- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
29.—(1) Rhaid i'r Cynulliad dalu Bwrdd CIC a'r Cynghorau y symiau sydd eu hangen ym marn y Cynulliad er mwyn i Fwrdd CIC gyflawni ei swyddogaethau ac i'r Cynghorau gyflawni eu swyddogaethau hwythau o dan y Rheoliadau yn y drefn honno, a bydd yn rhaid talu'r symiau hyn ar yr adegau hynny ac o dan yr amodau hynny y gall y Cynulliad o dro i dro benderfynu arnynt.
(2) Rhaid i Fwrdd CIC gyflwyno i'r Cynulliad ar y ffurf ac erbyn y dyddiad y gall y Cynulliad ofyn amdanynt, yr amcangyfrifon hynny y gall y Cynulliad ofyn amdanynt o'r costau y mae Bwrdd CIC yn disgwyl mynd iddynt yn ystod y blynyddoedd ariannol hynny y gall y Cynulliad eu pennu.
(3) Rhaid i bob Cyngor gyflwyno i Fwrdd CIC ar y ffurf ac erbyn y dyddiadau y gall Bwrdd CIC ofyn amdanynt yr amcangyfrifon hynny y gall y Bwrdd CIC ofyn amdanynt o'r gwariant a ddisgwylir gan bob Cyngor yn ystod y blynyddoedd ariannol hynny y gall Bwrdd CIC eu pennu.
(4) Rhaid i Fwrdd CIC gadarnhau cyfansymiau'r amcangyfrifon a gyflwynir o dan baragraff (3) wedi'u haddasu neu heb eu haddasu, neu'n ddarostyngedig i'r fath amodau ag y gwêl Bwrdd CIC yn dda, a chaiff amrywio'r cadarnhad neu'r amodau ar unrhyw adeg a bydd yn argymell y symiau hynny i'r Cynulliad i'w talu o dan baragraff (1).
(5) Rhaid i wariant Bwrdd CIC a'r Cynghorau beidio â bod yn fwy na'r symiau a gymeradwywyd gan y Cynulliad o dan y rheoliad hwn.
30.—(1) Rhaid i Fwrdd CIC a'r Cynghorau baratoi a chadw'r cyfrifon hynny y gall y Cynulliad ofyn amdanynt a hynny mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol a rhaid i'r cyfrifon fod yn adlewyrchiad gwir a theg o unrhyw incwm a gwariant a llif arian mewn cysylltiad â Bwrdd CIC a'r Cynghorau.
(2) Rhaid i'r Cynghorau a Bwrdd CIC anfon copi o'u cyfrifon blynyddol eu hunain mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol i'r Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: