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan Reoliad 882/2004 ac at ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i gorff rheoli—

(a)darparu i'r awdurdod cymwys unrhyw wybodaeth y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall y corff rheoli ei rhoi; neu

(b)rhoi ar gael i'r awdurdod cymwys eu harolygu unrhyw gofnodion y mae ganddo sail resymol dros gredu eu bod yn cael eu dal gan y corff rheoli neu eu bod o fewn ei reolaeth mewn ffordd arall (ac os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).

(3Mae person sydd —

(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraph (1) a hynny heb esgus rhesymol; neu

(b)ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath, yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn o bwys neu'n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(4At ddibenion paragraff (1), mae'r term “corff rheoli” (“control body”) yn cynnwys unrhyw aelod o gorff rheoli, unrhyw swyddog i gorff rheoli neu unrhyw un o gyflogeion corff rheoli.

Pŵer i ddyroddi codau arferion a argymhellir

6.—(1Fel canllawiau i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd, caiff y Cynulliad ddyroddi codau arferion a argymhellir ynghylch—

(a)swyddogaethau a roddwyd i'r awdurdodau hynny yn rhinwedd eu swyddogaeth fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004; neu

(b)gweithredu a gorfodi Rhan III o'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â'r Cynulliad, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

(3Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid ac awdurdod bwyd—

(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.

(4Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.

(5Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r Cynulliad cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

(6Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd y Cynulliad yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Monitro camau gorfodi

7.—(1Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurodau gorfodi o ran gorfodi rheoliadau archwilio penodol.

(2Mae'r swyddogaeth honno yn cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed ar gyfer awdurdodau gorfodi yn gyffredinol neu ar gyfer awdurdodau penodol) mewn perthynas â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.

(3Rhaid i bob adroddiad blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn i orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer ac ar ei pherfformiad o ran —

(a)unrhyw safonau o dan baragraff (2) sy'n gymwys i'r gweithgareddau hynny; a

(b)unrhyw amcanion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau hynny a bennir yn y datganiad o amcanion ac arferion o dan adran 22 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999(10).

(4Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaniateir i'r adroddiad hwnnw gynnwys canllawiau ynghylch y camau y cred yr Asiantaeth y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.

(5Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo —

(a)i drefnu i gyhoeddi'r adroddiad, neu wybodaeth benodedig sy'n ymwneud â'r adroddiad, yn y modd a bennir yn y cyfarwyddyd; a

(b)i hysbysu'r Asiantaeth, o fewn y cyfnod a bennir felly, o ba gamau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad.

(6Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel petai'n wybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

Pŵer i ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi

8.—(1At ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi, caiff yr Asiantaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a grybwyllir ym mharagraff (2) —

(a)darparu i'r Asiantaeth unrhyw wybodaeth y mae ganddi sail resymol dros gredu y gall y person hwnnw ei rhoi; neu

(b)rhoi ar gael i'r Asiantaeth i'w harolygu unrhyw gofnodion y mae ganddi sail resymol dros gredu eu bod yn cael eu dal gan y person hwnnw neu eu bod o fewn ei reolaeth mewn ffordd arall (ac os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2Gall gofyniad o dan baragraff (1) gael ei osod—

(a)ar yr awdurdod gorfodi neu ar unrhyw aelod o'r awdurdod, unrhyw swyddog i'r awdurdod neu ar un o gyflogeion yr awdurdod; neu

(b)ar berson sy'n ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth archwilio berthnasol (a honno'n ddyletswydd y gellir ei gorfodi gan awdurdod gorfodi) neu unrhyw swyddog i'r person hwnnw neu unrhyw un o'i gyflogeion.

(3Caiff yr Asiantaeth gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddi yn unol â gofyniad o dan baragraff (1)(b).

Pwerau mynediad ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi

9.—(1Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) at ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.

(2Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerwyd gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.

(3Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd tra'n arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).

(4Caiff person awdurdodedig —

(a)mynd i mewn i unrhyw fangre a grybwyllir ym mharagraff (5) ar unrhyw adeg resymol er mwyn arolygu'r fangre neu unrhyw beth a geir ynddi;

(b)cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir ar y fangre honno;

(c)arolygu a chopïo unrhyw gofnodion a geir ar y fangre honno (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy);

(ch)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol ar y fangre honno ddarparu iddo unrhyw gyfleusterau, unrhyw gofnodion neu wybodaeth ac unrhyw gymorth arall y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

(5Y fangre y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddi yw —

(a)unrhyw fangre sydd wedi'i meddiannu gan yr awdurdod gorfodi;

(b)unrhyw labordy neu fangre debyg lle mae gwaith sy'n gysylltiedig â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i gyflawni i'r awdurdod gorfodi; ac

(c)unrhyw fangre arall (nad yw'n dy annedd preifat) y mae gan y person awdurdodedig sail resymol dros gredu ei bod yn fangre y mae pwerau gorfodi'r awdurdod gorfodi yn arferadwy (neu wedi bod yn arferadwy) ar ei chyfer.

(6Mae'r pŵer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pŵer i fynd ag unrhyw berson arall y mae'n barnu ei fod yn briodol gydag ef.

(7Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig —

(a)dangos ei awdurdodiad cyn arfer unrhyw bwerau o dan baragraff (4); a

(b)darparu dogfen sy'n enwi unrhyw sampl a gymerwyd, neu ddogfennau a gopïwyd, o dan y pwerau hynny.

(8Os bydd person, sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd yr adran hon, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(9Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth (mewn perthynas â'i pherfformiad o ran gorfodi'r darpariaethau hynny).

(10Yn y rheoliad hwn ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.

Ystyr “awdurdod gorfodi” ac ymadroddion cysylltiedig

10.—(1Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “deddfwriaeth archwilio berthnasol” yw cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol y mae'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys ar eu cyfer yn unol â pharagraffau (1) a (3) o reoliad 3 yn y drefn honno ond nid yw'n cynnwys deddfwriaeth berthnasol fel y diffinnir “relevant legislation” yn adran 15 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(2Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “awdurdod gorfodi” yw'r awdurdod y mae deddfwriaeth archwilio berthnasol i'w gorfodi drwyddo ac mae'n cynnwys yr Asiantaeth ei hun os yr awdurdod gorfodi ydyw mewn perthynas â hi ond nid yw'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd; ac mae “gorfodi” o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys gweithredu unrhyw ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth honno.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 7 i 9 (sut bynnag y maent wedi'u mynegi) at berfformiad awdurdod gorfodi o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys cyfeiriad at allu'r awdurdod hwnnw i'w gorfodi.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9

11.  Bydd person sydd —

(a)yn fwriadol yn rhwystro person rhag arfer pwerau o dan baragraff (4)(a), (b) neu (c) o reoliad 9;

(b)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1) o reoliad 8 neu baragraff (4)(ch) o reoliad 9; neu

(c)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn darparu gwybodaeth y mae'r person hwnnw yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, neu sydd yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

Yr hawl i apelio

12.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—

(a)Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth);

(b)Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn); neu

(c)Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth),

apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(11) fydd yn gymwys i'r trafodion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.

(5Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei thynnu'n ôl, caiff y gweithredydd busnes bwyd a oedd, yn union cyn bod y gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl, yn defnyddio'r sefydliad o dan sylw, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod cymwys er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, oni bai—

(a)bod yr amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad wedi dod i ben heb fod apêl wedi'i chyflwyno; a

(b)pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi'i chyflwyno, bod yr apêl wedi'i phenderfynu'n derfynol neu wedi'i gollwng.

(6Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd os yw—

(a)gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid, hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad;

(b)gorchymyn gwahardd, hysbysiad gwahardd brys, gorchymyn gwahardd brys neu orchymyn rheoli brys wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad yn unol ag adran 11, 12 neu 13 o'r Ddeddf;

(c)cymeradwyo'r sefydliad wedi'i atal yn unol ag Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004; neu

(ch)y sefydliad wedi'i atal rhag gweithredu ar ôl cyflwyno hysbysiad camau cywiro.

(7Yn y Rheoliad hwn mae i bob un o'r termau “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”, “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”, “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid” a “hysbysiad camau cywiro” yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)

13.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 12(1) apelio i Lys y Goron.

Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall

14.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef at ddibenion cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad 882/2004.

Arbenigwyr y Comisiwn

15.—(1Pan fo swyddog gorfodi yn mynd i mewn i fangre at ddibenion gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, caiff y swyddog fynd ag arbenigydd gydag ef i'r Comisiwn er mwyn galluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad 882/2004.

(2Yn y Rheoliad hwn ystyr “swyddog gorfodi” yw swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol ar gyfer cadarnhau cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol.

Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol

16.  Os bydd person yn mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 14 neu 15 ac yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth gyflawni ei ddyletswydd.

Gweithredu a gorfodi

17.—(1Yr awdurdod cymwys a osododd y gofyniad ar y corff rheoleiddiol o dan sylw o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5.

(2Yr Asiantaeth yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 9(8) ac 11.

(3Yr awdurdod y cymerodd ei swyddog y person a wnaeth y datgeliad i'r fangre o dan sylw yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 16.

Pwerau mynediad

18.—(1Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi perthnasol ac eithrio'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a yw paragraff (3) o reoliad 5 neu reoliad 16, yn ôl y digwydd, yn cael neu wedi cael ei dorri yn y fangre y mae gan yr awdurdod hwnnw'r cyfrifoldeb gorfodi drosti yn unol â pharagraph (1) neu (3) o reoliad 17 yn ôl y digwydd; a

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal yr awdurdod neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(2Bydd gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—

(a)darganfod a yw paragraph (8) o reoliad 9 neu reoliad 11, neu baragraff (3) o reoliad 5 neu reoliad 16 yn cael neu wedi cael ei dorri yn y fangre y mae gan yr Asiantaeth gyfrifoldeb gorfodi drosti yn unol â pharagraph (1) neu (3) o reoliad 17 yn ôl y digwydd; a

(b)darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(3Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(4Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(6Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw), a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol ei gael.

(7Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—

(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Rhan hon o'r Rheoliadau; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(8Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(9Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(12), i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

(b)sydd wedi'i lleoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.

Rhwystro, etc. swyddogion

19.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rhan hon o'r Rheoliadau ar waith; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rhan hon o'r Rheoliadau ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

(a)yn darparu gwybodaeth y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Cosbau

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9, neu reoliad 11 neu 16 yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 19 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

21.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau, a hwnnw'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan baragraff (1) o reoliad 20, ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

RHAN IIIRHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau

22.  Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau—

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod gorfodi bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod gorfodi bwyd;

ystyr “awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru” (“outside Wales enforcement authority”) yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;

ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid neu fwyd y mae ei fewnforio wedi'i reoleiddio gan Erthygl 15 o Reoliad 882/2004 (bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn cwmpas Cyfarwyddeb 97/78/EC) ac mae'n cynnwys y cynhyrchion bwyd cyfansawdd hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC sy'n gosod y rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC(13), sy'n cynnwys rhestr gyfyngedig yn unig o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac sydd o'r herwydd wedi'u heithrio o ddarpariaethau Cyfarwyddeb 98/78/EC gan Erthygl 3(1) o'r Penderfyniad hwnnw;

ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio;

ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw'r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn Atodiad I i Reoliad 882/2004.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid

23.  Cyfrifoldeb yr awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ddosbarth, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd

24.  Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.

Swyddogaethau'r Comisiynwyr

25.  Rhaid i'r Comisiynwyr gyflawni'r swyddogaethau a roddir i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd.

Gohirio, gweithredu a gorfodi

26.—(1Pan fo—

(a)cynnyrch o drydedd wlad wedi dod i mewn i Gymru;

(b)archwiliad gan yr awdurdod tollau o'r cynnyrch hwnnw wedi'i gwblhau neu wedi'i ohirio hyd nes iddo gyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig;

(c)swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle daeth y cynnyrch i mewn i Gymru wedi dyroddi ar sail resymol awdurdodiad sy'n cadarnhau—

(i)y dylid gohirio archwilio'r cynnyrch at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio hyd nes y bydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yng Nghymru, neu

(ii)y dylai'r archwiliad hwnnw ddigwydd pan fydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfwriaeth sydd mewn grym yno ynghylch cynhyrchion a fewnforir; ac

(ch)person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),

daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.

(2Rhaid i'r ymgymeriad—

(a)datgan cyrchfan y cynnyrch; a

(b)cadarnhau—

(i)bod y cynhwysydd sy'n cynnwys y cynnyrch wedi'i selio ac na fydd yn cael ei agor nes iddo gyrraedd y gyrchfan,

(ii)bod agor y cynhwysydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, yr awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru os nad yw'r gyrchfan yng Nghymru, a

(iii)y bydd y cynhwysydd ar gael yn y gyrchfan honno i'w archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio neu, yn ôl y digwydd, deddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid i'r swyddog hwnnw—

(a)(os yw cyrchfan y cynnyrch yng Nghymru) hysbysu'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man hwnnw neu (os yw cyrchfan y cynnyrch mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig) hysbysu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru—

(i)nad yw'r cynnyrch (a ddisgrifir yn y fath fodd ag i ganiatáu iddo gael ei adnabod) wedi'i archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio, a

(ii)os yw archwiliad gan yr awdurdod tollau wedi'i ohirio, o'r ffaith honno; a

(b)anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).

(4Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.

(5Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff (1)(ch).

Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol

27.—(1Ni chaiff unrhyw berson—

(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd anifeiliaid penodedig sy'n mynd yn groes i ofynion diogelu bwyd anifeiliaid neu sy'n methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny; neu

(b)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd anifeiliaid penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad a hwnnw'n fwyd anifeiliaid sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid.

(2Ni chaiff unrhyw berson—

(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd penodedig sy'n methu â chydymffurfio â

(i)gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii)gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004; neu

(b)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio â—

(i)gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii)gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004.

(3Yn y rheoliad hwn—

(a)Ystyr “bwyd anifeiliaid penodedig”) (“specified feed”) yw bwyd anifeiliaid sy'n gynnyrch;

(b)Ystyr “bwyd penodedig” (“specified food”) yw bwyd sy'n gynnyrch.

Gwirio cynhyrchion

28.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004.

(2Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004, rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni'r gwiriadau hynny.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag Erthygl 16, bydd gan y swyddog hwnnw hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.

Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill

29.—(1Mae gan awdurdod gorfodi bwer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004 os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.

(2Yr awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004.

Penderfyniadau yn unol ag Erthygl 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)

30.—(1Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd unrhyw un o'r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(1)(a) a (b) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid hwnnw neu'r bwyd hwnnw, ar ôl i'r swyddog wrando ar weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid hwnnw neu weithredydd y busnes bwyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 19.

(2Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno arfer unrhyw un o'r pwerau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(2) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd hwnnw.

Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30

31.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fydd yn gymwys i'r trafodion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31

32.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl i'r llys hwnnw o dan reoliad 31(1) apelio i Lys y Goron.

Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

33.—(1Pan fo'r Cynulliad neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddo neu ganddi sail resymol dros amau, bod bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff y naill neu'r llall ohonynt drwy ddatganiad ysgrifenedig atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu osod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.

(2Bydd datganiad o'r fath yn ysgrifenedig ac fe'i cyhoeddir yn y modd y gwêl y Cynulliad neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yn dda a bydd yn pennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

(3Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

(6Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei dirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

Atebolrwydd am ffioedd

34.—(1Rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r person sy'n gyfrifol am lwyth o'r ffi sydd i'w thalu am y rheolaethau a gyflawnwyd arno gan yr awdurdod.

(2Os gofynnir amdani, bydd unrhyw ffi yr hysbysir person ohoni o dan baragraff (1) yn daladwy gan y person hwnnw i'r awdurdod gorfodi.

(3Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw unrhyw ffi am y costau a dynnir mewn cysylltiad â'r llwyth gan yr awdurdod gorfodi sy'n gweithredu fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004 yn rhinwedd rheoliad 29(2).

Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig

35.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—

(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—

(i)sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu

(ii)y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan neu o dan reoliad 37;

(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.

Dadansoddi etc. samplau

36.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 35—

(a)ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;

(b)ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.

(2Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—

(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu

(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(3Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

(4Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd, yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

(5Rhaid i ddadansoddydd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—

(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

(b)os yw'r sampl wedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

(6Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

(7Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

(8Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—

(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

(b)dogfen a ddarparwyd iddo gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.

(9Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal dan sylw, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

(10Mae'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau)(14) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi o dan reoliad 35 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

(11Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990.

Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd

37.—(1Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio o ran bwyd yn cael neu wedi cael ei thorri ar y fangre;

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno; ac

(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(2Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(3Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(4Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

(6Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (5)—

(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(7Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(8Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honno.

Rhwystro etc. swyddogion

38.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

(a)yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Tramgwyddau a chosbau

39.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn mynd yn groes i baragraff (5) o reoliad 26, rheoliad 27 neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 33, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy; neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd i'r person hwnnw o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 38 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)

40.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio, a hwnnw'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 39(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

RHAN IVDIWYGIO RHEOLIADAU BWYD CYFFREDINOL 2004

Diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

41.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004(15) wedi'u diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Yn lle rheoliad 4 (gofynion o dan Reoliad (EC) Rhif 178/2002 : tramgwyddau) rhodder y Rheoliad canlynol—

4.  Any person who contravenes or fails to comply with any of the following provisions of Regulation (EC) No. 178/2002 shall be guilty of an offence—

(a)Article 12 (food and feed exported from the Community) in so far as it relates to food;

(b)Article 14(1) (food safety requirements);

(c)Article 16 (presentation) in so far as it relates to food;

(d)Article 18(2) or (3) (traceability) in so far as it relates to food business operators;

(e)Article 19 (responsibilities for food: food business operators)..

(3Yn lle paragraff (2)(a) o reoliad 5 (cosbi tramgwyddau) rhodder yr is-baragraff canlynol—

(a)in the case of an offence under regulation 4(b), £20,000;.

(4Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (gorfodi) rhodder y paragraff canlynol—

(1) Subject to paragraph (2), each food authority shall enforce and execute the following provisions of Regulation (EC) No. 178/2002 and these Regulations in its area—

(a)Article 12 in so far as it relates to food;

(b)Article 14;

(c)Article 16 in so far as it relates to food;

(d)Article 18 in so far as it relates to food business operators; and

(e)Article 19..

(5Ar ôl rheoliad 6 (gorfodi) mewnosoder y rheoliad canlynol—

Defence for exports

6A.  In any proceedings for an offence of contravening or failing to comply with food law it shall be a defence for the accused to prove that—

(a)the item in respect of which the offence is alleged to have been committed was intended for export to a country that is not a member State and that the item could lawfully be exported there under Article 12 of Regulation (EC) No. 178/2002; or

(b)the item in respect of which the offence is alleged to have been committed was intended for export to a member State and that—

(i)the legislation applicable to that item in that member State is compatible with the relevant provisions of food law (except in so far as it relates to feed produced for or fed to food producing animals) at Community level, and

(ii)the item complies with that legislation..

RHAN VGORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

Tramgwyddau oherwydd bai person arall

42.  Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

43.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

(2Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

44.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff(1)(a) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd

45.  Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

46.—(1Ni fydd swyddog i awdurdod cymwys yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; a

(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2Ni chaniateir i unrhyw beth ym mharagraff (1) gael ei ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod cymwys rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.

(3Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod cymwys mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog —

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; ond

(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4Rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

Cyflwyno dogfennau

47.—(1Caniateir i unrhyw ddogfen, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i berson, gael ei chyflwyno—

(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

(b)yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu

(c)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

(2Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—

(a)drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Dirymiadau

48.—(1I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae'r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 Rhan I o Atodlen 6 wedi'u dirymu i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.

(2Mae'r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 Rhan II o Atodlen 6 wedi'u dirymu i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Tachwedd 2005

YR ATODLENNI

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(17) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(18);

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(19);

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(20) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(21); ac

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol sy'n ymwneud â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad 95/408/EC(22) y Cyngor.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw —

(a)Rhan IV o Ddeddf Amaeth 1970(23) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

(b)Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999(24);

(c)Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999(25);

(d)Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(26) ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwirio cydymffurfedd cynhyrchion ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol y mae'r indent cyntaf yn Erthygl 2.1(a) o Gyfarwyddeb 95/53/EC sy'n cadarnhau'r egwyddorion sy'n rheoli trefnu arolygiadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid(27) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2001/46/EC(28), i'r graddau y mae'r ddarpariaeth Gymunedol honno yn cael ei gweithredu yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion Sootechnegol) 1999(29);

(e)Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(30);

(f)Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(31);

(g)Rheoliadau Porthiant (Gofynion Diogelwch ar gyfer Bwyd Anifeiliaid ar gyfer Anifeiliaid sy'n Cynhyrchu Bwyd) 2000(32)); a

(h)Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw —

(a)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â —

(i)rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(33),

(ii)rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Phorthiant) (Cymru a Lloegr) 1999(34),

(iii)cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a chynnyrch bwyd yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2081/92 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a chynnyrch bwyd(35) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt(36),

(iv)cymhwyso'r rheolau a osodir ar gyfer tystysgrifau Cymunedol o natur benodol y gellir eu cael ar gyfer cynhyrchion a chynnyrch bwyd penodol yn Rheoliad (EEC) Rhif 2082/92 y Cyngor ar dystysgrifau o natur benodol ar gyfer cynhychion amaethyddol a chynnyrch bwyd(37) fel y'i diwygir ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt,

(v)rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(38) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(39),

(vi)rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(40), a

(vii)rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid —

(aa)o dan Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(41), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a

(bb)o dan Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(42), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth;

(b)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cyffyrddiad â bwyd ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli deunyddiau sy'n dod i gyffyrddiad â bwyd o dan Reoliadau Offer Crochenwaith (Diogelwch) 1988(43); ac

(c)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysDarpariaethau Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1)a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52 a 54
2.Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysDarpariaethau Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12,14, 19(1),(2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2.Yr awdurdod bwydErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 48

ATODLEN 6DIRYMIADAU

RHAN 1 —DIRYMU OFFERYNNAU SY'N GYMWYS O RAN CYMRU A RHANNAU ERAILL O BRYDAIN FAWR

Colofn 1Colofn 2Column 3
Yr OfferynnauY CyfeirnodGraddau'r Dirymu
Rheoliadau Arsenig mewn Bwyd 1959O.S. 1959/831Rheoliad 6(a)
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966O.S. 1966/1073Rheoliad 10(a)
Rheoliadau Asid Erwsig mewn Bwyd 1977O.S. 1977/691Rheoliad 6(a)
Rheoliadau Clorofform mewn Bwyd 1980O.S. 1980/36Rheoliad 7(a)
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1984O.S. 1984/1918Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985O.S. 1985/2026Rheoliad 11(a)
Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990O.S. 1990/2490Rheoliad 8
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991O.S. 1991/1476Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992O.S. 1992/1971Rheoliad 8
Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992O.S. 1992/1978Rheoliad 6
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993O.S. 1993/1658Rheoliad 6
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995O.S. 1995/77Rheoliadau 5(2) a 6(2)
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995O.S. 1995/3123Rheoliad 8
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995O.S. 1995/3124Rheoliad 10
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995O.S. 1995/3187Rheoliad 8
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996O.S. 1996/1499Rheoliad 47
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997O.S. 1997/1729Rheoliad 29
Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997O.S. 1997/2182Rheoliad 8
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997O.S. 1997/2537Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Bara a Blawd 1998O.S. 1998/141Rheoliad 9
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998O.S. 1998/1376Rheoliad 3(2)
Rheoliadau Llaeth Yfed 1998O.S. 1998/2424Rheoliad 7
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999O.S. 1999/1540Rheoliad 18(1) a (3)

RHAN 2 —DIRYMU OFFERYNNAU SY'N GYMWYS O RAN CYMRU

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Yr OfferynnauY CyfeirnodGraddau'r Dirymu
Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000O.S. 2000/1866 (Cy.125)Rheoliad 6
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001O.S. 2001/1361 (Cy.89)Rheoliad 7
Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001O.S. 2001/1440 (Cy.102)Rheoliad 9
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002O.S. 2002/2939 (Cy.280)Rheoliad 8
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003O.S. 2003/1719 (Cy.186)Rheoliad 10
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003O.S. 2003/3037 (Cy.285)Rheoliad 9
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003O.S. 2003/3041 (Cy.286)Rheoliad 8
Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003O.S. 2003/3044 (Cy.288)Rheoliad 8
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003O.S. 2003/3047 (Cy.290)Rheoliad 8
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003O.S. 2003/3053 (Cy.291)Rheoliad 8
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004O.S. 2004/314 (Cy.32)Rheoliad 11
Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004O.S. 2004/553 (Cy.56)Rheoliad 8
Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004O.S. 2004/1396 (Cy.141)Rheoliad 10(b)
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005O.S. 2005/364 (Cy.31)Rheoliad 6
Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005O.S. 2005/1224 (Cy.82)Rheoliad 9
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005O.S. 2005/1647 (Cy.128)Rheoliad 10(3)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a weithredir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith yn cael ei wirio ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1 o ran “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” a “cyfraith bwyd berthnasol”, y diffinnir y naill a'r llall yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hyn. Mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn, EC/882/2004, wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gwaharddiadau ar gyflwyno i Gymru, drwy eu mewnforio, fwydydd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol a hynny yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4) ac fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwnnw wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (O.S. 2004/3279) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002, sy'n gosod amodau ar allforio ac ailallforio bwyd a bwyd anifeiliaid o'r Gymuned er mwyn eu rhoi ar y farchnad mewn trydydd wlad, i'r graddau y mae'r Erthygl honno'n ymwneud â bwyd. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod rheoliad newydd, 6A, yn Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r rheoliad newydd hwnnw'n darparu amddiffyniad o ran allforion yn achos erlyniadau am dorri cyfraith bwyd neu fethu â chydymffurfio â hi. Mae'r amddiffyniad yn gymwys o ran eitemau y bwriedir eu hallforio i drydydd gwledydd yn ogystal ag i eitemau y bwriedir eu hallforio i Aelod-wladwriaeth.

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn enwi fel pwerau galluogi adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68) yn ogystal ag adrannau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16). Mae pwerau'r Ddeddf Diogelwch Bwyd wedi'u harfer i ddeddfu rheoliad 41(2) o'r Rheoliadau hyn, sy'n mewnosod rheoliad 4 diwygiedig yn Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd, fel a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod.

5.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn darparu ar gyfer dynodi cyrff penodedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 3);

(b)yn darparu ar gyfer cyfnewid a darparu gwybodaeth gan awdurdodau cymwys (rheoliad 4);

(c)yn galluogi awdurdod cymwys i'w gwneud yn ofynnol i gorff rheoleiddiol ddarparu gwybodaeth a sicrhau bod cofnodion ar gael a darparu bod person —

(i)sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu i sicrhau bod cofnodion ar gael, neu

(ii)ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

(ch)yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi codau arfer a argymhellir i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd (rheoliad 6);

(d)yn rhoi'r swyddogaeth o fonitro perfformiad awdurdodau gorfodi o ran gorfodi deddfwriaeth benodol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 7);

(dd)yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y pwer, at ddibenion cyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwn—

(i)i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu ac i gofnodion fod ar gael (rheoliad 8); a

(ii)i awdurdodi unigolion (a gaiff drwy hynny arfer pwerau penodol, gan gynnwys pwer mynediad) (rheoliad 9);

(e)yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn rheoliadau 7 i 9 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 10);

(f)yn darparu bod person sydd —

(i)yn rhwystro person sy'n arfer pwerau i fynd i mewn i fangre, i gymryd samplau ac i gopïo cofnodion,

(ii)yn methu â chydymffurfio â gofynion i ddarparu gwybodaeth neu sicrhau bod cofnodion ar gael neu ddarparu cyfleusterau, cofnodion, gwybodaeth neu gymorth arall, neu

(iii)yn darparu tystiolaeth anwir neu gamarweiniol, ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â'r cyfryw ofyniad,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 11);

(ff)yn darparu hawl i apelio ynglŷn â phenderfyniad yr awdurdod cymwys ynghylch cymeradwyo sefydliadau penodol a wneir o dan Erthygl 31 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliadau 12 a 13);

(g)yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 14);

(ng)yn darparu y caiff “swyddog gorfodi”, a ddiffinnir yn rheoliad 15(2), pan fydd yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, fynd ag un o arbenigwyr y Comisiwn gydag ef i alluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 15);

(h)yn darparu bod person sy'n mynd i mewn i fangre o dan y pwerau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (g) neu (ng) ac sy'n datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol yn euog o dramgwydd oni bai bod y person hwnnw yn gwneud hynny wrth gyflawni ei ddyletswydd (rheoliad 16);

(i)yn pennu pa awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 9(8), 11 ac 16 (rheoliad 17);

(j)yn darparu pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig yr awdurdodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i) (rheoliad 18);

(l)yn creu'r tramgwydd o rwystro swyddog rhag gweithredu i roi Rhan II o'r Rheoliadau hyn ar waith(rheoliad 19);

(ll)yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 20);

(m)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan Ran II (rheoliad 21);

(n)yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 23 a 24);

(o)yn darparu bod y Comisiynwyr dros Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflawni'r swyddogaethau a roddwyd i'r gwasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 25);

(p)yn darparu dros ohirio gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn nes bod y cynnyrch wedi cyrraedd ei gyrchfan (rheoliad 26);

(ph)yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 (fel a ddisgrifir ym mharagraff 2 uchod) yn gwahardd cyflwyno i Gymru fwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol oni chaiff amodau penodedig eu bodloni (rheoliad 27);

(r)yn darparu ar gyfer gwirio cynhyrchion a gyflwynir i Gymru (rheoliad 28);

(rh)yn darparu bod gan awdurdod gorfodi bwer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac yn darparu mai'r awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o'r Rheoliad hwnnw (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd) (rheoliad 29);

(s)yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd mesurau penodol neu arfer pwerau penodol o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 30);

(t)yn darparu hawl i apelio mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 (rheoliadau 31 a 32);

(th)yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth, drwy ddatganiad ysgrifenedig, yn atal neu'n gosod amodau ar gyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch o drydedd wlad os yw naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall neu os yw'n rhesymol iddo neu iddi amau bod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi ei gyflwyno neu a allai gael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad honno'n debygol o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd (rheoliad 33);

(aa)yn darparu bod ffioedd yn daladwy o ran rheolaethau a gyflawnir ar lwythi (rheoliad 34);

(bb)yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau o fwyd at ddibenion gweithredu a gorfodi'r “Darpariaethau Mewnforio”, a ddiffinnir yn rheoliad 22 (rheoliadau 35 a 36);

(cc)yn darparu pwerau mynediad ar gyfer swyddogion awdurdodedig i awdurdod bwyd o ran gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio (rheoliad 37);

(chch)yn creu tramgwydd o rwystro swyddog sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith (rheoliad 38);

(dd)yn creu tramgwyddau o ran mynd yn groes i reoliadau penodedig neu fethu â chydymffurfio â hwy a methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Darpariaethau Mewnforio ac yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran III (rheoliad 39);

(dddd)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan Ran III (rheoliad 40);

(ee)yn diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (O.S.2004/3279) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, fel a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod (rheoliad 41);

(ff)yn darparu pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 42);

(ffff)yn darparu ei bod yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd (rheoliad 43);

(gg)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bydd y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 44);

(ngng)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw, y bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 45);

(hh)yn darparu ar gyfer amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 46);

(ii)yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 47);

(ll)yn darparu ar gyfer dirymu offerynnau penodedig i'r graddau a bennir (rheoliad 48).

6.  Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p. 40), Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28) ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd Swyddogaethau “the Secretary of State” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999.

(6)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(13)

OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6.

(14)

O.S. 1990/2463, y gwnaed diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(16)

1998 p.38.

(17)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(18)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(19)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(20)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ No. L226, 25.6.2004, p.22).

(21)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

(22)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(27)

OJ No. L265, 8.11.95, t.17.

(28)

OJ No. L234, 1.9.2001, t.55.

(35)

OJ No. L208, 24.7.92, t.1.

(36)

OJ No. L236, 23.9.2003, t.346.

(37)

OJ No. L208, 24.7.92, t.9.

(39)

O.S. 2004/1604, diwygiwyd gan O.S. 2005/2003.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources