Search Legislation

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2

YR ATODLENAdroddiadau — materion a ragnodwyd at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf

1.  Rhagnodwyd y materion canlynol at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf.

2.  O ran plentyn y gwneir cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon fel “y plentyn”)—

(a)enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad cartref;

(b)cenedl a statws mewnfudo;

(c)disgrifiad corfforol;

(ch)anghenion datblygu, i gynnwys anghenion corfforol, addysgol ac emosiynol ac adroddiad ar iechyd y plentyn;

(d)cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol;

(dd)manylion unrhyw reithdrefnau llys sy'n ymwneud â chyfrifoldebau rhiant neu gynnal plentyn neu sy'n ymwneud â phreswylfa'r plentyn;

(e)i ba raddau y cafodd y plentyn gyswllt ag aelodau teulu'r plentyn;

(f)unrhyw leoliad gyda rhieni maeth neu unrhyw drefniadau gofal eraill sy'n ymwneud â'r plentyn;

(ff)addysg, i gynnwys unrhyw anghenion addysgol arbennig; ac

(g)dymuniadau a theimladau'r plentyn am warcheidiaeth arbennig.

3.  O ran teulu'r plentyn—

(a)enw, dyddiad a man geni a chyfeiriad cartref rhieni'r plentyn, ei frodyr a chwiorydd ac unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn eu bod yn berthnasol;

(b)cenedl a statws mewnfudo rhieni'r plentyn;

(c)os yw rhiant y plentyn yn aelod o gwpl, asesiad o sefydlogrwydd y berthynas honno ac, os yw'r rhiant yn briod neu os yw wedi ymrwymo mewn partneriaeth sifil, dyddiad a lle'r briodas neu'r bartneriaeth sifil;

(ch)a oes gan dad y plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn;

(d)a ydyw'r awdurdod lleol yn ystyried bod y naill riant neu'r llall yn debygol o wneud cais am orchymyn o dan y Ddeddf o ran y plentyn;

(dd)disgrifiad corfforol o'r rhieni, y brodyr a'r chwiorydd ac unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn eu bod yn berthnasol;

(e)cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y rhieni;

(f)swyddi'r rhieni, yn y presennol a'r gorffennol, a'u cyrhaeddiad addysgol;

(ff)y trefniadau gofal o ran unrhyw frawd neu chwaer i'r plentyn nad yw wedi cyrraedd 18 oed;

(g)barn y rhieni ynghylch y cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig o ran y plentyn; ac

(ng)y rheswm pam nad yw unrhyw ran o'r wybodaeth a ragnodwyd uchod yn y paragraff hwn ar gael.

4.  Mewn perthynas â'r darpar warcheidwad arbennig neu, pan fydd dau berson neu fwy yn ddarpar warcheidwaid arbennig ar y cyd, pob un ohonynt—

(a)enw, dyddiad a man geni a chyfeiriad cartref;

(b)cenedl a statws mewnfudo;

(c)y berthynas â'r plentyn;

(ch)disgrifiad corfforol;

(d)os yw darpar warcheidwad arbennig yn aelod o gwpl, asesiad o sefydlogrwydd y berthynas honno ac, os yw'r darpar warcheidwad arbennig yn briod neu wedi ymrwymo mewn partneriaeth sifil, dyddiad a lle'r briodas neu'r bartneriaeth sifil;

(dd)cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y darpar warcheidwad arbennig a pharodrwydd y darpar warcheidwad arbennig i ddilyn dymuniadau'r plentyn neu riant y plentyn o ran magwraeth grefyddol neu ddiwylliannol y plentyn;

(e)swyddi, yn y presennol a'r gorffennol, a'r cyrhaeddiad addysgol;

(f)adroddiad ar iechyd y darpar warcheidwad arbennig;

(ff)manylion am gartref y darpar warcheidwad arbennig, i gynnwys manylion incwm, sylwadau ar safonau byw yr aelwyd ac unrhyw ffactorau teuluol ac amgylcheddol ehangach a all effeithio ar y gynneddf i fod yn rhiant o ran y darpar warcheidwad arbennig;

(g)profiad blaenorol o ofalu am blant;

(ng)unrhyw asesiad yn y gorffennol fel darpar fabwysiadwr, rhiant maeth neu warcheidwad arbennig;

(h)y rhesymau dros wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig;

(i)y gynneddf i fod yn rhiant, i gynnwys asesiad o allu'r darpar warcheidwad arbennig i feithrin y plentyn drwy gydol ei blentyndod;

(j)manylion tri chanolwr personol, nad oes mwy nag un ohonynt yn perthyn i'r darpar warcheidwad arbennig, gydag adroddiad o farn y canolwyr ar y darpar warcheidwad arbennig; ac

(l)manylion o'r trefniadau byw ar gyfer y plentyn, ac os bwriedir iddynt newid ar ôl i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud.

5.  Mewn perthynas â'r awdurdod lleol a luniodd yr adroddiad—

(a)enw a chyfeiriad;

(b)manylion os cafwyd unrhyw ran o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2 i 4 gan yr awdurdod lleol ar y dechrau heblaw at ddibenion paratoi'r adroddiad ac, os felly, at ba ddiben y'i cafwyd, a'r dyddiad y'i cafwyd;

(c)manylion o'r camau a gymerwyd i ddilysu pwy yw'r darpar warcheidwad arbennig;

(ch)manylion o unrhyw ymwneud gan yr awdurdod lleol yn y gorffennol â'r darpar warcheidwad arbennig, gan gynnwys unrhyw baratoi yn y gorffennol ar gyfer y person hwnnw i fod yn rhiant maeth neu'n rhiant mabwysiadol;

(d)manylion o unrhyw asesiad a wnaeth yr awdurdod lleol o ran y gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer y darpar warcheidwad arbennig, y plentyn neu riant y plentyn;

(dd)pan fydd adran 14A(7)(a) o'r Ddeddf yn gymwys a bod y darpar warcheidwad arbennig yn byw yn ardal awdurdod lleol arall, manylion ymholiadau'r awdurdod lleol gyda'r awdurdod lleol arall hwnnw am y darpar warcheidwad arbennig; ac

(e)manylion am farn yr awdurdod lleol o ran a fyddai'r darpar warcheidwad arbennig yn warcheidwad arbennig addas ai peidio i'r plentyn.

6.  O ran y casgliadau yn yr adroddiad—

(a)crynodeb wedi'i baratoi gan y proffesiynolyn meddygol a roddodd yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2(ch) a 4(f) uchod ar iechyd y plentyn a'r darpar warcheidwad arbennig;

(b)manylion am farn y person sy'n gwneud yr adroddiad ar y cannlynol—

(i)goblygiadau gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig i'r plentyn;

(ii)sut y gellir diwallu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn;

(iii)a fyddai gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig er lles gorau'r plentyn yn y tymor hir;

(iv)sut y gellir diwallu anghenion emosiynol, anghenion ymddygiad ac anghenion addysgol y plentyn;

(v)yr effaith ar rieni'r plentyn o wneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig; a

(vi)os yw'n briodol, rhinweddau gwneud gorchymyn lleoliad neu orchymyn mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) neu orchymyn preswylio o dan adran 8 o'r Ddeddf o ran y plentyn; ac

(c)manylion casgliadau ac argymhellion y person sy'n gwneud yr adroddiad ar y mater a ddylid gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig o ran y plentyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources