Search Legislation

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2005 Rhif 2701 (Cy.190)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

27 Medi 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1CYFLWYNIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asiantaeth cymorth mabwysiadu cofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw asiantaeth cymorth mabwysiadu y mae person wedi'i gofrestru mewn cysylltiad â hi dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2);

mae i “yr asiantaeth fabwysiadu briodol” (“the appropriate adoption agency”) yr un ystyr â “the appropriate adoption agency” yn adran 65(1) o Ddeddf 2002;

ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw person mabwysiedig neu berthynas person mabwysiedig sy'n gwneud cais o dan reoliad 5;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

mae i “gwasanaeth cyfryngol” (“intermediary service”) ac “asiantaeth gyfryngol” (“intermediary agency”) yr ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 4;

ystyr “gwrthrych” (“subject”) mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn yw person y mae'r ceisydd yn gofyn am gyswllt ag ef;

mae i “gwybodaeth adnabod” (“identifying information”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7; ac

mae i “perthynas” yr un ystyr â “relative” o ran person mabwysiedig yn adran 98 o Ddeddf 2002.

RHAN 2DARPARU GWASANAETHAU CYFRYNGOL

Asiantaethau sy'n cael darparu gwasanaethau cyfryngol

3.—(1Caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig neu asiantaeth fabwysiadu ddarparu gwasanaeth cyfryngol mewn cysylltiad â phersonau a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005.

(2Ni chaniateir darparu gwasanaeth cyfryngol ond mewn cysylltiad â phersonau a fabwysiadwyd ac a gyrhaeddodd 18 oed.

(3Rhaid darparu'r gwasanaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(4Mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth cymorth mabwysiadu at ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002.

Ystyr “gwasanaeth cyfryngol” ac “asiantaeth gyfryngol”

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth a ddarperir at ddibenion—

(a)cynorthwyo personau mabwysiedig i gael gwybodaeth mewn perthynas â'u mabwysiad; a

(b)hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau.

(2Cyfeirir at asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig neu asiantaeth fabwysiadu sy'n darparu gwasanaeth cyfryngol yn y Rheoliadau hyn fel “asiantaeth gyfryngol”.

(3Nid yw asiantaeth fabwysiadu yn darparu gwasanaeth cyfryngol at ddibenion y Rheoliadau hyn os hi yw'r asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â pherson a fabwysiadwyd ac os nad yw hi ond yn darparu gwybodaeth am fabwysiad y person hwnnw.

RHAN 3CEISIADAU AM WASANAETH CYFRYNGOL

Blaenoriaeth i fabwysiadau cyn 1976

5.—(1Caiff asiantaeth gyfryngol, mewn perthynas â mabwysiad ar 30 Rhagfyr 2005, neu cyn hynny, dderbyn cais —

(a)oddi wrth y person mabwysiedig am gynorthwy i gael gwybodaeth am ei fabwysiad ac i gysylltu â pherthynas; neu

(b)oddi wrth berthynas y person mabwysiedig am gynorthwy i gysylltu â'r person hwnnw.

(2Caiff asiantaeth gyfryngol dderbyn cais mewn perthynas â mabwysiad ar 12 Tachwedd 1975 neu ar ôl hynny, ond rhaid iddi roi blaenoriaeth i geisiadau mewn cysylltiad â mabwysiadau cyn y dyddiad hwnnw.

(3Mewn ceisiadau o dan baragraff (1) a (2) uchod, rhaid i'r ceisydd a'r person y mae'r ceisydd yn ceisio cyswllt ag ef, neu'r person y mae'n ceisio gwybodaeth amdano, fod yn 18 oed neu'n hŷn.

Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol

6.—(1Nid yw'n ofynnol i asiantaeth gyfryngol sy'n derbyn cais o dan y Rheoliadau hyn fwrw ymlaen ag ef, neu os yw wedi dechrau bwrw ymlaen ag ef, nid yw'n ofynnol iddi barhau ag ef, os yw'r asiantaeth gyfryngol o'r farn na fyddai'n briodol gwneud hynny.

(2Wrth benderfynu a yw'n briodol i fwrw ymlaen (neu ddal ati) gyda chais rhaid i'r asiantaeth gyfryngol roi ystyriaeth i'r canlynol—

(a)lles —

(i)y ceisydd;

(ii)y gwrthrych; a

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'n bosibl eu hadnabod neu eu heffeithio o ganlyniad i'r cais;

(b)unrhyw farn gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol a gafwyd o dan reoliad 12;

(c)unrhyw feto a gofnodir o dan reoliad 8;

(ch)unrhyw wybodaeth a geir oddi wrth y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu o dan reoliad 13,

a holl amgylchiadau eraill yr achos.

(3Mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) rhaid i'r asiantaeth gyfryngol roi ystyriaeth arbennig i les unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (2)(a)(iii) sydd o dan 18 oed.

(4Os yw'r asiantaeth gyfryngol ar unrhyw adeg yn cael gwybod bod gwrthych y cais o dan 18 oed rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen ymhellach â'r cais mewn perthynas â'r gwrthrych hwnnw.

Cydsyniad y gwrthrych i ddatgelu etc.

7.—(1Rhaid i asiantaeth gyfryngol beidio â datgelu i'r ceisydd unrhyw wybodaeth adnabod am y gwrthrych heb yn gyntaf gael cydsyniad y gwrthrych.

(2Rhaid i'r asiantaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad i ddatgelu o dan y rheoliad hwn ddigon o wybodaeth i alluogi iddo wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i unrhyw ddatgeliad o'r fath.

(3Os yw'r gwrthrych wedi marw neu os yw'r asiantaeth gyfryngol yn penderfynu nad yw'r gwrthrych yn alluog i roi cydsyniad deallus, caiff yr asiantaeth gyfryngol ddatgelu yr wybodaeth adnabod honno am y gwrthrych yr ystyria ei bod yn briodol o ystyried y materion a nodir yn rheoliad 6.

(4Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 9 a 12, ystyr “gwybodaeth adnabod” yw gwybodaeth sydd, o'i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y ceisydd, yn galluogi i'r gwrthrych gael adnabod neu'i olrhain.

Feto gan berson mabwysiedig

8.—(1Mae feto yn gymwys mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn—

(a)pan fo'r person yn berson mabwysiedig; a

(b)pan fo'r person hwnnw wedi hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu briodol yn ysgrifenedig—

(i)nad yw'n dymuno i asiantaeth gyfryngol gysylltu ag ef mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn; neu

(ii)nad yw ond yn dymuno bod cyswllt yn cael ei wneud ag ef o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig.

(2Pan hysbysir yr asiantaeth fabwysiadu briodol am feto o dan baragraff (1) rhaid iddi gadw cofnod ohono a sicrhau ei bod yn hysbys i unrhyw asiantaeth gyfryngol sy'n cysylltu â hi mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn.

(3Pan fo asiantaeth gyfryngol yn ymwybodol bod feto yn gymwys, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â'r cais.

Darparu gwybodaeth gefndir pan fo cydsyniad yn cael ei wrthod etc.

9.  Mewn achos pan wrthodir cydsyniad y gwrthrych neu pan na ellir cael ei gydsyniad o dan reoliad 7 neu pan fo feto yn gymwys o dan reoliad 8, nid oes dim yn y rheoliadau hynny yn atal yr asiantaeth gyfryngol rhag datagelu i'r ceisydd unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw'n wybodaeth adnabod a bod yr asiantaeth yn ei hystyried yn briodol i'w datgelu.

Cwnsela

10.—(1Rhaid i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am argaeledd cwnsela i unrhyw berson—

(a)sy'n gwneud cais iddi o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)sy'n wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano i'r ceisydd.

(2Rhaid i'r wybodaeth a roddir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)disgrifiadau o bersonau sy'n cynnig cwnsela; a

(b)y ffioedd y gellir eu codi gan y personau hynny.

(3Os yw person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn am gael cwnsela, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol sicrhau bod gwasanaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.

(4Caiff yr asiantaeth gyfryngol ddarparu'r gwasanaethau cwnsela hynny eu hunan neu wneud trefniadau ag unrhyw un o'r personau canlynol am ddarpariaeth cwnsela—

(a)os yw'r person yng Nghymru neu yn Lloegr, asiantaeth fabwysiadu arall neu asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig arall;

(b)os yw'r person yn yr Alban, asiantaeth fabwysiadu Albanaidd;

(c)os yw'r person yng Ngogledd Iwerddon, cymdeithas fabwysiadu a gofrestrwyd o dan Erthygl 4 o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987(3) neu oddi wrth unrhyw Fwrdd; neu

(ch)os yw'r person y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw berson neu gorff y tu allan i'r Deyrnas Unedig y mae'n ymddangos i'r asiantaeth ei fod yn cyfateb o ran ei swyddogaethau i gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).

(5Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “Bwrdd” yw Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1972(4) neu pan fo swyddogaethau bwrdd yn arferadwy gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Ymddiriedolaeth honno.

(6Pan nad yw gwasanaethau cwnsela ar gael i wrthrych heblaw gwasanaethau y mae'n rhaid talu amdanynt ac mae'r gwrthrych yn dewis peidio â'u defnyddio, er hynny rhaid i'r asiantaeth gyfryngol ddarparu cymorth a chynorthwy i'r gwrthrych wrth iddo benderfynu ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth.

RHAN 4Y WEITHDREFN AR GYFER CEISIADAU

Y weithdrefn pan geir cais

11.  Pan gaiff asiantaeth gyfryngol gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddi gymryd camau rhesymol i gadarnhau—

(a)hunaniaeth ac oedran y ceisydd a hunaniaeth unrhyw berson sy'n gweithredu ar ei ran;

(b)bod unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y ceisydd wedi'i awdurdodi i wneud hynny; ac

(c)yn achos cais gan berthynas i'r person mabwysiedig bod y ceisydd yn perthyn i'r person hwnnw.

Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu briodol

12.—(1Rhaid i'r asiantaeth gyfryngol (onibai mai hi yw'r asiantaeth fabwysiadu briodol) gymryd pob cam rhesymol i sefydlu a oedd asiantaeth fabwysiadu ynghlwm wrth y mabwysiad ac, os felly, adnabod yr asiantaeth fabwysiadu briodol.

(2Mae'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—

(a)gofyn yn ysgrifenedig am yr wybodaeth honno oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol;

(b)os bydd y Cofrestrydd Cyffredinol yn ardystio nad yw'r wybodaeth honno ganddo, gofyn amdani yn ysgrifenedig i'r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu; ac

(c)holi'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y mabwysiad.

(3Os cafodd yr asiantaeth fabwysiadu briodol ei hadnabod, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol gysylltu â'r asiantaeth honno er mwyn gwybod a oes feto o dan reoliad 8 yn bodoli.

(4os nad oes feto o dan reoliad 8 yn bodoli rhaid i'r asiantaeth gyfryngol —

(a)cael gwybod a yw'r gwrthrych wedi, ar unrhyw adeg, mynegi barn am gyswllt â pherthynas yn y dyfodol neu am godi pwnc cyswllt o'r fath gydag ef;

(b)cael gwybod beth yw barn yr asiantaeth ynghylch priodoldeb y cais (gan ystyried y ffactorau a grybwyllir yn rheoliad 6); a

(c)ceisio unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol at ddibenion—

(i)  olrhain y gwrthrych;

(ii)galluogi'r gwrthrych i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano'i hun neu ar gyfer cyswllt â'r ceisydd;

(iii)cwnsela'r gwrthrych mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw; neu

(iv)cwnsela'r ceisydd.

(5Onibai bod feto y cyfeirir ato yn rheoliad 8 yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu briodol gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (3) a chaiff ddatgelu i'r asiantaeth gyfryngol unrhyw wybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth adnabod) sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Cael gwybodaeth oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol

13.—(1Os, yn unrhyw un o'r achosion a grybwyllir ym mharagraff (2), nad yw'r asiantaeth gyfryngol wedi cael oddi wrth yr asiantaeth fabwysiadu briodol ddigon o wybodaeth at y dibenion a grybwyllir yn rheoliad 12(4)(c), caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth am y canlynol a all ei chynorthwyo at y dibenion hynny—

(a)gwybodaeth y gall fod ganddi a fyddai'n galluogi i gais gael ei wneud am dystysgrif o'r Gofrestr Plant Mabwysiedig;

(b)gwybodaeth o'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.

(2Yr achosion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)pan na all yr asiantaeth gyfryngol adnabod yr asiantaeth fabwysiadu briodol neu pan fydd yn canfod nad oedd dim asiantaeth fabwysiadu ynghlwm wrth y mabwysiad;

(b)pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu briodol ac yn cael gwybod nad oes ganddi'r wybodaeth angenrheidiol.

(3Pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn asiantaeth fabwysiadu briodol ac nad oes ganddi ddigon o wybodaeth at y dibenion a grybwyllir yn rheoliad 12(4)(c) caiff ofyn i'r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) a(b) a all ei chynorthwyo at y dibenion hynny.

Y Cofrestrydd Cyffredinol i gydymffurfio â'r cais

14.—(1Rhaid i'r Cofrestrydd Cyffredinol gymryd camau rhesymol i gydymffurfio â chais ysgrifenedig am wybodaeth oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan reoliad 12 neu 13.

(2Os nad yw'r wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol am yr asiantaeth fabwysiadu briodol o dan reoliad 13 rhaid iddo roi dilysiad ysgrifenedig i'r asiantaeth gyfryngol o'r ffaith honno ynghyd â manylion am y llys a drefnodd y mabwysiad.

Y Llys i gydymffurfio â'r cais

15.—(1Rhaid i'r llys ddatgelu unrhyw wybodaeth y mae'r asiantaeth gyfryngol yn gofyn amdani o dan reoliad 12(2)(b) a gynhwysir mewn cofnodion llys.

(2Os nad oes gan y llys yr wybodaeth y gofynnir amdani o dan reoliad 12(2)(b) rhaid iddo hysbysu'r asiantaeth gyfryngol o'r ffaith honno yn ysgrifenedig, gan bennu'r chwiliadau o gofnodion llys a wnaed ac, os yw'r llys o'r farn y gellir dod o hyd i'r wybodaeth yng nghofnodion llys arall, roi manylion y llys hwnnw i'r asiantaeth gyfryngol.

Datgeliadau awdurdodedig

16.  Caiff asiantaeth gyfryngol ddatgelu'r wybodaeth honno (gan gynnwys gwybodaeth sy'n gyfrwng adnabod unrhyw berson) sy'n angenrheidiol—

(a)i'r Cofrestrydd Cyffredinol neu'r llys at ddiben cael gwybodaeth o dan reoliad 12 neu 13;

(b)i'r asiantaeth fabwysiadu briodol at ddiben cael gwybod ei barn neu geisio gwybodaeth o dan reoliad 12;

(c)i'r gwrthrych i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus o dan reoliad 7; ac

(ch)i berson sy'n darparu gwasanaethau cwnsela mewn cysylltiad â chais o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN 5AMRYWIOL

Tramgwydd

17.  Mae asiantaeth gyfryngol sy'n datgelu gwybodaeth yn groes i reoliad 7 heb esgus rhesymol yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Ffioedd

18.—(1Caiff asiantaeth gyfryngol godi unrhyw ffi ar geisydd y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol mewn cysylltiad â phrosesu cais o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff asiantaeth gyfryngol godi ffi ar berson a grybwyllir yn rheoliad 10(1) y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol o ran darparu gwasanaethau cwnsela i'r person hwnnw.

(3Caiff y Cofrestrydd Cyffredinol godi £10 am ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 13.

(4Caiff asiantaeth fabwysiadu godi ffi ar asiantaeth gyfryngol y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol ar gyfer darparu gwybodaeth neu roi ei barn yn unol â chais o dan reoliad 12.

(5Caiff llys godi £20 ar asiantaeth gyfryngol am ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 15.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Medi 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”) at ddibenion cynorthwyo pobl a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cysylltiad rhwng y bobl hynny a'u perthnasau geni drwy wasanaeth cyfryngol. Nodir y drefn ar gyfer datgelu gwybodaeth am fabwysiadau ar ôl 30 Rhagfyr 2005 yn adrannau 56 i 65 o'r Ddeddf. Bydd asiantaeth sy'n ymdrin â dim ond cais am wybodaeth am fabwysiad yr oedd yn asiantaeth fabwysiadu ynghlwm ag ef yn parhau i ymdrin ag ef o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983.

Mae Rhan 1 yn rhoi swyddogaethau newydd i asiantaethau cymorth mabwysiadu cofrestredig ac asiantaethau mabwysiadu (“asiantaethau cyfryngol”) sy'n fodlon darparu gwasanaeth cyfryngol o ran mabwysiadau cyn 30 Rhagfyr 2005.

Mae Rhan 2 yn ymdrin yn gyffredinol â cheisiadau am wasanaeth cyfryngol. Caiff asiantaeth gyfryngol gael cais am wasanaeth cyfryngol oddi wrth berson mabwysiedig neu berthynas person mabwysiedig. Caniateir derbyn ceisiadau o ran mabwysiadau ar ôl 12 Tachwedd 1975 ond rhaid rhoi blaenoriaeth i geisiadau mewn perthynas â mabwysiadau cyn y dyddiad hwnnw. Nid yw'n ofynnol i'r asiantaeth gyfryngol fwrw ymlaen â chais os yw o'r farn na fyddai'n briodol gwneud hynny. Mae rheoliad 6 yn nodi'r ffactorau y dylai'r asiantaeth gyfryngol eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gyfryngol gael cydsyniad deallus gwrthrych y cais cyn datgelu gwybodaeth amdano a fyddai'n dangos i'r ceisydd pwy ydyw neu a fyddai'n galluogi'r ceisydd i olrhain y gwrthrych hwnnw. Mae rheoliad 8 yn galluogi'r person mabwysiedig i gofrestru feto gyda'r asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cwnsela a sicrhau gwasanaethau cwnsela mewn perthynas â cheisiadau am wasanaethau cyfryngol. Rhaid i asiantaethau cyfryngol eu hunain roi cymorth a chynorthwy i berson sy'n wrthrych cais os bydd y person yn dewis peidio â thalu am wasanaeth cwnsela.

Mae Rhan 3 yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan yr asiantaeth gyfryngol wrth brosesu cais. Mae'r camau cyntaf yn cynnwys cadarnhau oedran a hunaniaeth y ceisydd a sefydlu ei fod yn perthyn i'r gwrthrych. Yna, dylai'r asiantaeth gyfryngol nodi'r asiantaeth fabwysiadu sy'n dal y cofnodion sy'n ymwneud â'r mabwysiad, gan geisio cynorthwy pan fo'n briodol oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol a'r llys. Yna, dylai gysylltu â'r asiantaeth i gael gwybod a gofrestrwyd feto ac i geisio ei barn ar y cais ac i geisio unrhyw wybodaeth sy'n angenrheidiol i olrhain gwrthrych y cais (rheoliad 12). Os na fu asiantaeth fabwysiadu ynghlwm, caiff yr asiantaeth gyfryngol ofyn am ar yr wybodaeth honno oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol a allai fod o gymorth wrth brosesu'r cais (rheoliad 13). Mae rheoliadau 14 a 15 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd Cyffredinol ac i'r llys ddarparu gwybodaeth pan ofynnir iddynt amdani. Mae rheoliad 16 yn awdurdodi datgeliadau penodol at ddibenion prosesu cais o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 5 yn ymwneud â materion amrywiol. Mae rheoliad 17 yn creu tramgwydd o ddatgelu gwybodaeth yn groes i reoliad 8. Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer ffioedd y gellir eu codi gan asiantaethau cyfryngol, asiantaethau mabwysiadu a'r Cofrestrydd Cyffredinol mewn perthynas â cheisiadau o dan y Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources