Search Legislation

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Holrhain a'u Labelu) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1914 (Cy.157)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Holrhain a'u Labelu) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

12 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym

15 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Holrhain a'u Labelu) (Cymru) 2005 deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd fel y cyfryw o dan reoliad 4;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, a

(b)

os oes Awdurdod Iechyd Porthladd, yr awdurdod hwnnw yn ychwanegol at yr awdurdod a bennwyd yn (a) uchod;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(3);

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw un o ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1830/2003(4) Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch olrhain a labelu organeddau a addaswyd yn enetig ac olrhain cynhyrchion bwyd a chynhyrchion bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig a diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC.

(2Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1), ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu y cyfeirir atynt ynddo, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

(3Mae gofyniad sy'n cael ei osod ar berson gan y Rheoliadau hyn i gyflawni gweithred neu i ymatal rhag ei chyflawni, ac sy'n amodol ar p'un a roddwyd rhyw hysbysiad neu a fynegwyd rhyw ofyniad i'r person hwnnw gan arolygydd, gan awdurdod lleol neu gan y Cynulliad, i'w osod hefyd os oedd yr hysbysiad hwnnw wedi'i roi neu'r gofyniad wedi'i fynegi gan berson a chanddo bŵer i wneud hynny o dan reoliadau sy'n gymwys i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ac sy'n rhoi ei effaith i Reoliad y Cyngor.

Gorfodi

3.—(1Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (2), rhaid i bob awdurdod lleol orfodi a gweithredu, o fewn ei ardal, ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

(2Caiff y Cynulliad gyfarwyddo, o ran ag achosion o ddisgrifiad penodol neu o ran ag unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodwyd ar awdurdod lleol gan y rheoliad hwn i'w chyflawni—

(a)gan y Cynulliad ac nid gan yr awdurdod lleol; neu

(b)gan y Cynulliad a'r awdurdod lleol yn gweithredu ar y cyd.

Penodi arolygwyr

4.—(1Caiff pob awdurdod lleol, neu mewn unrhyw achos y mae cyfarwyddyd gan y Cynulliad o dan reoliad 3(2) yn gymwys iddo, caiff y Cynulliad benodi'n arolygwyr y personau hynny y mae'r awdurdod lleol neu'r Cynulliad yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

(2Mae unrhyw benodiad—

(a)o swyddog awdurdodedig o dan adran 5(6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(5), neu

(b)o arolygydd o dan—

(i)adran 67(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(6), neu

(ii)rhan VI o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(7),

sy'n cael effaith ar yr adeg y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym yn cael effaith fel petai'n benodiad o'r swyddog neu'r arolygydd hwnnw i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Hawliau Mynediad

5.—(1Os yw'n ofynnol iddo wneud hynny, caiff arolygydd, ar ôl dangos tystiolaeth ddogfennol sy'n dangos ei awdurdod, arfer unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (3) isod at ddibenion gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

(2At y dibenion hyn, mae'r pwerau hynny yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw fangre ac eithrio unrhyw ran o fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion cartref.

(3Mae pwerau arolygydd fel a ganlyn—

(a)ar unrhyw adeg resymol—

(i)caiff fynd i mewn i fangre y mae ganddo le i gredu ei bod yn angenrheidiol iddo fynd i mewn iddi a chaiff gymryd gydag ef unrhyw berson a awdurdodwyd yn briodol gan yr awdurdod lleol y cafodd yr arolygydd ei benodi ganddo neu, mewn unrhyw achos y mae cyfarwyddyd gan y Cynulliad o dan reoliad 3(2) yn gymwys iddo, gan y Cynulliad ac, os bydd gan yr arolygydd sail resymol dros ragweld unrhyw rwystr difrifol wrth gyflawni ei ddyletswydd, caiff fynd â chwnstabl gydag ef; a

(ii)caiff gymryd gydag ef unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben y mae'r pŵer i fynd i mewn yn cael ei arfer ar ei gyfer;

(b)caiff gynnal y profion a'r arolygiadau (a gwneud y recordiadau) sy'n angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau;

(c)caiff gyfarwyddo y dylid gadael unrhyw fangre, neu unrhyw ran ohoni, y mae ganddo bŵer i fynd i mewn iddi, neu unrhyw beth yn y fangre honno neu arni, heb darfu arnynt (boed yn gyffredinol neu mewn ffyrdd penodol) am gyhyd ag y bo'n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw brawf neu arolygiad;

(ch)caiff gymryd samplau o unrhyw organeddau, eitemau neu sylweddau a geir mewn unrhyw fangre y mae ganddo bŵer i fynd i mewn iddi;

(d)yn achos unrhyw gynnyrch a geir mewn mangre y mae ganddo bŵer i fynd i mewn iddi a hwnnw'n gynnyrch sydd yn ôl pob golwg—

(i)wedi'i ffurfio o organeddau a addaswyd yn enetig neu'n eu cynnwys ac y mae gan yr arolygydd sail resymol dros gredu nad yw wedi'i labelu yn unol â Rheoliad y Cyngor, neu

(ii)yn achos bwyd neu fwyd anifeiliaid sydd i'w gynhyrchu o organeddau a addaswyd yn enetig ac y mae gan yr arolygydd sail resymol dros gredu ynglyn â'r bwyd neu'r bwyd anfeiliaid hwnnw nad yw'r wybodaeth a bennir yn erthygl 5(1) o Reoliad y Cyngor wedi'i throsglwyddo i'r gweithredydd sy'n cael y cynnyrch,

caiff gymryd meddiant ohono a dal ei afael arno cyhyd ag sy'n angenrheidiol at bob un neu unrhyw un o'r dibenion canlynol, sef—

(aa)ei archwilio;

(bb)sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn iddo orffen ei archwilio; ac

(cc)sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn;

(dd)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae ganddo sail resymol dros gredu ei fod yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i unrhyw brawf neu arolygiad o dan y paragraff hwn i ateb y cwestiynau y mae'r arolygydd yn barnu ei bod yn briodol eu gofyn a llofnodi datganiad bod ei atebion yn wir;

(e)at ddibenion paragraff (dd), caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ateb cwestiynau o'r fath yn absenoldeb unrhyw bersonau eraill, ac eithrio person a enwebwyd gan y person a grybwyllwyd yn gyntaf ac unrhyw bersonau y caiff yr arolygydd ganiatáu iddynt fod yn bresennol;

(f)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddangos unrhyw gofnodion, neu os yw'r wybodaeth wedi'i chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, i ddarparu darnau o unrhyw gofnodion, y mae'n ofynnol eu cadw er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig neu y mae'n angenrheidiol i'r arolygydd eu gweld at ddibenion unrhyw brawf neu arolygiad o dan y paragraff hwn;

(ff)caiff arolygu'r cofnodion hynny neu unrhyw eitem ynddynt, a chymryd copïau ohonynt; ac

(g)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi cyfleusterau a chymorth iddo o ran unrhyw faterion neu bethau sydd o fewn rheolaeth y person hwnnw ac y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas â hwy, i'r graddau y mae'r cyfleusterau hynny a'r cymorth hwnnw yn angenrheidiol i alluogi'r arolygydd i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.

(4Pan fo arolygydd yn cymryd meddiant, o dan y pŵer a roddwyd gan baragraff (3)(d) uchod, o unrhyw beth a geir mewn unrhyw fangre, rhaid iddo adael hysbysiad yno, naill ai gyda pherson cyfrifol neu, os nad yw hynny'n ymarferol, drwy ei osod mewn safle amlwg, a rhaid i'r hysbysiad hwnnw roi digon o fanylion i alluogi pobl i adnabod yr arolygydd, yr hyn y mae wedi'i atafaelu a rhaid i'r hysbysiad ddatgan ei fod wedi cymryd meddiant ohono o dan y pŵer hwnnw; a chyn cymryd meddiant o dan y pŵer hwnnw—

(a)o unrhyw beth sy'n rhan o swp o bethau tebyg, neu

(b)o unrhyw sylwedd,

rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol ac yn ddiogel iddo wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl wedi'i marcio mewn modd digonol i'w adnabod.

Cael Gwybodaeth oddi wrth Bersonau

6.—(1At unrhyw ddiben o ran gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig, caiff yr awdurdod lleol neu'r Cynulliad, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i unrhyw berson y mae'n ymddangos—

(a)ei fod yn ymwneud â rhoi ar y farchnad—

(i)cynhyrchion sydd wedi'u ffurfio o organeddau a addaswyd yn enetig neu sy'n eu cynnwys, neu

(ii)bwyd neu fwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu

(b)ei fod ar fin ymwneud, neu ei fod wedi bod yn ymwneud, â'r naill neu'r llall o'r gweithgareddau hynny,

ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi'r wybodaeth berthnasol sydd ar gael iddo ac a bennir yn yr hysbysiad, ar y ffurf ac o fewn y cyfnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad a bennir felly.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw gwybodaeth am unrhyw agwedd ar y gweithgareddau o dan sylw.

Cynhyrchion sydd wedi'u Labelu'n Anghywir

7.—(1Pan fo arolygydd wedi'i fodloni nad yw cynnyrch sydd wedi'i ffurfio o organeddau a addaswyd yn enetig neu sy'n eu cynnwys wedi'i labelu'n unol ag erthygl 4(6) o Reoliad y Cyngor, caiff wneud y canlynol drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd—

(a)gwahardd rhoi'r cynnyrch ar y farchnad tan ei fod wedi'i labelu'n gywir;

(b)pan fo unrhyw gynnyrch wedi'i roi ar y farchnad cyn dyddiad yr hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynhyrchion, a ddisgrifir yn yr hysbysiad ac nad ydynt wedi'u labelu yn unol â Rheoliad y Cyngor, gael eu tynnu'n ôl o fewn y cyfnod y mae'r arolygydd yn credu'n rhesymol ei fod yn angenrheidiol;

(c)gwahardd symud y cynnyrch o'r fangre a ddisgrifir yn yr hysbysiad ac eithrio er mwyn caniatáu i'r cynnyrch gael ei labelu'n gywir;

(ch)ei gwneud yn ofynnol i'r cynnyrch gael ei labelu yn unol â Rheoliad y Cyngor o fewn y cyfnod y mae'r arolygydd yn credu'n rhesymol ei fod yn angenrheidiol.

(2Caiff yr hysbysiad gynnwys amodau y mae'r arolygydd wedi'i fodloni eu bod yn rhesymol a ceir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach ar unrhyw bryd.

(3Rhaid cydymffurfio â hysbysiad o dan y rheoliad hwn ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

(4Os na chydymffurfir â hysbysiad o dan y rheoliad hwn, neu gam y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i'w gymryd, caiff arolygydd drefnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw neu'r cam hwnnw, a gall yr awdurdod lleol neu'r Cynulliad adennill yr holl gostau rhesymol o gymryd y camau hynny fel dyled oddi wrth y person hwnnw.

Tramgwyddau

8.—(1Mae'n dramgwydd i berson—

(a)mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig, neu fethu â chydymffurfio â hi;

(b)rhwystro arolygydd wrth iddo arfer pŵer a roddwyd iddo gan reoliad 5;

(c)methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodwyd o dan reoliad 5 neu reoliad 6;

(ch)methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â thelerau hysbysiad a ddyroddwyd o dan reoliad 7;

(d)gwneud datganiad neu roi unrhyw wybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, a gwneud y datganiad hwnnw neu roi'r wybodaeth honno yn ddi-hid neu gan wybod bod y datganiad neu'r wybodaeth yn anwir, os yw'r datganiad yn cael ei wneud neu os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi gan y person gan honni ei fod yn cydymffurfio—

(i)ag unrhyw ofyniad a osodir gan ddarpariaeth Gymunedol benodedig; neu

(ii)â chais gan arolygydd a wnaed at ddiben sy'n gysylltiedig â gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn; neu

(dd)rhoi eitem anwir yn fwriadol mewn unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan ddarpariaeth Gymunedol benodedig.

(2Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 8(1)(a) i brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y tramgwydd yn cael ei gyflawni ganddo ef ei hun neu gan berson sydd o dan ei reolaeth.

Tramgwyddau oherwydd bai person arall

9.  Os cyflawnir tramgwydd gan unrhyw berson o dan reoliad 8 oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, mae'r person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd, a gellir cyhuddo person o'r tramgwydd a'i gollfarnu ohono yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf neu beidio.

Tramgwyddau gan Gyrff Corfforaethol

10.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae'r paragraff blaenorol yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

Cosbau

11.  Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i dalu dirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.

Terfynau Amser

12.—(1Caniateir i achos am dramgwydd o dan reoliad 8, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gael ei gychwyn o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y daw tystiolaeth, sy'n ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau achos, yn hysbys iddo.

(2Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o'r fath yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau dwyn yr achos, yn hysbys iddo yn dystiolaeth derfynol am y ffaith honno.

(4Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Cyflwyno Hysbysiadau

13.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig.

(2Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o'r fath i berson—

(a)drwy ei draddodi i'r person hwnnw, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf;

(b)yn achos corff corfforedig, drwy ei draddodi i'r ysgrifennydd neu'r clerc yn y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn y swyddfa honno;

(c)yn achos partneriaeth (nad yw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), drwy ei draddodi i'r partner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli busnes y bartneriaeth, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth honno;

(ch)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei draddodi i aelod o'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth honno;

(d)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei adael, neu ei anfon drwy'r post ato, yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf; neu

(dd)pan fo cyfeiriad ar gyfer ei gyflwyno drwy gyfathrebiad electronig wedi'i roi gan y person hwnnw, ei anfon drwy ddefnyddio dull cyfathrebu electronig at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw.

(3Pan fo hysbysiad i'w gyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre ac nad yw'n ymarferol darganfod, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, enw a chyfeiriad y person y dylid ei gyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyfeirio at y person o dan sylw a'i ddisgrifio fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r fangre honno) ac—

(a)drwy ei draddodi i ryw berson yn y fangre; neu

(b)os nad oes unrhyw berson yn y fangre y gellir ei roi iddo, drwy osod yr hysbysiad, neu gopi ohono, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

(4Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno drwy gyfathrebiad electronig, bernir eifod wedi'i gyflwyno'n effeithiol os yw wedi ei gyfeirio'n iawn a'i drosglwyddo'n iawn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2005

Rheoliad 2(1)

YR ATODLEN

Darpariaethau Cymunedol Penodedig
Colofn 1Colofn 2
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y CyngorY Pwnc
Erthygl 4(1)Methu â sicrhau, yng nghyfnod cyntaf rhoi ar y farchnad gynnyrch sydd wedi'i ffurfio o Organeddau a Addaswyd yn Enetig (OAE) neu sy'n eu cynnwys, bod gwybodaeth benodedig yn cael ei throsglwyddo'n ysgrifenedig i'r gweithredydd sy'n cael y cynnyrch.
Erthygl 4(2)Methu â sicrhau, yng nghyfnodau dilynol ei roi ar y farchnad, bod yr wybodaeth a bennir yn erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor yn cael ei throsglwyddo'n ysgrifenedig i'r gweithredydd sy'n cael y cynnyrch.
Erthygl 4(3)Methu â sicrhau bod datganiad o ddefnydd, ynghyd â rhestr o'r dynodwyr unigol ar gyfer yr holl OAE hynny a ddefnyddiwyd i ffurfio'r cymysgedd, yn mynd gyda chynhyrchion sydd wedi'u ffurfio o OAE neu sy'n eu cynnwys ac sydd i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu.
Erthygl 4(4)Methu â chadw cofnodion o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau (1), (2) a (3) o erthygl 4 am gyfnod o bum mlynedd.
Erthygl 4(6)Methu â sicrhau bod yr wybodaeth a bennir yn erthygl 4(6) yn ymddangos ar labeli cynhyrchion sydd wedi'i ffurfio o OAE neu sy'n eu cynnwys.
Erthygl 5(1)Methu â sicrhau, wrth roi cynhyrchion a gynhyrchwyd o OAE ar y farchnad, bod gwybodaeth benodedig yn cael ei throsglwyddo'n ysgrifenedig i'r gweithredydd sy'n cael y cynnyrch.
Erthygl 5(2)Methu â chadw cofnodion o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn erthygl 5(1) am gyfnod o bum mlynedd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran Cymru ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1830/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Medi 2003 ynghylch olrhain a labelu organeddau a addaswyd yn enetig ac olrhain cynhyrchion bwyd a chynhyrchion bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig a diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t.24), sy'n uniongyrchol gymwys.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 15 Gorffennaf 2005.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi arolygwyr.

Mae rheoliad 5 yn darparu pwerau mynediad, gan gynnwys y pŵer i gynnal profion ac arolygiadau ac i gymryd samplau.

Mae rheoliad 6 yn galluogi arolygwyr i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei darparu.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod arolygwyr yn cael cyflwyno hysbysiadau sy'n ymdrin â chynhyrchion sydd wedi'u labelu'n anghywir.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn dramgwydd i fynd yn groes i ddarpariaethau Cymunedol penodedig; i rwystro arolygwyr wrth iddynt arfer eu pwerau o dan y Rheoliadau hyn; ac i roi gwybodaeth anwir; ac mae'n nodi amddiffyniad diwydrwydd dyladwy ynghylch mynd yn groes i ddarpariaethau Cymunedol penodedig.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddau sy'n cael eu cyflawni oherwydd bai person arall.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddau sy'n cael eu cyflawni gan gyrff corfforaethol.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn rhagnodi cosbau ac yn pennu terfynau amser ar gyfer dwyn erlyniadau.

Rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i bartoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r Is - adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

2000 p. 7; diwygiwyd y diffiniad o “electronic communications” yn adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.

(4)

OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.24.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources