Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Mehefin 2005.

Dehongli

2.  Yn rheoliad 6 i 9 ac yn yr Atodlen —

mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis a Bison bison;

ystyr “barcio” (“tanning”) yw caledu'r crwyn drwy ddefnyddio cyfryngau barcio llysieuol, halwynau cromiwm neu sylweddau eraill megis halwynau alwminiwm, halwynau fferrig, halwynau silicig, aldehydau a chwinonau, neu gyfryngau caledu synthetig eraill;

mae i'r ymadroddion “canolfan gasglu” a “sefydliad” yr ystyr a roddir i “collection centre” ac “establishment” yn adran B o Bennod 4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 92/118/EEC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ac iechyd cyhoeddus sy'n llywodraethu masnach yn y Gymuned a mewnforion i'r Gymuned o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodwyd yn rheolau penodedig y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC (fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn)(1);

ystyr “colagen” (“collagen”) yw cynnyrch sy'n seiliedig ar brotein sy'n dod o groen anifail buchol;

ystyr “colagen y bwriedir i bobl ei fwyta” (“collagen intended for human consumption”) yw colagen y bwriedir i bobl ei fwyta naill ai fel bwyd neu wedi'i gynnwys mewn unrhyw fwyd neu gynnyrch neu mewn deunydd a gaiff ei lapio amdanynt i bobl ei fwyta;

ystyr “crwyn” (“hides and skins”) yw meinweoedd croenol ac is-groenol;

ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; a

mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn adran A o Bennod 4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 92/118/EEC (fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn).

Diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999

3.  Diwygir Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999(2) yn unol â rheoliadau 4 a 5.

4.  Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (cynhyrchu sgil-gynhyrchion buchol a thraddodi a rhoi ar y farchnad gig buchol, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion penodol), rhodder y paragraff canlynol —

(1) No person will —

(a)produce any gelatin derived from a bovine animal slaughtered in the United Kingdom, being gelatin which is liable to enter the human food or animal feed chain or is destined for use in cosmetics or in medical or pharmaceutical products; or

(b)produce any collagen, derived from a bovine animal slaughtered in the United Kingdom, being collagen which is liable to enter the human food or animal feed chain or is destined for use in cosmetics or in medical or pharmaceutical products, unless it is collagen intended for human consumption in the United Kingdom..

5.  Ym mharagraff (3) o reoliad 9 (defnyddio sgil-gynhyrchion buchol a chynhyrchion eraill a reolir) —

(a)dileer y geiriau “gelatin or collagen produced” lle'r ymddangosant hwy gyntaf;

(b)rhodder y geiriau “gelatin or collagen produced” ar ddechrau is-baragraffau (a) a (b); a

(c)mewnosoder “; or” a'r is-baragraff a ganlyn ar ôl is-baragraff (b)—

(c)collagen produced in accordance with regulation 6 of the Production of Bovine Collagen Intended for Human Consumption in the United Kingdom (Wales) Regulations 2005.

Rheoli cynhyrchu colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yn y Deyrnas Unedig sy'n dod o anifeiliaid buchol a gigyddwyd yno

6.—(1Tan ddiwedd 2005 ni chaiff neb gynhyrchu unrhyw golagen sy'n dod o unrhyw anifail buchol a gigyddwyd yn y Deyrnas Unedig, sef colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yno, oni chydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraff 1 i 5 o'r Atodlen.

(2Bydd meddiannydd unrhyw sefydliad lle cynhyrchir colagen o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cadw cofnodion am ddwy flynedd —

(a)ar ffynonellau yr holl ddeunydd crai a ddaw yno, o ddyddiad ei dderbyn yn y sefydliad; a

(b)ar yr holl gynhyrchion sy'n mynd allan, o ddyddiad eu hanfon.

(3Tan ddiwedd 2005 ni chaiff neb lapio, pacio, storio neu gludo unrhyw golagen sy'n dod o unrhyw anifail buchol a gigyddwyd yn y Deyrnas Unedig, sef colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yno, oni chydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraff 6 o'r Atodlen.

Tramgwyddau a chosbau

7.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 6 yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored —

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau; neu

(b) ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(3Ni chychwynnir unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan reoliad 6 ar ôl i'r cyfnodau canlynol ddod i ben —

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion rheoliadau 6 a 7

8.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion rheoliadau 6 a 7, gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn gyfeiriad at reoliad 7 —

(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(3) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(c)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(dd)adran 35(1)(4) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(e)adran 35(2) a (3)(5) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A(6) (tramgwyddau gan Bartneriaethau Albanaidd); ac

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).

Gorfodi

9.—(1Gweithredir a gorfodir rheoliad 6 gan yr awdurdod bwyd o fewn ei ardal.

(2Wrth archwilio unrhyw golagen y bwriedir i bobl ei fwyta, caiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd y lleolwyd y fangre lle cafodd ei archwilio o fewn ei ardal, ardystio nad yw'r colagen o dan sylw wedi cael ei gynhyrchu, ei lapio, pacio, storio neu gludo yn unol â rheoliad 6.

(3Os ardystir unrhyw golagen y bwriedir i bobl ei fwyta fel y crybwyllir ym mharagraff (2), caiff ei drin at ddibenion adran 9(7) o'r Ddeddf fel methiant i gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources