- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, rhaid i'r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.
(2) Rhaid i wrandawiad yr apêl gael ei gynnal yn gyhoeddus oni bai bod y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg ac yn rhesymol i'r gwrandawiad neu unrhyw ran ohono gael ei gynnal yn breifat.
(3) Caiff yr apelydd a'r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.
(4) Os yw'r apelydd neu'r corff priodol yn methu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad, caiff y Cyngor wrando'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw a phenderfynu arni, ar yr amod bod y Cyngor wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y parti o dan sylw o dan baragraff 14.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), caiff yr apelydd a'r corff priodol roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dystion ac annerch y Cyngor ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar destun yr apêl.
(6) Ar unrhyw adeg yn ystod y gwrandawiad, caiff y Cyngor gyfyngu ar hawliau'r naill barti neu'r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod bod y Cyngor wedi'i fodloni na fydd gwneud hynny yn atal yr apêl rhag cael ei phenderfynu'n deg.
(7) Caiff y Cyngor ohirio'r gwrandawiad, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny oni bai ei fod wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn i'r apêl gael ei phenderfynu'n deg.
(8) Rhaid i amser a lleoliad gwrandawiad sydd wedi'i ohirio naill ai cael eu cyhoeddi cyn y gohiriad neu rhaid i'r Cyngor anfon hysbysiad at yr apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu am amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig yn ddi-oed, a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar ddyddiad y gohiriad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: