- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11. Pan gaiff asiantaeth gyfryngol gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddi gymryd camau rhesymol i gadarnhau—
(a)hunaniaeth ac oedran y ceisydd a hunaniaeth unrhyw berson sy'n gweithredu ar ei ran;
(b)bod unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y ceisydd wedi'i awdurdodi i wneud hynny; ac
(c)yn achos cais gan berthynas i'r person mabwysiedig bod y ceisydd yn perthyn i'r person hwnnw.
12.—(1) Rhaid i'r asiantaeth gyfryngol (onibai mai hi yw'r asiantaeth fabwysiadu briodol) gymryd pob cam rhesymol i sefydlu a oedd asiantaeth fabwysiadu ynghlwm wrth y mabwysiad ac, os felly, adnabod yr asiantaeth fabwysiadu briodol.
(2) Mae'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—
(a)gofyn yn ysgrifenedig am yr wybodaeth honno oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol;
(b)os bydd y Cofrestrydd Cyffredinol yn ardystio nad yw'r wybodaeth honno ganddo, gofyn amdani yn ysgrifenedig i'r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu; ac
(c)holi'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y mabwysiad.
(3) Os cafodd yr asiantaeth fabwysiadu briodol ei hadnabod, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol gysylltu â'r asiantaeth honno er mwyn gwybod a oes feto o dan reoliad 8 yn bodoli.
(4) os nad oes feto o dan reoliad 8 yn bodoli rhaid i'r asiantaeth gyfryngol —
(a)cael gwybod a yw'r gwrthrych wedi, ar unrhyw adeg, mynegi barn am gyswllt â pherthynas yn y dyfodol neu am godi pwnc cyswllt o'r fath gydag ef;
(b)cael gwybod beth yw barn yr asiantaeth ynghylch priodoldeb y cais (gan ystyried y ffactorau a grybwyllir yn rheoliad 6); a
(c)ceisio unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol at ddibenion—
(i) olrhain y gwrthrych;
(ii)galluogi'r gwrthrych i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano'i hun neu ar gyfer cyswllt â'r ceisydd;
(iii)cwnsela'r gwrthrych mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw; neu
(iv)cwnsela'r ceisydd.
(5) Onibai bod feto y cyfeirir ato yn rheoliad 8 yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu briodol gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (3) a chaiff ddatgelu i'r asiantaeth gyfryngol unrhyw wybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth adnabod) sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.
13.—(1) Os, yn unrhyw un o'r achosion a grybwyllir ym mharagraff (2), nad yw'r asiantaeth gyfryngol wedi cael oddi wrth yr asiantaeth fabwysiadu briodol ddigon o wybodaeth at y dibenion a grybwyllir yn rheoliad 12(4)(c), caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth am y canlynol a all ei chynorthwyo at y dibenion hynny—
(a)gwybodaeth y gall fod ganddi a fyddai'n galluogi i gais gael ei wneud am dystysgrif o'r Gofrestr Plant Mabwysiedig;
(b)gwybodaeth o'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.
(2) Yr achosion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)pan na all yr asiantaeth gyfryngol adnabod yr asiantaeth fabwysiadu briodol neu pan fydd yn canfod nad oedd dim asiantaeth fabwysiadu ynghlwm wrth y mabwysiad;
(b)pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu briodol ac yn cael gwybod nad oes ganddi'r wybodaeth angenrheidiol.
(3) Pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn asiantaeth fabwysiadu briodol ac nad oes ganddi ddigon o wybodaeth at y dibenion a grybwyllir yn rheoliad 12(4)(c) caiff ofyn i'r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) a(b) a all ei chynorthwyo at y dibenion hynny.
14.—(1) Rhaid i'r Cofrestrydd Cyffredinol gymryd camau rhesymol i gydymffurfio â chais ysgrifenedig am wybodaeth oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan reoliad 12 neu 13.
(2) Os nad yw'r wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol am yr asiantaeth fabwysiadu briodol o dan reoliad 13 rhaid iddo roi dilysiad ysgrifenedig i'r asiantaeth gyfryngol o'r ffaith honno ynghyd â manylion am y llys a drefnodd y mabwysiad.
15.—(1) Rhaid i'r llys ddatgelu unrhyw wybodaeth y mae'r asiantaeth gyfryngol yn gofyn amdani o dan reoliad 12(2)(b) a gynhwysir mewn cofnodion llys.
(2) Os nad oes gan y llys yr wybodaeth y gofynnir amdani o dan reoliad 12(2)(b) rhaid iddo hysbysu'r asiantaeth gyfryngol o'r ffaith honno yn ysgrifenedig, gan bennu'r chwiliadau o gofnodion llys a wnaed ac, os yw'r llys o'r farn y gellir dod o hyd i'r wybodaeth yng nghofnodion llys arall, roi manylion y llys hwnnw i'r asiantaeth gyfryngol.
16. Caiff asiantaeth gyfryngol ddatgelu'r wybodaeth honno (gan gynnwys gwybodaeth sy'n gyfrwng adnabod unrhyw berson) sy'n angenrheidiol—
(a)i'r Cofrestrydd Cyffredinol neu'r llys at ddiben cael gwybodaeth o dan reoliad 12 neu 13;
(b)i'r asiantaeth fabwysiadu briodol at ddiben cael gwybod ei barn neu geisio gwybodaeth o dan reoliad 12;
(c)i'r gwrthrych i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus o dan reoliad 7; ac
(ch)i berson sy'n darparu gwasanaethau cwnsela mewn cysylltiad â chais o dan y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: