- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
23. Sefydlir drwy hyn, yn effeithiol o 1 Ebrill 2004, gorff i'w alw'n Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru y bydd ganddo'r swyddogaethau canlynol—
(a)rhoi cyngor i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau;
(b)cynorthwyo Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau;
(c)cynrychioli safbwyntiau a buddiannau Cynghorau ar y cyd gerbron y Cynulliad;
(ch)monitro perfformiad Cynghorau a swyddogion a benodwyd o dan reoliad 14 gyda'r bwriad bod pob Cyngor yn datblygu a sicrhau cysondeb eu safonau.
24. Bydd ar Fwrdd CIC 28 o aelodau a bydd —
(a)26 ohonynt yn cael eu penodi gan y Cynghorau'n gweithredu ar y cyd; a
(b)2 yn cael eu penodi gan y swyddogion a benodwyd o dan reoliad 14 a'r rheini'n gweithredu ar y cyd.
25.—(1) Rhaid i'r Cynulliad benodi person sy'n dderbyniol i Fwrdd CIC i fod yn Gyfarwyddwr y Bwrdd a rhaid iddo hefyd, ar ôl ymgynghori â Bwrdd CIC ac yn ddarostyngedig i fod Bwrdd CIC yn derbyn unrhyw swyddogion unigol a benodir, benodi personau i fod yn swyddogion eraill Bwrdd CIC fel sy'n angenrheidiol ym marn y Cynulliad.
(2) Rhaid i benodiad person i weithredu fel un o swyddogion Bwrdd CIC gael ei wneud gan y Cynulliad mewn dull ac am gyfnod sy'n dderbyniol i Fwrdd CIC.
(3) Rhaid i bersonau a benodwyd yn unol â pharagraff (1) a pharagraff (2) gael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd Lleol y bydd y Cynulliad yn penderfynu arno at y diben , a hynny'n unol ag unrhyw reoliadau a wneir gan y Cynulliad ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ganddo o dan y Ddeddf, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw sy'n eu cyflogi'n sicrhau bod eu gwasanaeth ar gael i'r Cyngor gydol tymor eu gwasanaeth.
26.—(1) Rhaid i'r Cynulliad, ar ôl ymgynghori â Bwrdd CIC —
(a)ddarparu lle y mae ei angen ym marn y Cynulliad ar gyfer swyddfa a llety arall i Fwrdd CIC i alluogi'r Bwrdd i gyflawni ei swyddogaethau; a
(b)sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer y gwaith gweinyddu, cynnal a chadw, glanhau a'r gwasanaethau eraill hynny y gall fod eu hangen ym marn y Cynulliad ar gyfer llety o'r fath,
ond caiff yr aelodau, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad, wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau a llety.
(2) I alluogi Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau —
(a)caiff y Cynulliad sicrhau bod y cyfleusterau hynny y mae o'r farn bod eu hangen ac a ddarperir ganddo ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf (yn cynnwys defnyddio unrhyw fangre a defnyddio unrhyw gerbyd, peiriannau neu offer) ar gael i Fwrdd CIC; a
(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol y cyfeirir ato yn rheoliad 25(3) sicrhau bod gwasanaethau'r cyflogeion hynny a gall y Cynulliad eu pennu yn ei gyfarwyddyd ar gael.
27.—(1) Rhaid i Fwrdd CIC fabwysiadu cyfansoddiad a Rheolau Sefydlog fel y gwêl yn dda.
(2) Caniateir amrywio'r cyfansoddiad a'r rheolau a fabwysiedir felly mewn unrhyw gyfarfod dilynol o Fwrdd CIC.
(3) Caiff Bwrdd CIC benodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau y caiff personau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd CIC fod yn aelodau ohonynt.
(4) Bydd hawl gan gynrychiolydd o'r Cynulliad a chynrychiolydd o'r Bwrdd Iechyd Lleol y cyfeirir atynt yn rheoliad 25(3) fynychu unrhyw gyfarfodydd o Fwrdd CIC a chymryd rhan mewn trafodaethau (ond ni chânt gyfrannu at wneud penderfyniadau).
28. Rhaid i Fwrdd CIC, erbyn 1 Medi 2004 ac ym mhob blwyddyn ddilynol, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad ynghylch cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn gorffen ar 31 Mawrth y flwyddyn honno, ac ynghylch materion eraill y gall y Cynulliad ofyn amdanynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: